Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau effeithlonrwydd ynni'r tai yng Nghymru (gan gynnwys mesurau arbed gwres ac ynni) ar draws y sectorau tai preifat a chymdeithasol. Mae’n ategu’r prif ganlyniadau a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2018.

Mae’r adroddiad yn darparu ystadegau ynghylch Graddfeydd Tystysgrif Perfformiad Ynni ac Effeithiau Amgylcheddol. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys:

  • manylion am y mesuriadau arbed ynni a osodwyd mewn anheddau a dadansoddiad o fathau adeiladu
  • y nifer o anheddau sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy
  • y system wresogi, y prif fath o ynni, a’r math o foeler a ddefnyddir
  • cymariaethau rhwng deiliadaethau, mathau o annedd ac ardaloedd trefol/gwledig
  • cymariaethau gyda chenhedloedd eraill y DU a newidiadau dros amser.

Prif bwyntiau

  • Mae effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru wedi gwella’n arwyddocaol dros y degawd diwethaf, gyda thai cymdeithasol yn dangos y canran uchaf o anheddau ym mand C neu uwch
  • Roedd fflatiau'n fwy effeithlon o ran ynni na thai; roedd 55% o fflatiau ym mand EPC C ac uwch o gymharu â 25% o dai.
  • Mae anheddau mewn ardaloedd gwledig yn dueddol o fod yn llai  effeithlon o ran ynni nag anheddau mewn ardaloedd trefol.
  • Roedd 7% o anheddau yng Nghymru yn defnyddio o leiaf un math o ynni adnewyddadwy yn 2017-18 o gymharu â llai na 1% yn 2008.
  • Caiff 65% o anheddau yng Nghymru eu hadeiladu o waith maen ceudod a 26% o waith maen solet.
  • Roedd y rhan fwyaf o anheddau yng Nghymru (82%) yn defnyddio nwy i wresogi eu cartrefi.
  • Boeleri cyddwyso cyfun oedd y math mwyaf cyffredin o foeler (66%).

Adroddiadau

Arolwg Cyflwr Tai Cymru (effeithlonrwydd ynni anheddau): Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.