Neidio i'r prif gynnwy

Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2020, sy'n cynnwys cyfnod cyntaf y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae data ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2020 wedi'i ddiwygio.

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae gwybodaeth reoli ychwanegol a mwy amserol yn cael ei chasglu ar absenoldeb oherwydd salwch. Nid yw'n cael ei chasglu ar yr un sail â'r hyn a gyhoeddwyd yn y datganiad chwarterol hwn, ac felly bydd y ffigurau'n wahanol. Mae’r wybodaeth reoli hon yn awgrymu bod cyfartaledd dyddiol o tua 4,000 (4.3%) o staff yn hunanynysu dros y chwarter yn dod i ben 30 Mehefin 2020, gyda’r ffigurau ar eu huchaf ym mis Ebrill (tua 4,500 neu 4.8%). Bydd rhai o’r staff hyn wedi bod yn gweithio gartref. Cyhoeddir gwybodaeth ar coronafeirws a gweithgarwch a chapasiti'r GIG mewn diweddariad wythnosol.

Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau chwarterol hyn am Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyhoeddir y data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

1. Prif bwyntiau

  • Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 6.5%, i fyny 1.4 pwynt canran o’r chwarter yn dod i ben Mehefin 2019.
  • Yn dilyn gostyngiad graddol yn ystod 2015 i 2017, mae’r cyfartaledd yn cynyddu ac roedd yn 6.0% dros y flwyddyn ddiwethaf; yn bennaf oherwydd y cynnydd yn y chwarter diweddaraf pan oedd y pandemig ar ei anterth.
  • Bae Abertawe oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 8.4%.
  • Awdurdod Iechyd Arbennig Addysg a Gwella Iechyd Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 1.3%.
  • Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf oedd cynorthwywyr a gweithwyr cymorth gofal iechyd, 8.9%.
  • Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf oedd staff meddygol a deintyddol, 2.5%.

2. Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 6.5% yn y chwarter yn dod i ben ar 30 Mehefin 2020, i fyny 1.4 pwynt canran o’r chwarter yn dod i ben Mehefin 2019.

Image
Siart llinell sy’n dangos y gyfradd salwch misol gwirioneddol ar gyfer y GIG yng Nghymru, ynghyd â chyfartaledd symudol 12 mis. Mae’r rhain yn dangos amrywiadau misol rhwng 4.6% a 6.4% ond mae’r cyfartaledd symudol 12 mis yn amrywio o 5.1% i 6.0% yn unig.

 

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn dangos amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn gyda'r gyfradd yn is yn yr haf ac yn uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Siart 1. Mae’r siart yn dangos bod y cyfartaledd symudol 12 mis wedi cynyddu yn y misoedd diwethaf gyda’r cyfartaledd am y 12 mis yn diweddu Mehefin 2020 (6.0%) yr uchaf ers i’r data ddechrau cael ei gasglu yn 2008.

Mae’r siart hefyd yn dangos mai cyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis Ebrill 2020 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.5%). O ystyried yr amseriad mae hyn yn fwy na thebyg oherwydd COVID-19. Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn. Gellir dod o hyd i gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch misol yn ôl sefydliad a grŵp staff ar StatsCymru.

3. Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Image
Mae data ar gyfer chwarter Ebrill i Fehefin 2020 yn dangos cyfartaledd o 6.5% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio ar draws sefydliadau o 1.3% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru i 8.4% ym Mwrdd Iechyd Lleol Bae Abertawe.

 

Bwrdd iechyd lleol Bae Abertawe oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (8.4%) o holl sefydliadau’r GIG y chwarter yma, gyda’r gyfradd isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (1.3%).

Bae Abertawe oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (8.4%) o’r holl BILlau ar gyfer y chwarter yn diweddu 30 Mehefin 2020, gyda’r gyfradd isaf ym Mhowys (4.9%).

Roedd y gyfradd oherwydd salwch yn uwch mewn saith o’r un ar ddeg sefydliad yn y chwarter Ebrill - Mehefin 2020 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yr eithriadau oedd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Mae data ar gyfer pob sefydliad ar gael ar StatsCymru.

4. Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Image
Mae data ar gyfer chwarter Ebrill i Fehefin 2020 yn dangos cyfartaledd absenoldeb oherwydd salwch o 6.5% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio o 2.5% ar gyfer meddygol a deintyddol i 8.9% ar gyfer cynorthwywyr a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

 

O’r chwe grŵp staff, Cynorthwywyr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf y chwarter yma (8.9%).

Staff meddygol a deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf y chwarter yma (2.5%) fel sydd wedi bod yn wir ers dechrau casglu data yn 2009.

Roedd y gyfradd oherwydd salwch yn uwch ym mhob grŵp staff ac eithrio staff ambiwlans yn y chwarter Ebrill i Fehefin 2020 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae data ar gyfer pob grŵp staff ar gael ar StatsCymru.

5. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

6. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 206/2020