Mae’r adroddiad hwn yn adolygiad lefel uchel o weithrediadau cymorth a ariannwyd gan y Rhaglen Datblygu Gwledig ar gyfer sector bwyd a diod Cymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
Mae'r sector bwyd a diod yn hanfodol i economi Cymru, gyda mwy o bwyslais ar fusnesau bach iawn o gymharu â'r DU yn gyffredinol.
Er bod mentrau Llywodraeth Cymru yn ceisio cynorthwyo busnesau llai, nid yw'r ffocws gweithredol wedi cyd-fynd yn ddigonol â chreu llwybrau twf cynaliadwy.
Nododd y hadolygiad fod angen pwyslais cliriach ar waith teg, cyfleoedd caffael cyhoeddus, a llwybrau gyrfa gwell yn y sector.
Dangosodd y gwerthusiad lefel uchel o fodlonrwydd o ran y modd y cyflawnwyd y cymorth, gan dynnu sylw at arbenigedd a hyblygrwydd y timau cyflawni.
Er bod meintioli effeithiau ymyriadau cymorth yn gymhleth, mae adroddiadau eu bod wedi cynhyrchu enillion economaidd sylweddol a chanlyniadau amgylcheddol cadarnhaol trwy wella effeithlonrwydd, arferion cynaliadwy a buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy.
