Neidio i'r prif gynnwy

Dyma’r set cyntaf o ganlyniadau cyflwr tai ar gyfer Cymru ers yr arolwg diwethaf yn 2008. Cynhaliwyd y gwaith maes o Awst 2017 hyd at Ebrill 2018.

Lluniwyd sampl o gyfeiriadau wedi’u codi o aelwydydd a fyddai’n gymwys i gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18. Arweiniodd hyn at archwiliad ffisegol o 2,549 o gartrefi ledled Cymru, sy’n rhoi amcangyfrifon ar lefel cenedlaethol.

Mae’r canlyniadau pennawd yn cynnwys data ar nodweddion stoc dai, cyflwr tai a’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.

Mae yna hefyd dangosydd canlyniadau hawdd i’w ddefnyddio os hoffech chi archwilio’r canlyniadau ar ystod o bynciau.

Prif bwyntiau

  • Ers yr arolwg diwethaf yn 2008, mae cyflwr tai ar draws pob deiliadaeth yng Nghymru wedi gwella.
  • Mae gan Gymru'r stoc dai hynaf yn y DU, a rhychwant o fathau tebyg o dai.
  • Mae cyfran yr anheddau yn y sector rhentu preifat wedi cynyddu'n sylweddol ers 1981. Y sector rhentu preifat ar y cyfan sydd â'r stoc o dai hynaf gan gynnwys y gyfran uwch o dai o ansawdd gwael (e.e. sy'n cynnwys lleithder a pheryglon eraill).
  • At ei gilydd, tai cymdeithasol sydd o ansawdd gwell na thai preifat (eiddo i berchen-feddianwyr ac eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat); yn ogystal â thai mwy newydd.
  • Mae’r band effeithlonrwydd ynni cyfartalog wedi gwella o Fand E yn 2008 i Fand D yn 2017-18.

Adroddiadau

Adroddiad penawdau, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 (diweddaru) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 719 KB

PDF
719 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cynllun cyhoeddi , math o ffeil: , maint ffeil: 182 KB

182 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Crynodeb o Adborth Defnyddwyr: Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 – Opsiynau ar gyfer Allbynnau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 682 KB

PDF
682 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.