Bydd cyffordd Baverstock yn cysylltu Heol Abertawe, Heol Merthyr, Heol yr Amlosgfa a’r A465.

Beth ydyn ni'n ei wneud
- ymchwiliadau archeolegol
- symud ac ailgartrefu madfallod dŵr cribog a brithegion y gors
- gosod ffordd dros dro
- symud cyfleustodau
- adeiladu ffyrdd ymuno a ffordd newydd
- adeiladu pont
Pont dros yr A465, wedi’i chysylltu gan 2 gylchfan, fydd cyffordd Baverstock. Caiff hanner gorllewinol y gyffordd ei adeiladu ar arglawdd hyd at 52tr (16m) o ddyfnder. I adeiladu’r hanner dwyreiniol, byddwn yn palu hyd at 55tr (17m) o dan y wyneb.
Byddwn yn adeiladu arglawdd 40tr (12m) o uchder i gysylltu ochr ddwyreiniol y gyffordd â’r ffordd.
Byddwn yn adeiladu ffordd newydd i gysylltu Heol Abertawe â chyffordd Baverstock. Bydd yn rhedeg yn gyfochrog i’r de o’r A465 arfaethedig, a bydd yn cario traffig dwyffordd.
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.