Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyffordd Ysbyty’r Tywysog Siarl yn darparu mynediad i Ysbyty’r Tywysog Siarl, ffordd gylchol Gurnos a Heol Bryniau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Map yn dangos y newidiadau i gyffordd Ysybyty'r Tywysog Siarl
Map yn dangos y newidiadau i gyffordd ysbyty’r Tywysog Siarl.

Beth ydyn ni'n ei wneud

  • adeiladu wal gynnal
  • adeiladu ffordd gyswllt
  • symud cyfleustodau
  • creu cwlfertau
  • adeiladu cylchfan a phontydd
  • adeiladu pont Heol Bryniau

Byddwn yn adeiladu 2 bont i gario’r gyffordd ar y ffordd hon dros yr A465.

Byddwn yn adeiladu waliau bob ochr y ffordd i gynnal y ffyrdd ymuno.

Byddwn yn lledu’r ffordd bresennol rhwng cyffordd Ysbyty’r Tywysog Siarl a chyffordd Dowlais.

Byddwn yn adeiladu pont newydd ar Heol Bryniau i ddarparu mynediad i Galon Uchaf.

Byddwn yn symud cyfleustodau er mwyn gallu adeiladu’r ffordd newydd, gan gynnwys 2 biben cyflenwi dŵr fawr.

Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen

Rydym wedi:

  • clirio llystyfiant yn barod i'r gwaith ddechrau
  • symud y cyfleustodau presennol o dan y ddaear
  • codi ffensys dros dro
  • dechrau adeiladu waliau cynnal ar gyfer ffordd newydd yr A465 bob ochr i drosbontydd Tywysog Siarl (gweler map: lleoliad A)
  • adeiladu ffordd gyswllt newydd at Ystâd Ddiwydiannol Pant

Y camau nesaf

  • adeiladu ffyrdd newydd i'r gogledd o'r A465 presennol i ffurfio'r ffyrdd ymuno ac ymadael â’r gyffordd newydd a chysylltiad lleol sy'n cysylltu â Heol Bryniau (gweler y map: lleoliad B).
  • Cloddio ar gyfer y gerbytffordd tua’r dwyrain
  • byddwn yn adeiladu y ffordd fynediad newydd i Fferm Gurnos

I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.