Mae cyfres o newidiadau sydd wedi’u llunio i gryfhau’r GIG, a argymhellwyd gan grŵp o arbenigwyr annibynnol mewn adroddiad carreg filltir, yn cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi derbyn 29 o argymhellion Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG, sef grŵp a sefydlwyd ym mis Hydref i edrych ar effeithiolrwydd trefniadau presennol GIG Cymru.
O dan arweiniad Syr David Sloman, canolbwyntiodd yr adolygiad ar ofal a gynlluniwyd, diagnosteg, perfformiad canser a gofal brys a gofal mewn argyfwng. Ystyriwyd hefyd ffyrdd o wella cynhyrchiant a pherfformiad, gan gynnwys gwasanaethau digidol a data a gwella gweithio yn rhanbarthol.
Daw cyhoeddi’r adroddiad wythnosau yn unig ar ôl i’r Ysgrifennydd Iechyd draddodi araith fawr am arweinyddiaeth ac atebolrwydd yn y GIG gan hefyd amlinellu’r cynllun i ddal ati i dorri amseroedd aros hir a maint cyffredinol y rhestr aros yn ystod 2025 i 2026.
Mae adroddiad y Grŵp Cynghori Gweinidogol, a gyhoeddir heddiw ochr yn ochr ag ymateb Llywodraeth Cymru, yn gwneud 29 o argymhellion, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer gwella rheoli rhestrau aros, dileu amrywio triniaethau yn ddiangen, defnyddio cynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol i sefydlu gwasanaethau cynaliadwy a gwella arweinyddiaeth o fewn GIG Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu derbyn, neu dderbyn yn rhannol, yr holl argymhellion. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â nifer ohonynt.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, a fydd heddiw (dydd Mawrth) yn siarad mewn digwyddiad yng Nghaerdydd i nodi cyhoeddi’r adroddiad:
Mae’r neges yn yr adroddiad yn glir iawn, mae gennym ni her sylweddol o ran perfformiad a chynhyrchiant. Nid yw’r gwasanaeth yn perfformio ar y lefelau yr ydyn ni, na’r cyhoedd, yn disgwyl ac angen iddo fod.
Mae hynny’n gofyn am newid sylweddol yn ein dulliau gweithredu er mwyn i ni allu gwella’r gwasanaethau y mae’r cyhoedd yn eu cael, cyflawni gwell canlyniadau iechyd y maen nhw’n eu haeddu, a sicrhau bod pob punt sy’n cael ei wario yn sicrhau'r gwerth gorau, wrth i’r gofynion ar y gwasanaeth iechyd gynyddu yn y dyfodol.
Ond mae’r adroddiad hefyd yn obeithiol. Dro ar ôl tro, mae’n amlinellu cryfder yr adnoddau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at ymrwymiad a sgiliau ein staff clinigol a rheolaethol, strategaethau da, ac yn aml, arferion da.