Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Adnodd yn cael ei ddatblygu er mwyn dod â data dienw o ystod eang o ffynonellau sy’n ymwneud â thai yng Nghymru at ei gilydd.

Nod yr Adnodd yw dod â data amrywiol am nodweddion, adeiladwaith, cyflwr ac effeithlonrwydd ynni stoc dai Cymru at ei gilydd. Bydd yn darparu sail dystiolaeth ddienw, barhaus a chadarn, ar lefel eiddo unigol lle bo modd. Bydd yn cael ei ddefnyddio fel sail i gyfeiriad polisïau sy’n ymwneud â thai a’r amgylchedd, yn enwedig cyflwr tai a thlodi tanwydd.

Bydd yr Adnodd yn cysylltu data gweinyddol, data arolygon a data wedi’u modelu. Bydd yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr ag Arolwg Cyflwr Tai Cymru i ddarparu ffordd well o fodelu data ar lefel ddaearyddol is. Yn ogystal, fe fydd yn darparu data mwy cyfredol na’r data sydd ar gael o arolygon cyflwr tai cyfnodol.

Rydym yn defnyddio dull ailadroddol wrth ddatblygu’r Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai. Y nod yw darparu gwerth ychwanegol a dysgu rhywbeth newydd bob tro mae’r broses yn cael ei hailadrodd. Elfen hollbwysig o hyn yw adborth gan randdeiliaid ac rydym yn awyddus i gydweithio cymaint ag sy’n bosibl.

Ymhlith pethau eraill, disgwylir y bydd defnyddio’r Adnodd yn helpu i wella’r data sydd ar gael am amddifadedd tai ar gyfer y diweddariad nesaf o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn 2019, a gwella amcangyfrifon tlodi tanwydd rhwng Arolygon Cyflwr Tai.

Bydd data ar gael ar gyfer cysylltu â setiau data ehangach i wella’r sail dystiolaeth ar gyfer polisïau cymdeithasol fel iechyd, addysg a’r economi.

Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd cyntaf ym Medi 2018 er mwyn diweddaru defnyddwyr ar:

  • ein cynnydd i adnabod ffynonellau data gweinyddol sy’n berthnasol i ddatblygiad Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai i Gymru;
  • ein hystyriaethau ar hyn o bryd ar y model ar gyfer seilio’r adnodd a darparu gafael ar y data;
  • er mwyn gwahodd adborth er mwyn ein helpu i sicrhau bydd y rhaglen yn cwrdd ag anghenion defnyddwyr yn y dyfodol.

Adroddiadau

Adroddiad cynnydd, Medi 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.