Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Comisiynwyd Wavehill gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad lefel uchel o weithrediadau cymorth a ariannwyd gan y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 i 2020 ar gyfer sector bwyd a diod Cymru. Mae'r adolygiad hwn yn rhan o ymdrech werthuso ehangach, gan gynnwys asesiadau penodol o'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd, cynllun blaenllaw o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig, a'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig: Bwyd. Wrth i ymyriadau a ariennir gan y Rhaglen Datblygu Gwledig ddod i ben erbyn mis Mehefin 2023, nod Llywodraeth Cymru yw defnyddio'r adolygiad hwn i lywio cymorth ôl-Brexit i'r sector yn y dyfodol.

Prif amcanion yr adolygiad hwn yw:

  • Darparu asesiad cynhwysfawr o effeithiau economaidd ac amgylcheddol cynlluniau'r sector a ariannwyd gan y Rhaglen Datblygu Gwledig.
  • Gwerthuso sut mae’r cynlluniau hyn yn cyd-fynd ag amcanion polisi strategol ehangach Llywodraeth Cymru a'r UE.
  • Cynnig argymhellion a nodi gwersi a ddysgwyd, yn enwedig o ran bylchau mewn darpariaeth, llwybr datblygu busnesau bwyd, a gwelliannau posibl o ran darparu cymorth yn y dyfodol.

I ddechrau, canolbwyntiodd yr adolygiad ar bedwar cynllun allweddol: Helix, Cywain, Sgiliau Bwyd Cymru, a’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd. Fodd bynnag, ehangodd Wavehill yr adolygiad i gynnwys darpariaethau bwyd a diod eraill a ariannwyd gan y Rhaglen Datblygu Gwledig lle roedd data gwerthusol yn hygyrch.

Methodoleg

Roedd y fethodoleg ar gyfer yr adolygiad lefel uchel hwn yn cyd-fynd â'r gofynion a amlinellwyd yn y fanyleb wreiddiol, a oedd yn galw am gydosod data monitro a thystiolaeth werthuso eilaidd ar gyfer pum cynllun blaenllaw, ochr yn ochr â chyfweliadau ansoddol ag arweinwyr cyflawni. Ehangodd Wavehill y dull hwn trwy gynnwys deunyddiau gwerthuso ychwanegol a chyfweld ag arweinwyr cynlluniau perthnasol eraill.

Cynhaliwyd y gwerthusiad mewn dau gam:

  • Yn y cam cychwynnol (Ionawr i fehefin 2022), gwnaeth Wavehill gynnal cyfweliadau cwmpasu â swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y diwydiant, adolygu llenyddiaeth berthnasol, a nodi 19 o gynlluniau'r sector bwyd a diod i'w cynnwys yn yr adolygiad. Dewiswyd y cynlluniau hyn yn seiliedig ar eu cymorth uniongyrchol i fusnesau bwyd a diod neu eu ffocws penodol ar y sector. Ar ôl dewis, cynhaliwyd cyfweliadau ag arweinwyr cyflawni pob cynllun, ynghyd â phersonél polisi a chyflawni Llywodraeth Cymru. Roedd y trafodaethau hyn yn rhoi cipolwg ar sut roedd y pecynnau cymorth yn cyd-fynd â’i gilydd, eu heffeithiau economaidd ac amgylcheddol, a chyfleoedd i integreiddio’n well wrth gyflawni yn y dyfodol.
  • Roedd yr ail gam yn cynnwys casglu data gwerthuso ynghyd ar gyfer 14 o'r 19 cynllun, gan gynnwys gwerthusiadau uniongyrchol Wavehill o bedwar o'r pum cynllun blaenllaw, ynghyd â data a gasglwyd oddi wrth arweinwyr cyflawni a deunyddiau gwerthuso ar gyfer y pumed cynllun. Gwnaeth adolygiad meta asesu pob cynllun ar sawl newidyn, gan gynnwys perfformiad cyflawni, sut roedd yn cyd-fynd â strategaeth y sector, effeithiau, a gwersi ar gyfer cyflawni yn y dyfodol.

Cyfyngiadau

Oherwydd heriau wrth gyrchu deunyddiau gwerthuso ar gyfer rhai prosiectau, mae'r adolygiad hwn yn rhoi golwg rannol ar gyfanswm effeithiau'r cynlluniau. Yn ogystal, roedd y gwerthusiadau'n amrywio o ran pa mor drylwyr oeddent, o ddefnyddio data hunan-gofnodedig i ddefnyddio grwpiau cymharu, ac roedd lefelau’r dadansoddiadau effaith economaidd ac amgylcheddol yn anghyson. Yn olaf, yn achos rhai busnesau, efallai y bydd cymorth a oedd yn gorgyffwrdd ar draws sawl cynllun wedi effeithio ar gywirdeb data cyfunol ar yr effeithiau.

Y prif ganfyddiadau

Trosolwg o’r sector a chyd-destun polisi

Mae'r sector bwyd a diod yn hanfodol i economi Cymru, gyda mwy o bwyslais ar fusnesau bach iawn o gymharu â'r DU yn gyffredinol. Bu ffocws polisi sylweddol ar geisio meithrin twf economaidd, cynaliadwyedd a hyrwyddo Cymru fel Cenedl Fwyd. Cyfeiriwyd ymdrechion at gynorthwyo busnesau 'potensial twf uchel' a hwyluso'r broses drawsnewid o ficrofentrau i fusnesau bach a chanolig. Fodd bynnag, mae heriau fel lefelau elw isel, materion bywyd silff a bylchau sgiliau yn rhwystro'r trawsnewid hwn. Yn ogystal, mae yna ganfyddiad o lwybrau gyrfa cyfyngedig yn y sector. Er bod mentrau Llywodraeth Cymru yn ceisio cynorthwyo busnesau llai, nid yw'r ffocws gweithredol wedi cyd-fynd yn ddigonol â chreu llwybrau twf cynaliadwy. Mae ymchwil yn awgrymu y gallai targedu busnesau mwy esgor ar enillion economaidd gwell, gan fod cwmnïau llai yn tueddu i ollwng buddion y tu allan i Gymru.

Hyd a lled y pecynnau cymorth a sut maent yn ategu ei gilydd

Mae Cymru'n cynnig tirwedd gadarn o gymorth i'r sector bwyd a diod, gyda chynlluniau blaenllaw amrywiol yn hybu hyfforddiant, sgiliau a rhwydweithio. Mae'r cynlluniau hyn yn cyd-fynd yn dda ag amcanion Llywodraeth Cymru, ac yn aml yn cynorthwyo busnesau mewn sawl ffordd. Fodd bynnag, mae rhywfaint o orgyffwrdd o ran mandadau'r cynlluniau, yn enwedig o ran rheoli cyfrifon allweddol a chymorth datblygu busnes, gan arwain at ddryswch posibl i fuddiolwyr. Mae yna gydweithio effeithiol yn bodoli ond mae'n dibynnu ar fenter staff unigol yn hytrach nag arferion strwythuredig, gan arwain weithiau at golli cyfleoedd am gymorth cynhwysfawr. Nododd ein hadolygiad fod angen pwyslais cliriach ar waith teg, cyfleoedd caffael cyhoeddus, a llwybrau gyrfa gwell yn y sector.

Perfformiad cyflawni ac effeithiau

Dangosodd y gwerthusiad lefel uchel o fodlonrwydd o ran y modd y cyflawnwyd y cymorth, gan dynnu sylw at arbenigedd a hyblygrwydd y timau cyflawni. Serch hynny, roedd yr heriau'n cynnwys ymgysylltiad â buddiolwyr, beichiau gweinyddol o gyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig a strategaethau gadael aneglur o ran y cymorth. Gwnaeth y sector bwyd a diod yng Nghymru ragori ar dargedau twf, gyda throsiant yn fwy na £7 biliwn erbyn 2020, gan gyfrannu'n sylweddol at yr economi. Er bod meintioli effeithiau ymyriadau cymorth yn gymhleth, mae adroddiadau eu bod wedi cynhyrchu enillion economaidd sylweddol a chanlyniadau amgylcheddol cadarnhaol trwy wella effeithlonrwydd, arferion cynaliadwy a buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy. Mae'r canlyniadau hyn yn cyd-fynd ag amcanion strategol y sector, gan hybu twf, cynaliadwyedd a gwaith teg.

Argymhellion

Yn seiliedig ar y canfyddiadau uchod, mae'r argymhellion canlynol yn cael eu gwneud:

Argymhelliad 1: Integreiddio pecynnau cymorth

Integreiddio'r pecyn cymorth yn fwy effeithiol trwy ddatblygu nifer llai o gynlluniau ehangach er mwyn lleihau gorgyffwrdd a dyblygu. Sicrhau bod gan y tîm canolog adnoddau da i ddarparu cymorth busnes effeithiol trwy driongli a chydweithio’n well.

Argymhelliad 2: Sefydlu pwynt mynediad canolog

Sefydlu pwynt mynediad canolog, neu "flaen siop", i fusnesau gael mynediad at gymorth o dan frand unedig, gan symleiddio’r profiad o lywio trwy wasanaethau amrywiol.

Argymhelliad 3: Ymgorffori rheoli cyfrifon busnes

Ymgorffori rheoli cyfrifon busnes ar gyfer cymorth bwyd a diod o fewn fframwaith Busnes Cymru i symleiddio prosesau ac osgoi dyblygu, ynghyd â buddsoddiad digonol mewn brysbennu.

Argymhelliad 4: Caniatáu hyblygrwydd ar gyfer cyfryngwyr

Caniatáu hyblygrwydd i gyrff cyfryngol ymgysylltu'n uniongyrchol â busnesau newydd, gan gryfhau perthnasoedd sefydledig.

Argymhelliad 5: Nodi a thargedu’r gynulleidfa

Cynnal ymarferiad i nodi a thargedu'r busnesau a'r is-sectorau mwyaf priodol i dderbyn cymorth, gan ganolbwyntio ar fusnesau ac is-sectorau sydd â photensial twf uchel.

Argymhelliad 6: Lansio ymgyrch farchnata ragweithiol

Lansio ymgyrch farchnata ragweithiol i gyrraedd cynulleidfaoedd targed a nodwyd, gan sicrhau ymgysylltiad y tu hwnt i'r cyfranogwyr arferol.

Argymhelliad 7: Gwella Sut mae’r cymorth yn cael ei dargedu

Gwella sut mae’r cymorth yn cael ei dargedu i gyd-fynd ag amcanion twf economaidd, gan roi mecanweithiau cyson ar waith i orfodi amcanion strategol fel gwaith teg a safonau.

Argymhelliad 8: Datblygu cynlluniau hirdymor

Datblygu cynllun hirdymor ar gyfer busnesau â gynorthwyir, gan sefydlu llwybrau a pharamedrau clir ar gyfer eu twf a'u pontio.

Argymhelliad 9: Mynd i'r afael â bylchau yn y cymorth a gynigir

Mynd i’r afael â bylchau yn y cymorth a gynigir, fel cyfleoedd caffael a'r rhaglen beilot i raddedigion busnes, i wella twf y sector.

Argymhelliad 10: Buddsoddi mewn diwydiannau ategol lleol

Buddsoddi mewn diwydiannau ategol lleol i gryfhau cadwyni cyflenwi yn y sector bwyd a diod, gan gadw mwy o werth yng Nghymru.

Manylion cyswllt

Awduron: Ioan Teifi, Endaf Griffiths

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 9/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-170-7

GSR logo