Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2019.

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC). Dylid trin data fesul deiliadaeth gyda gofal (gweler y nodiadau).

Anheddau Newydd a Ddechreuwyd

  • Dechreuwyd 1,326 o anheddau newydd yn ystod Hydref i Ragfyr 2019, 23% yn llai na’r tri mis blaenorol a ffigwr tebyg i’r un chwarter yn 2018.
  • Dechreuwyd 6,129 o anheddau newydd rhwng Ionawr a Rhagfyr 2019, 2% yn uwch nag yn y cyfnod Ionawr i Ragfyr 2018.

Anheddau Newydd a Gwblhawyd

  • Cwblhawyd 1,759 o anheddau newydd yn ystod Hydref i Ragfyr 2019, 26% yn fwy na’r tri mis blaenorol a 10% yn uwch na’r un chwarter yn 2018.
  • Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2019, cwblhawyd 6,071 o anheddau newydd, 2% yn uwch na’r cyfnod Ionawr i Ragfyr 2018.
  • Cynyddodd nifer yr anheddau 3 ystafell wely 22% o gymharu â’r un chwarter yn 2018, ac roedd yn cynrychioli 44% o’r cyfanswm a gwblhawyd.
  • Cynyddodd nifer yr anheddau 2 ystafell wely 13% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2018. Roeddent yn cynrychioli 22% o’r cyfanswm a gwblhawyd.

Anheddau Newydd a Gwblhawyd fesul deiliadaeth

Dylid trin y ffigyrau fesul deiliadaeth yn ofalus gan y credir ei fod yn tan gyfrif nifer y tai newydd yn y sector gymdeithasol ac awdurdodau lleol, ond yn gor-gyfrif nifer y tai newydd yn y sector breifat a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (gweler y nodiadau).

  • Cofnodwyd fod 79% o’r holl anheddau newydd a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn yn y sector breifat a 21% gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
  • Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2019, roedd nifer yr anheddau a gwblhawyd gan y sector breifat yn debyg i’r cyfnod Ionawr i Ragfyr 2018. Cynyddodd nifer yr anheddau a gwblhawyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig 29%. 

Nodiadau

Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC) sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.

Caiff y gostyngiadau yn nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd eu dylanwadu gan amrywiadau chwarterol gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn wedi'u haddasu'n dymhorol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.