Neidio i'r prif gynnwy

Y bywyd gwyllt sy'n byw ar hyd y darn o ffordd rydyn ni'n ei wella, a'r hyn rydyn ni'n ei wneud i'w warchod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r darn 11 milltir o adran 5 a 6 yr A465 yn rhedeg drwy dirwedd amrywiol. Mae'n cynnwys:

  • yr ardaloedd trefol adeiledig o amgylch Merthyr Tudful
  • trefi a phentrefi
  • safleoedd ôl-ddiwydiannol
  • tir fferm
  • coedwigoedd,
  • cronfeydd dŵr.

Ceir hefyd amrywiaeth eang o dir sy'n nodweddu Blaenau'r Cymoedd. Dyma sy’n ffurfio bioamrywiaeth yr ardal.

Mae cefnogi bioamrywiaeth ar hyd llwybr adran 5 a 6 yn bwysig. Mae'r ffordd wedi'i dylunio mewn modd sy’n ceisio cynnal tirwedd naturiol a nodweddion diwylliannol yr ardal.

Cynhaliwyd arolygon amgylcheddol cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.

Mae'n brosiect mawr, a hyd yn hyn rydym wedi cyflawni:

  • 100 o arolygiadau
  • 313 o arsylwadau amgylcheddol
  • 4,000 awr o oruchwyliaeth ecolegol

Mae hyn oll wedi ein helpu i ddarganfod pa fath o fywyd gwyllt sy'n byw yn yr ardal. Buom hefyd yn edrych ar y pridd a'r planhigion i weld pa fath o gynefinoedd sy'n gallu cefnogi'r bywyd gwyllt.

Yr hyn a ganfuwyd gennym

Dangosodd yr arolygon fod sawl rhywogaeth yn byw ar hyd y llwybr. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • ystlumod
  • pathewod
  • Madfallod Cribog Mawr
  • cornchwiglod
  • Glöynnod Byw Britheg y Gors

Image removed.

Ffotograff o froga cyffredin o safle'r A465 rhan 5 a 6
Hawlfraint: Future Valleys Construction

Sut y byddwn yn gwarchod y bywyd gwyllt

Er mwyn sicrhau bod gan y rhywogaethau hyn y lle sydd ei angen arnynt i ffynnu, rydym yn:

  • creu cynefinoedd newydd i ffwrdd o'r ffordd, gan gynnwys rhostir a choetir
  • symud tamaid y cythraul, planhigyn sy'n cefnogi Glöynnod Byw Britheg y Gors
  • gosod tai ystlumod
  • creu pwll Madfall Ddŵr Gribog
  • tynnu, storio ac ailddefnyddio uwchbridd
  • prynu tir ar gyfer safleoedd bridio newydd, wedi'u rheoli, ar gyfer cornchwiglod
  • symud gweoedd larfal Britheg y Gors i ardaloedd diogel, gan gynnwys tir fferm
  • gosod 421 o bydewau maglu mewn ardaloedd sydd wedi'u ffensio i symud dros 1,000 o amffibiaid neu ymlusgiaid yn ddiogel o'r gwaith. Mae'r rhain yn cynnwys:
    • 57 o Fadfallod Ddŵr Gribog Fawr
    • 123 o Fadfallod Dŵr Balfog
    • 61 o Frogâod Cyffredin
    • 496 o Lyffantod Cyffredin
    • 65 o Fadfallod Cyffredin
  • symud pathewod i gynefin newydd mewn 6.33 hectar o dir
  • tyfu 8,000 o blanhigion sy'n cefnogi Glöynnod Byw Britheg y Gors
  • cael gwared ar blanhigion sy'n dinistrio strwythurau ac yn ei gwneud yn anoddach i blanhigion defnyddiol dyfu
  • plannu dros 55,000 o goed a llwyni newydd i gymryd lle'r rhai a dynnwyd gennym i adeiladu'r ffordd

Mae'r gwaith rheoledig hwn yn cael ei fonitro gan:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Tîm Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Tîm Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • ecolegwyr arbenigol sy'n goruchwylio’r gwaith o adleoli rhywogaethau.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiect adran 5 a 6 yr A465 Dowlais Top i Hirwaun, ewch i'n tudalen prosiect, neu sianeli Facebook a Twitter yr A465.