Rydym yn bwriadu gwella’r amser teithio a diogelwch rhwng yr Afon Dyfrdwy a Chyfnewidfa Llaneurgain.
Trosolwg
Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn
Mae’r dudalen hon yn adlewyrchu ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd. Cafodd rhaglen newydd ei chyhoeddi yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.
Byddwn yn cyhoeddi tudalennau newydd ar y wefan er mwyn adlewyrchu’r rhaglen newydd.
Pam rydym yn ei wneud
Mae’r A494/A55 rhwng yr Afon Dyfrdwy a Chyfnewidfa Llaneurgain yn ffordd ddeuol 2 lôn. Mae tagfeydd rheolaidd yno.
Oherwydd oedrain a phryd y cafodd y ffordd ei chynllunio, mae’n cael trafferth i ymdopi gyda’r traffig arni ac mae’n is na safonau modern. Nid oes unman i gerbydau sydd wedi torri i lawr ddod oddi ar y ffordd. Mae gan rai o’r cyffyrdd ffyrdd ymadael/ymuno sy’n rhy fyr neu’n rhy agos at y ffordd, ac mae’n anodd gweld ar rai ohonynt. Ar y cyffyrdd hyn y gwelir rhan fwyaf y damweiniau yn anffodus.
Mae’r cynllun yn anelu at:
- wella gallu, dibynadwyedd ac amseroedd teithio
- gwella diogelwch, capasiti a lleihau allyriadau carbon
- gwella cysylltiadau busnes a gwella mynediad rhwng ardaloedd preswyl a lleoliadau gwaith
- gwneud defnydd mwy effeithiol o’r rhwydwaith trafnidiaeth presennol.
- gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus
- gwella llwybrau teithio llesol
Ble y gallwn, byddwn yn lleihau effaith y gwelliannau hyn ar dirgolion lleol, ar y tirlun, ansawdd yr aer a bioamrywiaeth.
Cynnydd presennol
Ymgynghorwyd ar ddau lwybr, ynghyd ag opsiwn Gwneud Dim, yn 2017.
Cyhoeddwyd ein dewis lwybr ym mis Medi 2017.
Rydym wedi penodi Corderoy i'n helpu i reoli'r gwaith o gyflawni'r cynllun. Mae Capita yn cefnogi Corderoy fel cynghorwyr technegol.
Mae Corderoy wedi datblygu strategaeth ar gyfer cam nesaf y cynllun.
Rydym wrthi'n caffael partner dylunio i ddatblygu'r llwybr a ffefrir.
Ym mis Mehefin 2020 cyhoeddwyd hysbysiad contract gennym ar gyfer y gwaith o ddatblygu cynllun rhagarweiniol. Disgwyliwn ddyfarnu'r contract erbyn gwanwyn 2021.
Ar ddiwedd 2020 byddwn yn casglu data drwy arolygon ar hyd y llwybr arfaethedig. Bydd hyn yn dweud mwy wrthym am ecoleg leol, bioamrywiaeth a nodweddion daearegol.
Llwybr a ffefrir
Y cynllun
Mae’r cynllun yn cynnwys:
- Cerbytffordd ddeuol dwy lôn newydd sy’n 13km o hyd yn cysylltu Cyffordd Llaneurgain yr A55-A5119 (Cyffordd 33) â’r A494 a’r A550 i’r gogledd o Gyffordd Parkway Glannau Dyfrdwy, drwy Gyfnewidfa Celstryn a Phont Sir y Fflint. Mae’r opsiwn hwn wedi’i rannu rhwng dilyn llinell y ffordd bresennol a chreu llinell newydd.
- Bydd y cynllun yn arwain at le i fwy o gerbydau ar hyd yr A548 bresennol, ynghyd ag addasu a gwella cyffyrdd. Bydd hefyd yn darparu rhan newydd o ffordd rhwng yr A548 a’r A55.
Amserlen
Arolygon ecolegol ac archwilio tir: diwedd 2020
Caffael partner cynllunio: gwanwyn 2021
Datblygu cynllun cychwynnol, paratoi datganiad amgylcheddol a Gorchmynion drafft: 2021 i 2022
Proses statudol: 2022 i 2024
Dylunio ac adeiladu manwl: 2024 i 2027
Ymgynghori
Ar gyfer y cynllun hwn maent i:
- gynnal arolygon ecolegol ac archwilio’r tir
- penodi partner cynllunio ar gyfer cam nesaf y cynllun
Camau nesaf
Y cam nesaf fydd caffael cyflenwyr i ddarparu cymal nesaf y cynllun.