Bydd cyffordd yr A470 yn cysylltu’r A470 â’r A465.

Beth ydyn ni'n ei wneud
- adeiladu ffordd dros dro
- symud cyfleustodau
- adeiladu traphont newydd yn Nant Ffrwd a Thaf Fawr
- adeiladu pont
- gwelliannau i’r gyffordd
Byddwn yn adeiladu cyffordd newydd yn lle’r un bresennol yng nghylchfan yr A470/A465.
Bydd dwy gylchfan ar y gyffordd ar yr A470, gyda ffyrdd i’r A465.
Rydym am adeiladu pont i gario’r A465 dros y ffordd gysylltu rhwng y ddwy gylchfan.
Byddwn yn adeiladu traphont newydd dros Nant Ffrwd a Thaf Fawr.
Byddwn yn symud cyfleustodau, gan gynnwys ceblau foltedd uchel uwchben, er mwyn gallu adeiladu’r ffordd newydd.


Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- clirio llystyfiant yn barod i'r gwaith ddechrau
- dechrau symud y ceblau foltedd uchel uwchben
- adeiladu traciau mynediad i’r pontydd
Y camau nesaf
- Gwanwyn 2021 i haf 2021: byddwn yn cwblhau'r ffordd fynediad breifat newydd i’r fferm/eiddo i gymryd lle'r rhan bresennol o'r ffordd breifat.
- Haf 2021 i haf 2022: byddwn yn adeiladu ffordd dros dro newydd i'r A470 i’r gogledd o'r gylchfan (gweler y llinellau oren ar y map).
- Haf 2021 i wanwyn 2023: byddwn yn adeiladu pont a thraphont newydd i gario'r ffordd ymuno ac ymadael tua'r dwyrain o’r A465 a phrif gerbytffordd yr A465 dros Nant Ffrwd.
- Haf 2021 i hydref 2023: byddwn yn adeiladu traphont newydd i gario cerbytffordd yr A465 dros Daf Fawr.
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.