Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno gwybodaeth am absenoldeb oherwydd salwch staff yn y GIG yng Nghymru. Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020, sy'n cynnwys haf cyntaf y pandemig coronafeirws. Mae data ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2020 wedi'i ddiwygio.

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae gwybodaeth reoli ychwanegol a mwy amserol yn cael ei chasglu ar absenoldeb oherwydd salwch. Nid yw'n cael ei chasglu ar yr un sail â'r hyn a gyhoeddwyd yn y datganiad chwarterol hwn, ac felly bydd y ffigurau'n wahanol.

Mae’r wybodaeth reoli yn awgrymu bod cyfartaledd dyddiol o tua 2,650 (2.7%) o staff yn hunanynysu dros y chwarter yn dod i ben 30 Medi 2020, gyda’r ffigurau yn lleihau pob mis i gyfartaledd o dan 2,000 yn ystod mis Medi. Mae’n debygol mai gwarchod yn dod i ben am y tro yng nghanol mis Awst yw achos y gostyngiad hwn gan fod y rhai sy’n gwarchod yn cael eu cynnwys yn y cyfrif hunanynysu. Bydd rhai o’r staff hyn wedi bod yn gweithio gartref. Cyhoeddir gwybodaeth ar coronafeirws a gweithgarwch a chapasiti'r GIG mewn diweddariad wythnosol.

Mae staff eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar y rhestr gwarchod, ac felly nad ydynt yn y gwaith oherwydd hyn, yn cael eu cynnwys yn y cyfrif hunanynysu. Yn yr ystadegau swyddogol hyn, nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu neu’n gwarchod yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl, ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau absenoldeb oherwydd salwch chwarterol hyn. Dylid parhau i ystyried yr ystadegau swyddogol yn ffynhonnell awdurdodol data ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyhoeddir y data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

1. Prif bwyntiau

  • Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 5.1%, i lawr 0.3 pwynt canran o gymharu â’r chwarter yn dod i ben Medi 2019.
  • Yn dilyn gostyngiad graddol yn ystod 2015 i 2017, mae’r cyfartaledd wedi bod yn cynyddu ac roedd yn 5.9% dros y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf oherwydd y cynnydd yn y chwarter Ebrill i Fehefin 2020 yn ystod y pandemig COVID-19.
  • Bwrdd iechyd lleol Bae Abertawe oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 6.2%.
  • Awdurdod Iechyd Arbennig Addysg a Gwella Iechyd Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 1.2%.
  • Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf oedd Cynorthwywyr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, 7.3%.
  • Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf oedd staff Meddygol a Deintyddol, 1.4%.

2. Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Image
Siart llinell sy’n dangos y gyfradd salwch misol gwirioneddol ar gyfer y GIG yng Nghymru, ynghyd â chyfartaledd symudol 12 mis. Mae’r rhain yn dangos amrywiadau misol rhwng 4.6% a 7.5% ond mae’r cyfartaledd symudol 12 mis yn amrywio o 5.1% i 6.0% yn unig.

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn dangos amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn gyda'r gyfradd yn is yn yr haf ac yn uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Siart 1. Mae’r siart yn dangos bod y cyfartaledd symudol 12 mis wedi lleihau ychydig yn y misoedd diwethaf (yn dilyn uchafbwynt o 6.0% yn y 12 mis yn diweddu Mehefin 2020) gyda’r cyfartaledd am y 12 mis yn diweddu Medi 2020 yn 5.9%.

Mae’r siart hefyd yn dangos mai cyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis Ebrill 2020 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.5%). O ystyried yr amseriad mae hyn yn fwy na thebyg oherwydd COVID-19. Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod, yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn. Gellir dod o hyd i gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch misol yn ôl sefydliad a grŵp staff  ar StatsCymru.

3. Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Image
Mae data ar gyfer chwarter Gorffennaf i Fedi 2020 yn dangos cyfartaledd o 5.1% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio ar draws sefydliadau o 1.2% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru i 6.2% ym Mwrdd Iechyd Lleol Bae Abertawe.

Bwrdd iechyd lleol Bae Abertawe oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (6.2%) o holl sefydliadau’r GIG y chwarter yma, gyda’r gyfradd isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (1.2%).

Bae Abertawe oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (6.2%) o’r holl fyrddau iechyd lleol (BILlau) ar gyfer y chwarter yn diweddu 30 Medi 2020, gyda’r gyfradd isaf ym Mhowys (4.4%).

Roedd y gyfradd oherwydd salwch yn is ym mhob ond dau o’r un ar ddeg sefydliad yn y chwarter Gorffennaf - Medi 2020 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yr eithriadau oedd BILl Bae Abertawe lle'r oedd y gyfradd yn uwch; ac arhosodd y gyfradd yr un peth ym Mhowys.

Mae data ar gyfer pob sefydliad ar gael ar StatsCymru.

4. Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Image
Mae data ar gyfer chwarter Gorffennaf i Fedi 2020 yn dangos cyfartaledd absenoldeb oherwydd salwch o 5.1% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio o 1.4% ar gyfer meddygol a deintyddol i 7.3% ar gyfer cynorthwywyr a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Gostyngodd y gyfradd Gorffennaf i Fedi 2020 ym mhob grŵp staff o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.

O’r chwe grŵp staff, Cynorthwywyr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf y chwarter yma (7.3%).

Staff Meddygol a Deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf y chwarter yma (1.4%) fel sydd wedi bod yn wir ers dechrau casglu data yn 2009.

Roedd y gyfradd oherwydd salwch yn is ym mhob grŵp staff yn y chwarter Gorffennaf i Medi 2020 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae data ar gyfer pob grŵp staff ar gael ar StatsCymru.

5. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

12 Mai 2021

6. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 6735
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 40/2021