Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi trawsnewid yr A465 o Dowlais Top i Hirwaun mewn i ffordd ddeuol yn y ddau gyfeiriad.

Statws:
Wedi ei gwblhau
Rhanbarth / Sir:
de-ddwyrain Cymru
Dyddiad dechrau:
yn gynnar yn 2021
Dyddiad gorffen:
Mai 2025
Cost:
£1.4 biliwn
Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Beth wnaethon ni

Rydym wedi gwella rhan 11 milltir (17.7km) o'r A465 rhwng Hirwaun a Dowlais Top.

Mae'r ffordd bellach yn ffordd ddeuol 70mya gyda 6 cyffordd. Cyn hynny, roedd yn ffordd sengl 3 lôn.

Dechreuodd y prif waith ym mis Mai 2021, ac ailagorodd y ffordd yn swyddogol ar 30 Mai 2025.

Mae hyn yn cwblhau ein hymrwymiad gwerth £2 biliwn i uwchraddio 40km o ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd i ffordd ddeuol.

Roedd y gwaith yn cynnwys:

  • 17.7km o ffordd ddeuol newydd
  • 6km o ffyrdd ymyl newydd
  • mwy na 14km o lwybrau teithio llesol
  • 32 o bontydd newydd
  • 28 o waliau cynnal newydd
  • 38 o geuffosydd

Roedd gwaith amgylcheddol yn cynnwys:

  • plannu 120,000 o goed a llwyni
  • creu cynefinoedd newydd ar gyfer madfallod dŵr cribog, pathewod, cornchwiglod ac ystlumod
  • plannu 'tamaid y cythraul' i annog cadwraeth gloÿnnod byw britheg y gors
  • gosod dros 90 o flychau ystlumod
  • adeiladu mannau croesi o dan y ffordd, i helpu bywyd gwyllt i symud o gwmpas yn ddiogel
  • hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol mewn ysgolion lleol 

Fe wnaeth y prosiect hefyd roi hwb i'r economi leol trwy greu dros 2,000 o swyddi a chefnogi contractwyr a chyflenwyr. 

Ein rhesymau dros wneud hyn

Rydym am wneud y canlynol:

  • gwella llif y traffig a'i gwneud yn fwy diogel i oddiweddyd
  • gwneud y ffordd yn fwy diogel, yn enwedig o gwmpas cyffyrdd ac ardaloedd â gwelededd gwael
  • gwella mynediad at wasanaethau, swyddi a marchnadoedd allweddol sy'n cefnogi mewnfuddsoddiad i ardaloedd fel Ardal Fenter Glyn Ebwy.

Mae'r gwaith hwn wedi ymwneud â chreu swyddi, ffyniant, cyfleoedd a manteision ar gyfer cymunedau ledled y rhanbarth a'u cysylltu'n well. 

Mae'r gadwyn gyflenwi leol wedi gweld tua £400m o wariant yn ystod y gwaith adeiladu yng Nghymru gyda dros £230m yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd.

Amserlen

Arddangosfeydd cyhoeddus: diwedd 2015
Cyhoeddi Gorchmynion drafft a’r datganiad amgylcheddol: haf 2017
Cyhoeddi gorchmynion atodol drafft a datganiad amgylcheddol atodol: dechrau 2018
Ymchwiliad cyhoeddus lleol: gwanwyn 2018
Penderfyniad y Gweinidog: dechrau 2019
Llunio’r Gorchmynion: gwanwyn 2019
Cyhoedd i Gorchmynion Atodol drafft (Rhif 1): hydref 2019
Llunio Gorchmynion Atodol (Rhif 1): haf 2020
Cyhoeddi Gorchmynion Atodol drafft (Rhif 2): hydref 2020
Caffael contractwyr: hydref 2020
Dechrau’r gwaith adeiladu: yn gynnar yn 2021
Gorffen rhan newydd y gefnffordd: canol 2025

Sut gwnaethom ymgynghori

Gwnaethom ymgynghori ar welliannau i’r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun ym 1994 fel rhan o’r broses o ddatblygu’r llwybr a ffefrir ar gyfer y prosiect cyfan.

Ym mis Rhagfyr 2015 cynhaliwyd sesiwn gwybodaeth gyhoeddus yn tynnu sylw at opsiynau i wella y dyluniad o'r 1990au.

Fe wnaethom gynnal cyfres o gyflwyniadau i grwpiau lleol â diddordeb a chyfarfodydd gyda tirfeddianwyr lleol, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill. Mae'r rhain wedi ein helpu i ddeall sut mae'r cynigion yn cyd-fynd â blaenoriaethau, amcanion a pholisïau lleol.

Cynhaliwyd cyfres o arddangosfeydd gennym i ddangos y gorchmynion drafft ym mis Awst 2017.

Cynhaliwyd arddangosfeydd cyhoeddus gennym yn Ebrill a Mai 2018.

Hysbysiadau diweddaraf

Cyhoeddiadau a hysbysiadau

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau

Gorchmynion

Y ddeddfwriaeth sy’n ofynnol i’r prosiect fynd yn ei flaen gan gynnwys drafftiau i’r cyhoedd wneud sylwadau arnynt

Help a chymorth

Gofyn cwestiwn ynghylch y prosiect neu adrodd am broblem

Nawr bod y gwaith hwn wedi ei gwblhau, mae'r A465 rhwng Dowlais Top a Hirwaun yn cael ei rheoli gan Future Valleys Project Co.

Ar gyfer unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r ffordd, gallwch gysylltu â nhw ar: 

Croesawir galwadau yn Gymraeg.

Hawliadau

Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio iawndal os yw eich eiddo yn colli gwerth oherwydd sŵn, dirgryniad, llygredd neu oleuadau o ffordd newydd neu a newidiwyd.

Mae hyn yn cael ei alw'n hawliad Rhaglen 1 o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973.

Y cynharaf y cewch hawlio iawndal yw flwyddyn ar ôl i'r ffordd agor yn swyddogol i draffig.

Cewch wneud hawliad rhwng 30 Mai 2026 a 30 Mai 2032.