Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyffordd y Rhigos yn cysylltu Hirwaun, Heol y Rhigos, yr A4059, Heol y Tŵr a’r A465.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
A465 adran 5 a 6 , Cyffordd y Rhigos

Beth ydyn ni’n ei wneud

  • ymchwiliadau archeolegol
  • gosod ffordd dros dro
  • symud cyfleustodau
  • creu cwlfertau
  • gosod ffordd newydd
  • adeiladu pontydd

Byddwn yn codi’r ffordd dros y gyffordd newydd ac yn adeiladu pont rhwng y cylchfannau.

Byddwn yn ail-alinio Heol y Rhigos A4061 ar gyfer y cynllun newydd.

Byddwn yn adeiladu pont er mwyn codi’r A465 dros Nant y Bwlch, i’r dwyrain o’r gyffordd.

Byddwn yn adeiladu ffordd i’r dwyrain o gyffordd y Rhigos i’w chymryd o’r A465 bresennol.  Bydd yn pasio i’r de o dir llesiant Hirwaun ac yn ailymuno â’r A465 bresennol yn Nhre-waun.

Byddwn yn adeiladu ffordd dros dro i greu lle i adeiladu’r ffordd barhaol.

Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen

Rydym wedi:

  • clirio llystyfiant 
  • gwneud gwaith ymchwilio archaeolegol
  • symud gwasanaethau cyfleustodau cychwynnol yn yr ardal
  • adeiladu slipffordd newydd tua’r dwyrain a dargyfeirio traffig arni dros dro
  • adeiladu cwlfertau newydd (strwythurau twnnel ar gyfer draenio dŵr)
Image
Work at Rhigos junction
Y gwaith ar gylchfan cyffordd y Rhigos

Y camau nesaf

  • gwanwyn 2023: dechrau adeiladu’r ail gylchfan ac ailadeiladu Heol y Rhigos
  • adeiladu rhagor o gwlfertau, symud cyfleustodau a chodi ffensys
  • adeiladu’r bont newydd dros y gyffordd a chreu’r argloddiau ffordd newydd

I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.