Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Crëwyd yr adnodd asesu risg i'w ddefnyddio gan y rhai sy'n gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Ni fwriedir i'r adnodd asesu risg gael ei ddefnyddio gan blant a phobl ifanc sy'n derbyn gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol. Mae dull yr asesiad risg yn hunanasesiad yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cefnogi ac yn grymuso unigolion i ystyried eu statws iechyd a llesiant eu hunain – mae'r sgôr bersonol hon yn rhoi syniad o lefel debygol eu risg o haint difrifol neu farwolaeth o COVID. Nod yr offeryn yw gweithio er lles pennaf y plentyn drwy amddiffyn y rhai sy’n gweithio iddynt rhag niwed drwy ddeall y risg i oedolion sy'n darparu ymyriadau iechyd neu ofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, gallai'r offeryn gael effaith tangiadol ar blant pe bai unigolyn sy'n gweithio gyda nhw yn cael ei nodi fel risg uchel neu uchel iawn a gallai fod ganddo newidiadau neu addasiadau i’w swydd. Gallai hyn gynnwys gweithio mewn lleoliad arall, o gartref neu ddim yn gweithio mwyach yn ystod y pandemig. Efallai y bydd goblygiadau i blant a phobl ifanc yn yr amgylchiadau hyn yn cynnwys methu gweithio gyda darparwr y maen nhw wedi meithrin perthynas o ymddiriedaeth gydag ef, neu'r darparwr yn gorfod amrywio'r ffordd y mae'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i'r plant a'r bobl ifanc sydd dan ei ofal, a allai effeithio ar darfu neu golli trefn ragweladwy ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hyn.

Gallai newidiadau neu addasiadau i'w swydd neu sut y caiff ei wneud effeithio ar blentyn y cyflogai. Os na ellir gwneud unrhyw addasiadau i liniaru'r risg a bod yr unigolyn wedi'i nodi'n Risg Uchel Iawn, yna gellir ystyried Eithriad Meddygol dros dro. Gall hyn fod â goblygiadau ariannol i unigolion a theuluoedd. Efallai y bydd angen i staff gofal cymdeithasol sydd wedi'u hallgau’n feddygol gael mynediad i'r cynllun ffyrlo os na ellir eu lletya fel arall.

 

Eglurwch sut y mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Datblygwyd yr offeryn asesu risg hwn a'i ddarparu'n gyflym iawn i ddiogelu bywydau, er bod yr offeryn asesu risg wedi'i anelu at y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac nid plant a phobl ifanc sy'n derbyn y gofal hwn. Mewn rhai achosion efallai y bydd plant hŷn, 16 oed a throsodd, a all fod yn gweithio a byddai'r offeryn asesu risg yn dal i fod yn berthnasol iddynt. Fodd bynnag, credwn fod y nifer hwn yn isel iawn. Mae'r effeithiau tangiadol yn cynnwys cael effaith gadarnhaol ar Erthygl 3 CCUHP Plant (buddiannau gorau'r plentyn), cefnogi Erthygl 6 a 24 o Hawliau'r Plentyn, drwy sicrhau y bydd y rhai sy'n gweithio gyda phlant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a all hefyd fod yn rhieni neu'n warcheidwaid a allai fod mewn niwed wedi'u diogelu rhag haint COVID-19 difrifol neu bosibilrwydd o farwolaeth. Yn ogystal â'r camau a gymerir ar unwaith, yn y tymor hwy bydd unigolion yn gallu nodi a deall gwelliannau i'w ffordd o fyw a all gael effaith tymor hwy ar eu hiechyd a'u llesiant os gweithredir arnynt.

Gall newidiadau neu addasiadau sy'n angenrheidiol i gadw gweithiwr unigol yn ddiogel ei gwneud yn ofynnol iddynt symud i leoliad gwaith amgen neu ofyn iddynt weithio oriau amgen a allai effeithio ar blentyn y cyflogai. Mae'n hanfodol bod gan unrhyw gamau gweithredu ganiatâd ac yn dilyn trafodaethau rhwng y cyflogai a'i reolwr llinell, o ystyried eu hamgylchiadau personol, dylai hyn gynnwys cymorth gan Iechyd Galwedigaethol pan fo'n briodol. Ein prif flaenoriaethau parhaus yw lleihau'r niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol o COVID-19.