Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyffordd Hirwaun yn cysylltu heol Aberhonddu, heol Hirwaun a’r A465 bresennol, ac yn gadael i ffordd ddeuol newydd yr A465 basio o dan y gyffordd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Map yn dangos y newidiadau i gyffordd Hirwaun.
Map yn dangos y newidiadau i gyffordd Hirwaun.

Beth ydyn ni’n ei wneud

  • ymchwiliadau archeolegol
  • dymchwel tai
  • gosod ffordd dros dro
  • adeiladu pontydd
  • creu draeniau a chwlfertau
  • symud cyfleustodau
  • adeiladu cylchfan

I adeiladu’r ffordd hon, byddwn yn palu hyd at ddyfnder o 40 troedfedd (12.5 metr) i’r arwyneb.

Byddwn yn adeiladu pont dros yr A465 i sicrhau mynediad at Fferm Wynt Mynydd Bwllfa.

Byddwn yn adeiladu cylchfan i Dre-waun i gysylltu Pen-y-waun a Hirwaun.  Byddwn yn adeiladu 2 bont i gysylltu Heol Aberhonddu â’r A465.

Byddwn yn adeiladu ffordd dros dro i greu lle ar gyfer y ffordd newydd. Ni fydd cyffordd newydd Hirwaun yn cysylltu â’r A465.

Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen

Rydym wedi:

  • clirio llystyfiant a’r safle yn barod i'r gwaith adeiladu
  • gwneud gwaith ymchwilio archaeolegol ger ffordd fynediad y fferm wynt
  • chwalu adeilad o fewn ardal y cynllun.
  • adeiladu is-strwythur newydd ar gyfer Pont Gorllewin Hirwaun, a codi trawstiau concrit wedi’u rhag-gastio ar gyfer adeiladu dec y bont.
  • adeiladu priffordd dros dro newydd i greu lle i adeiladu pont Dwyrain Hirwaun.
  • gwyro traffig ar gylchfan dros dro er mwyn caniatáu adeiladu y bont.
  • gosod cwlfert draenio newydd o dan Ffordd Hirwaun.
  • cychwyn adeiladu pont Dwyrain Hirwaun.
  • agor ffordd dros dro ar yr A465 er mwyn creu lle i adeiladu waliau cynnal Trewaun.
Image
Works at Trewaun
Y gwaith yn Nhrewaun
Image
Works at Trewaun
Y gwaith yn Nhrewaun

Y camau nesaf

  • adeiladu wal gynnal wrth ymyl y tai yn Nhrewaun.
  • ymestyn y ffordd dros-dro o Dramffordd i gylchfan dros-dro newydd i'w lleoli i'r gorllewin o'r cynllun presennol ar gyffordd Hirwaun (Trewaun).
  • adleoli'r gylchfan dros dro yn Hirwaun (Trewaun) i leoliad newydd ymhellach i'r dwyrain yn Windfarm Road.
  • adeiladu ffordd A465 newydd tua'r gorllewin rhwng Castell-nedd a Hirwaun. 
  • gwaith parhaus i adeiladu trosbont Dwyrain Hirwaun a fydd yn cysylltu Ffordd Aberhonddu a Ffordd Hirwaun (A4059).

I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.