Bydd y gwaith yn darparu ffordd ddeuol newydd a chynnal cysylltiad ar draws y ffordd ddeuol newydd ym Mhen-twyn Cynon, Afon Cynon, Court Farm a Chwm Nedd.

Beth rydyn ni'n ei wneud
- symud cyfleustodau
- adeiladu tanffordd yn Court Farm
- adeiladu pont dros linell reilffordd Afon Cynon a Chwm Nedd
- adeiladu pont newydd dros yr A465 ym Mhen-twyn Cynon
- gosod ffordd newydd
Byddwn yn adeiladu strwythurau newydd i ganiatáu i'r A465 groesi Afon Cynon, ac i ganiatáu mynediad i Court Farm a rheilffordd Cwm Nedd.
Bydd y strwythurau a'r ffordd yn cael eu hadeiladu mewn dau hanner gan ddechrau gyda'r rhan o'r ffordd tua'r gorllewin.
Pan symudir yr holl draffig i'r rhan o briffordd tua'r gorllewin, byddwn yn adeiladu'r strwythurau a'r ffordd tua'r dwyrain.
Bydd pont Pen-twyn Cynon yn cael ei hadeiladu dros y ffordd newydd ar gyfer Defnyddwyr Nad ydynt yn Fodurwyr (NMUs).
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- clirio’r safle a’r llystyfiant
- symud uwchbridd rhwng Court Farm a Chwm Nedd
Y camau nesaf
- gwanwyn 2022 i hydref 2022: byddwn yn adeiladu pont Afon Cynon
- haf 2022 i hydref 2022: byddwn yn adeiladu tanffordd Court Farm
- haf 2022 i hydref 2022: byddwn yn adeiladu pont Cwm Nedd
- 2022: byddwn yn adeiladu'r arglawdd, yn gosod rhwystrau draenio, ffensys a goleuadau, ac yn gosod wyneb y ffordd newydd.
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.