Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC), sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2018-19,  gostyngodd nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd 1% o gymharu a’r flwyddyn flaenorol i 5,974. Hwn oedd y cyfanswm isaf ers 2013-14.
  • Gostyngodd nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn ystod 2018-19 hefyd o 13%. Roedd y 5,777 o anheddau a gwblhawyd yn ystod 2018-19 y cyfanswm isaf ers 2012-13.
  • Yn ystod 2018-19, gostyngodd nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd ar gyfer y sector preifat 18% i 4,489. Parhaodd hyn i gynrychioli dros tri chwarter (78%) o’r cyfanswm a gwblhawyd.
  • Cwblhawyd 1,288 o anheddau newydd yn y sector gymdeithasol yn ystod 2018-19. Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd yn gyfrifol am 96% (1,231 annedd), yn uwch na 93% y flwyddyn flaenorol. Cwblhawyd y 4% arall (57 annedd) gan awdurdodau lleol (neu eu his-gwmnïau).
  • Roedd dros draean (39%) o’r anheddau newydd a gwblhawyd yng Nghymru yn ystod 2018-19 yn rhai 3 ystafell wely.

Nodyn

Caiff y gostyngiadau yn nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd eu dylanwadu gan amrywiadau chwarterol gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn wedi'u haddasu'n dymhorol.

Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC). Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Adroddiadau

Adeiladu tai newydd, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.