Neidio i'r prif gynnwy

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae gwybodaeth reoli ychwanegol a mwy amserol yn cael ei chasglu ar absenoldeb oherwydd salwch. Nid yw'n cael ei chasglu ar yr un sail â'r hyn a gyhoeddwyd yn y datganiad chwarterol hwn, ac felly bydd y ffigurau'n wahanol.

Mae’r wybodaeth reoli yn awgrymu bod cyfartaledd dyddiol o ychydig dros 2,000 (2.1%) o staff yn hunanynysu dros y chwarter yn dod i ben 31 Rhagfyr 2020, gyda’r ffigurau yn cynyddu pob mis i gyfartaledd o tua 2,400 yn ystod mis Rhagfyr. Yn dilyn gwarchod yn dod i ben am y tro yng nghanol mis Awst, ailgyflwynwyd math o warchod ar 22 Rhagfyr 2020 ond mae hyn yn debygol o gael effaith fach iawn ar y data y chwarter yma. Bydd rhai o’r staff hyn wedi bod yn gweithio gartref. Cyhoeddir gwybodaeth ar coronafeirws a gweithgarwch a chapasiti'r GIG mewn diweddariad wythnosol.

Mae staff eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar y rhestr gwarchod, ac felly nad ydynt yn y gwaith oherwydd hyn, yn cael eu cynnwys yn y cyfrif hunanynysu. Yn yr ystadegau swyddogol hyn, nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu neu’n gwarchod yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl, ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau absenoldeb oherwydd salwch chwarterol hyn. Dylid parhau i ystyried yr ystadegau swyddogol yn ffynhonnell awdurdodol data ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyhoeddir y data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Yn dilyn gostyngiad graddol yn ystod 2015 i 2017, mae’r cyfartaledd symudol 12 mis absenoldeb oherwydd salwch wedi bod yn cynyddu ac roedd yn 6.0% dros y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf oherwydd cynnydd o chwarter Ebrill i Fehefin 2020 yn ystod y pandemig COVID-19.

Chwarter yn dod i ben 31 Rhagfyr 2020

  • Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 6.4%, i fyny 0.4 pwynt canran o gymharu â’r chwarter yn dod i ben 31 Rhagfyr 2019.
  • Bwrdd iechyd lleol Cwm Taf Morgannwg oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 8.5%.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 2.7%.
  • Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf oedd y grŵp Ambiwlans, 9.6%.
  • Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf oedd staff Meddygol a Deintyddol, 2.1%.

Mae’r rhifau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf; cyfrifir newidiadau pwyntiau canran gan ddefnyddio y rhifau heb eu talgrynnu.

Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Image
Siart llinell sy’n dangos y gyfradd salwch misol gwirioneddol ar gyfer y GIG yng Nghymru, ynghyd â chyfartaledd symudol 12 mis. Mae’r rhain yn dangos amrywiadau misol rhwng 4.6% a 7.5% ond mae’r cyfartaledd symudol 12 mis yn amrywio o 5.1% i 6.0% yn unig.

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn dangos amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn gyda'r gyfradd yn is yn yr haf ac yn uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Siart 1. Mae’r siart yn dangos bod y cyfartaledd symudol 12 mis wedi lleihau ychydig yn y chwarter Gorffennaf i Fedi 2020 yn dilyn uchafbwynt o 6.0% yn y 12 mis yn diweddu Mehefin 2020, ond mae wedi cynyddu eto, gyda’r cyfartaledd am y 12 mis yn diweddu Rhagfyr 2020 yn ôl i 6.0%.

Mae’r siart hefyd yn dangos mai cyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis Ebrill 2020 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.5%) wedi ei ddilyn gan fis Rhagfyr 2020 (7.1%). O ystyried yr amseriad mae hyn yn fwy na thebyg oherwydd COVID-19. Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod, yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn. Gellir dod o hyd i gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch misol yn ôl sefydliad a grŵp staff ar StatsCymru.

Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Image
Mae data ar gyfer chwarter Hydref i Ragfyr 2020 yn dangos cyfartaledd o 6.4% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio ar draws sefydliadau o 2.7% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru i 8.5% ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Morgannwg.

Bwrdd iechyd lleol Cwm Taf Morgannwg oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (8.5%) o holl sefydliadau’r GIG y chwarter yma, gyda’r gyfradd isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2.7%).

Cwm Taf Morgannwg oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (8.5%) o’r holl fyrddau iechyd lleol (BILlau) ar gyfer y chwarter yn diweddu 31 Rhagfyr 2020, gyda’r gyfradd isaf ym Mhowys (5.1%).

O gymharu â’r un chwarter yn 2019, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch ym mhob un o’r BILlau yn ne Cymru (Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg, Aneurin Bevan a Caerdydd a’r Fro) yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn is ym MILlau Betsi Cadwaladr a Powys, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Arhosodd y gyfradd yr un peth ym MILl Hywel Dda ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae data ar gyfer pob sefydliad ar gael ar StatsCymru.

Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Image
Mae data ar gyfer chwarter Hydref i Ragfyr 2020 yn dangos cyfartaledd absenoldeb oherwydd salwch o 6.4% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio o 2.1% ar gyfer meddygol a deintyddol i 9.6% ar gyfer staff ambiwlans. Cynyddodd y gyfradd Hydref i Ragfyr 2020 ym mhob grŵp staff oni bai am gweinyddiaeth ac ystadau o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. Nid oedd newid yn y gyfradd ar gyfer staff meddygol a deintyddol.

O’r chwe grŵp staff, y grŵp Ambiwlans oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf y chwarter yma (9.6%).

Staff Meddygol a Deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf y chwarter yma (2.1%) fel sydd wedi bod yn wir ers dechrau casglu data yn 2009.

Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch ym mhob grŵp staff oni bai am y grŵp Gweinyddu ac ystadau yn y chwarter Hydref i Ragfyr 2020 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Nid oedd newid yn y gyfradd ar gyfer staff Meddygol a deintyddol.

Mae data ar gyfer pob grŵp staff ar gael ar StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

11 Awst 2021

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 6735
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 142/2021