Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyffordd Dowlais Top yn darparu cysylltiad â’r A4060, stryd fawr Dowlais Top ac ystâd ddiwydiannol Pen-garn-ddu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Map yn dangos y newidiadau yng nghyffordd Dowlais Top

Beth ydyn ni'n ei wneud

  • symud cyfleustodau
  • adeiladu ffordd dros dro
  • adeiladu ffordd ymuno
  • adeiladu pont yn Jones street
  • adeiladu pontydd
  • creu cynefin ar gyfer cornchwiglod
  • adeiladu cylchfan dros dro

Rydym wedi creu 2 gylchfan dros dro ar y gyffordd. Mae angen y rhain fel y gallwn adeiladu 2 bont newydd.  Bydd rhain yn cario’r A465 dros y gyffordd wedi ei chwblhau i ymuno â ffordd ddeuol yr A465.  Yn y pendraw bydd y 2 gylchfan dros dro yn cael eu disodli gan un gylchfan newydd. 

Caiff y ffordd ei hadeiladu ar arglawdd hyd at 30tr (9m) uwchlaw’r lefel bresennol.

Byddwn yn creu cynefin newydd ar gyfer cornchwiglod i’r dwyrain o’r gyffordd.

Byddwn yn symud cyfleustodau, gan gynnwys ceblau foltedd uchel uwchben, i adeiladu’r ffordd newydd.

Rydym wedi:

  • clirio llystyfiant
  • adeiladu dwy gylchfan dros dros i wella llif y traffig a chreu lle i adeiladu dwy bont
  • Dargyfeirio traffig i’r gerbytffordd ddwyreiniol
  • Sefydlu safle dros dro ar gyfer y tîm adeiladu
  • Ymchwilio a chynnal gwaith trin ar byllau glo
  • Cynnal cloddwaith sylweddol
  • Dargyfeirio cyfleustodau
  • Dechrau gwaith adeiladu ar gyfer y pontydd newydd yn y gylchfan bresennol
  • Gosod pont newydd i gerddwyr yn Dowlais Ponds (Dyddiad agor i’w gadarnhau)
Image
Works at Dowlais Top junction
Y gwaith yng nghyffordd Dowlais Top

Y camau nesaf

  • Bydd y gwaith o adeiladu’r ddwy bont, a fydd yn cynnal yr A465 dros y gylchfan bresennol, yn parhau
  • Gosod pridd i greu’r arglawdd ar gyfer cerbytffordd ddeuol newydd yr A465

I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.