Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon sy’n arwain at statws athro cymwysedig ar gyfer Medi 2016 i Awst 2017.

 

Siart yn dangos bod nifer y myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) yng Nghymru yn lleihau. O 2009/10, mae'r nifer ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd yn agos i'w targedau, ond yn 2014/15 mae nifer yr athrawon uwchradd yn cwympo'n ddramatig is na'r targed ac, yn 2015/16, mae nifer yr athrawon cynradd yn dechrau cwympo'n is na'r targed.

Prif bwyntiau

  • Roedd nifer yr athrawon ysgol uwchradd o dan hyfforddiant a dderbyniwyd dros draean yn is na’r targed yn 2016/17. Roedd nifer yr athrawon ysgol gynradd o dan hyfforddiant a dderbyniwyd wedi aros ychydig yn is na’r targed am yr ail flwyddyn yn olynol.
  • Y targed ar gyfer cyrsiau cynradd oedd 750 ond dim ond 700 a gofrestrodd. Y targed ar gyfer cyrsiau uwchradd oedd 871 ond dim ond 545 a gofrestrodd.
  • Bu gostyngiad bychan yn nifer y myfyrwyr sy’n gallu addysgu yn y Gymraeg sef ei bwynt isaf ers 2008/09.
  • Gwyddoniaeth, Mathemateg, a Saesneg yw’r arbenigeddau pwnc mwyaf cyffredin i fyfyrwyr ar gyrsiau ysgol uwchradd.
  • Roedd 9 o bob 10 o fyfyrwyr newydd a oedd yn hyfforddi yng Nghymru, yn byw yng Nghymru cyn dechrau ar eu gradd.
  • Roedd fwy na dwywaith cynifer o fenywod ag o ddynion yn dechrau hyfforddi i fod yn athrawon yn 2016/17.

Adroddiadau

Addysg Gychwynnol i Athrawon, Medi 2016 i Awst 2017 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1010 KB

PDF
1010 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Addysg Gychwynnol i Athrawon, Medi 2016 i Awst 2017: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 481 KB

PDF
481 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.