Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Mae data ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2021 wedi'i ddiwygio.

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae gwybodaeth reoli ychwanegol a mwy amserol yn cael ei chasglu ar absenoldeb oherwydd salwch. Nid yw'n cael ei chasglu ar yr un sail â'r hyn a gyhoeddwyd yn y datganiad chwarterol hwn, ac felly bydd y ffigurau'n wahanol.

Mae’r wybodaeth reoli yn awgrymu bod cyfartaledd dyddiol o tua 900 (0.9%) o staff yn hunanynysu dros y chwarter yn dod i ben 30 Mehefin 2021, gyda’r ffigurau yn gostwng pob mis o gyfartaledd o tua 1,200 ym mis Ebrill i gyfartaledd o ychydig dros 700 yn ystod mis Mehefin. Cyhoeddir gwybodaeth ar coronafeirws a gweithgarwch a chapasiti'r GIG mewn diweddariad wythnosol.

Mae nifer o ffactorau sy’n gysylltiedig â COVID-19 wedi effeithio ar y data'r chwarter hwn:

  • roedd cyngor gwarchod i’r rhai eithriadol o agored i niwed yn glinigol mewn lle drwy gydol y chwarter
  • roedd brechlynnau ar gael i weithwyr gofal iechyd (ac eraill) o fis Rhagfyr 2020
  • roedd yr ail uchafbwynt o ran achosion a gadarnhawyd ar ddechrau mis Ionawr 2021

Mae staff eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar y rhestr gwarchod, ac felly nad ydynt yn y gwaith oherwydd hyn, yn cael eu cynnwys yn y cyfrif hunanynysu a gesglir yn y wybodaeth reoli. Yn yr ystadegau swyddogol hyn, nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu neu’n gwarchod yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl, ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau absenoldeb oherwydd salwch chwarterol hyn. Dylid parhau i ystyried yr ystadegau swyddogol yn ffynhonnell awdurdodol data ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Cyhoeddir y data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch cyfartalog ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021 oedd 5.7%. Roedd y cyfartaledd wedi bod yn cynyddu yn araf ers 2018 ond cynyddodd yn amlwg yn y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020. Arhosodd yn gymharol sefydlog am y chwarteri nesaf cyn gostwng yn y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021.

Chwarter yn dod i ben 30 Mehefin 2021

  • Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 5.5%, i lawr 1.0 pwynt canran o gymharu â’r chwarter yn dod i ben 30 Mehefin 2020.
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 8.1%.
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 1.7%.
  • Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf oedd y grŵp Ambiwlans, 8.8%.
  • Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf oedd staff Meddygol a Deintyddol, 1.5%.

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf; cyfrifir newidiadau pwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.

Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Image
Siart llinell sy’n dangos y gyfradd salwch misol gwirioneddol ar gyfer y GIG yng Nghymru, ynghyd â chyfartaledd symudol 12 mis. Mae’r rhain yn dangos amrywiadau misol rhwng 4.6% a 7.5% ond mae’r cyfartaledd symudol 12 mis yn amrywio o 5.1% i 6.0% yn unig. Fodd bynnag, roedd y cyfartaledd symudol 12 mis wedi cynyddu ers Ebrill 2020, yn unol â'r pandemig COVID-19, ond mae wedi gostwng o Ionawr 2021.

Absenoldeb oherwydd salwch ar StatsCymru

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn dangos amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn gyda'r gyfradd yn is yn yr haf ac yn uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Siart 1. Mae’r siart yn dangos bod y cyfartaledd symudol 12 mis wedi parhau tua 6.0% dros y flwyddyn hyd at Ionawr 2021 ond ers hynny mae wedi dechrau gostwng.

Mae’r siart hefyd yn dangos mai cyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis Ebrill 2020 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.5%) wedi ei ddilyn gan fis Rhagfyr 2020 (7.1%). O ystyried yr amseriad mae hyn yn fwy na thebyg oherwydd COVID-19. Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod, yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn. Gellir dod o hyd i gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch misol yn ôl sefydliad a grŵp staff ar StatsCymru.

Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Image
Mae data ar gyfer chwarter Ebrill i Fehefin 2021 yn dangos cyfartaledd o 5.5% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio ar draws sefydliadau o 1.7% yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru i 8.1% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad a dyddiad ar StatsCymru

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (8.1%) o holl sefydliadau’r GIG y chwarter yma, gyda’r gyfradd isaf yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (1.7%).

Cwm Taf Morgannwg oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (6.4%) o’r holl fyrddau iechyd lleol (BILlau) ar gyfer y chwarter yn diweddu 30 Mehefin 2021, gyda’r gyfradd isaf yn Hywel Dda (4.9%).

O gymharu â’r un chwarter yn 2020, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch ym MILl Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaethau GIG Felindre a’r Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Roedd yn is ym mhob sefydliad arall.

Mae data ar gyfer pob sefydliad ar gael ar StatsCymru.

Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Image
Mae data ar gyfer chwarter Ebrill i Fehefin 2021 yn dangos cyfartaledd absenoldeb oherwydd salwch o 5.5% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio o 1.5% ar gyfer Meddygol a deintyddol i 8.8% ar gyfer staff Ambiwlans.

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru

O’r chwe grŵp staff, y grŵp Ambiwlans oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf y chwarter yma (8.8%).

Staff Meddygol a Deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf y chwarter yma (1.5%) fel sydd wedi bod yn wir ers dechrau casglu data yn 2009.

Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch yn y grŵp staff Ambiwlans yn y chwarter yn diweddu 30 Mehefin 2021 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Bu lleihad yn y gyfradd ym mhob grŵp staff arall.

Mae data ar gyfer pob grŵp staff ar gael ar StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

16 Chwefror 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 6735
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 357/2021