Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW) yn pennu’r gofynion y mae rhaid eu bodloni er mwyn i fframweithiau prentisiaethau Cymreig cydnabyddedig gael eu cyhoeddi o dan adran 19(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 ("Deddf 2009").

Rydym yn ymgynghori ar wneud addasiadau i'r SASW i wella ansawdd y gwaith o ddatblygu a darparu fframwaith prentisiaethau er mwyn diwallu anghenion prentisiaid a chyflogwyr yng Nghymru yn well.

Bydd yr addasiadau yn galluogi'r SASW i fod yn fwy hyblyg ac ymatebol i anghenion newidiol diwydiant a chyflogwyr mewn amgylchedd sgiliau sy'n newid yn gyflym.

Cyflwyniad

Mae prentisiaethau'n ymyriad allweddol wrth ddatblygu'r gweithlu ac yn hollbwysig i ysgogi twf economaidd. Mae prentisiaethau'n helpu newydd-ddyfodiaid i'r farchnad lafur ac yn darparu cymorth i uwchsgilio ac ailsgilio gweithwyr sydd eisoes yn y gweithle. Maent yn rhan hanfodol o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, sy'n cynnig cymorth i bobl ifanc dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.

Mae pandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw, diwedd symud rhydd yn y farchnad lafur ynghyd â digideiddio a newid hinsawdd yn cael effaith fawr ar ein heconomi a chyflogaeth. Mae gan brentisiaethau rôl ganolog o ran cefnogi adferiad a hyrwyddo twf a hefyd ymateb i heriau fel newid demograffig, arloesi digidol a dulliau cynaliadwy neu sero net. 

Yng Nghymru bydd prentis yn dilyn fframwaith prentisiaeth Gymreig cymeradwy. Rhaid i'r fframweithiau hyn ddiwallu anghenion yr economi, diwydiant neu sector sgiliau drwy sicrhau bod gan brentisiaid yr wybodaeth, y sgiliau a'r cymwysterau perthnasol i alluogi a chefnogi eu dewisiadau gyrfaol. Mae fframweithiau ar gael mewn 23 sector ac ym mhob un ohonynt ceir amrywiaeth o opsiynau neu lwybrau yn seiliedig ar alwedigaethau penodol neu rolau swydd. 

Fel y nodwyd yn y trosolwg o'r ymgynghoriad, mae Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW) yn nodi’r gofynion sylfaenol i’w cynnwys mewn fframwaith prentisiaeth Gymreig cydnabyddedig. Mae cydymffurfio â'r SASW yn ofyniad statudol yn Neddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

Rhaid i Awdurdodau Cyhoeddi Cymru roi sylw i’r canllawiau cyfredol hyn wrth wneud penderfyniad ynghylch a yw fframwaith yn cydymffurfio â’r SASW.

Dyma'r newidiadau yr ydym yn ymgynghori arnynt

Cymwysterau procsi

Pan bennir cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn fframwaith prentisiaeth, mae'r fframwaith prentisiaeth yn pennu ar hyn o bryd fel un o ofynion tystysgrif Cymru y derbynnir nifer cyfyngedig o gymwysterau procsi cydnabyddedig.

Cynnig: Caniatáu cymwysterau procsi ychwanegol a chymwysterau procsi newydd ar gyfer Llythrennedd Digidol fel dewis amgen cydnabyddedig yn lle Sgiliau Hanfodol fel y manylir arnynt o dan bob lefel fframwaith prentisiaeth. Mae'r rhestr ddiweddaraf yn Atodiad 1.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae cymwysterau procsi yn gymwysterau cyfwerth neu uwch sy'n asesu'r un wybodaeth a sgiliau ag sydd wedi'u cynnwys mewn cymwysterau Sgiliau Hanfodol. Drwy gynnwys ystod ehangach o gymwysterau procsi, bydd dysgwyr yn elwa ar beidio â dyblygu dysgu blaenorol wrth ymgymryd â'u prentisiaeth.

Addasiadau i Sgiliau Hanfodol ar gyfer pobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Rydym yn cydnabod y gallai'r gofynion safonol o ran sgiliau hanfodol fod yn rhwystr i berson ag anhawster neu amhariad dysgu.

Cynnig: Gellir gwneud addasiadau rhesymol i'r gofynion sylfaenol yn ymwneud â chyfathrebu, cymhwyso rhif a phrentisiaethau sylfaen llythrennedd digidol (Lefel 2) a Phrentisiaethau (Lefel 3). Mae'r addasiadau bwriedig yn Atodiad 2.

Pam mae hyn yn bwysig

Bydd hyn yn darparu cynnig mwy cynhwysol i bobl ag anawsterau ac anableddau dysgu gan er mwyn ehangu cyfranogiad, gan agor y gofynion mynediad o ran Sgiliau Hanfodol ar gyfer prentisiaethau lefelau 2 a 3.

Gradd-brentisiaethau a phrentisiaethau proffesiynol

Mae'n ofyniad yn y SASW ar hyn o bryd i ymgymryd â Sgiliau Hanfodol fel rhan o fframweithiau Cymreig ar gyfer Gradd-brentisiaethau a Phrentisiaethau Proffesiynol (Lefel 6 a 7). Cynigir llwybrau sefydledig ar gyfer gradd-brentisiaethau mewn Gweithgynhyrchu a Deunyddiau Uwch, Technoleg Ddigidol a Pheirianneg. Bydd llwybr Peirianneg Rheilffordd a ddatblygwyd y llynedd yn cael ei ychwanegu at y rhain, ac ar ben hynny mae prifysgolion wrthi'n datblygu llwybrau gradd-brentisiaeth mewn Rheoli Adeiladu, Peirianneg Sifil, Arolygu Cyffredinol a Mesur Meintiau yn barod ar gyfer y prentisiaid sy'n dechrau ym mis Medi 2024.

Cynnig: Cynnwys adran newydd yn ymwneud â gradd-brentisiaethau a phrentisiaethau phroffesiynol (lefelau 6 a 7), sy’n dileu’r gofynion o ran sgiliau hanfodol ar gyfer prentisiaethau ar y lefel hon. 

Pam mae hyn yn bwysig

Mae gradd-brentisiaethau wedi'u cynnwys ar hyn o bryd yn yr adran ar brentisiaethau uwch Lefelau 4 i 7 yn y Fanyleb. Byddai disgwyl i brentis sy'n dechrau gradd feddu ar lefel briodol o sgiliau hanfodol cyn dysgu. Felly, dylid creu adran newydd yn y SASW ar gyfer prentisiaethau gradd a phroffesiynol (lefelau 6 a 7) i ddiwallu anghenion prentisiaid a diwydiant yn llawn. 

Dylid nodi nad yw prifysgolion yn cyflawni elfennau sgiliau hanfodol y fframweithiau ar hyn o bryd, sy'n golygu nad yw'r prentisiaethau yn cydymffurfio â'r SASW ac nad yw'r prentis yn gallu cael tystysgrif ar ôl ei chwblhau.

Cynnydd yn isafswm y credydau ar gyfer cymwysterau

Bydd isafswm y credydau mewn fframwaith yn cael ei gynyddu yn y SASW wedi'i ddiweddaru. Y bwriad yw bod yn rhaid i fframweithiau prentisiaid bellach gynnwys o leiaf 38 o gredydau, heb gynnwys credydau Sgiliau Hanfodol (19 ar gyfer Cymhwysedd a 19 ar gyfer Gwybodaeth). 

Cynnig: Er mwyn i fframweithiau prentisiaethau allu cydymffurfio â'r uchod, rhaid cynyddu isafswm y credydau mewn fframwaith. Hynny yw, rhaid i fframweithiau bellach fod 38 o gredydau o leiaf, ond yn y rhan fwyaf o achosion bydd fframweithiau gryn dipyn yn uwch na 38 o gredydau (heb gynnwys credydau Sgiliau Hanfodol).

Pam mae hyn yn bwysig

Cynyddwyd isafswm y credydau i sicrhau bod prentis yn cael dysgu sy'n darparu'r wybodaeth dechnegol a'r ddealltwriaeth o'r cysyniadau damcaniaethol sy'n ymwneud â'r sgil, y fasnach neu'r alwedigaeth i ategu cymhwysedd galwedigaethol.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Beth yw eich barn am ehangu'r rhestr o gymwysterau procsi ar gyfer Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif a chynnwys cymwysterau procsi ar gyfer Llythrennedd Digidol?

Cwestiwn 2

Beth yw eich barn am yr addasiadau arfaethedig i'r gofynion Sgiliau Hanfodol ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol?

Cwestiwn 3

Beth yw eich barn am ddileu'r gofyniad i ymgymryd â Sgiliau Hanfodol ar gyfer dysgwyr sy'n dilyn Gradd-brentisiaethau a Phrentisiaethau Proffesiynol?

Cwestiwn 4

Beth yw eich barn am gynyddu'r isafswm o ran credydau o 37 credyd i 38 credyd (heb gynnwys gwerth credydau Sgiliau Hanfodol)? 

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaeth graidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol, Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/.