Adolygiad o ffynonellau data ac allbynnau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru
Adolygiad o ddata cydraddoldeb i wella dealltwriaeth am ffynonellau ac allbynnau presennol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r erthygl hon yn crynhoi canfyddiadau adolygiad o ddata cydraddoldeb a gynhaliwyd i wella dealltwriaeth o ffynonellau ac allbynnau presennol. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ffynonellau data ac allbynnau ystadegol:
- sy'n cael eu dal gan neu a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru
- sy'n cynnwys gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig fel y'u rhestrir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (Llywodraeth y DU)
Prif ganfyddiadau
Prif ddiben cyhoeddi'r adolygiad hwn yw gwella hygyrchedd ac argaeledd gwybodaeth am ddata cydraddoldeb a thystiolaeth yng Nghymru. Mae'r daenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â'r erthygl hon yn rhoi gwybodaeth am ffynonellau data cydraddoldeb ac allbynnau ystadegol allweddol a gesglir ac a ddelir gan Lywodraeth Cymru. Yn yr adran hon rydym wedi crynhoi rhai themâu cyffredin sy'n deillio o'r adolygiad.
Y nodweddion cydraddoldeb a gasglwyd ac a gyhoeddwyd fwyaf oedd oedran, rhyw a rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd. Roedd crefydd, statws priodasol a chyfeiriadedd rhywiol yn llai cyffredin. Ni chasglwyd gwybodaeth am feichiogrwydd a mamolaeth a hunaniaeth rhywedd/ailbennu rhywedd yn aml, ac yn anaml iawn yr oedd y rhain yn cael eu cynnwys mewn allbynnau ystadegol.
Nid oedd y defnydd o'r termau rhyw a rhywedd bob amser yn cael eu gwahaniaethu'n glir. Gwelir bod achosion lle mae geiriad cwestiwn a'r canllawiau yn cyd-fynd â'r diffiniad o ryw, ond rhywedd yw'r label a ddefnyddiwyd, ac enghreifftiau o'r gwrthwyneb. Mae'n edrych yn debyg bod achosion lle na ddilynir y canllawiau hefyd, a darperir gwybodaeth am ryw ar gyfer cwestiynau sy'n gofyn am rywedd, a'r gwrthwyneb. Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cyhoeddi canllawiau am ryw a hunaniaeth rhywedd i'w defnyddio mewn ystadegau swyddogol. Y gair a ddefnyddir yn y casgliad data yw'r hyn a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adolygiad hwn.
Roedd y rhan fwyaf o'r data a gasglwyd ar bobl anabl ac amhariadau yn defnyddio iaith sy'n cyd-fynd â'r model meddygol o anabledd. Mae'r model meddygol o anabledd yn diffinio pobl yn anabl ar sail eu hamhariad. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio'r model cymdeithasol o anabledd (Anabledd Cymru). Mae'r model hwn yn nodi ffordd wahanol o ystyried anabledd – yn hytrach na diffinio pobl yn anabl ar sail eu hamhariad, mae pobl ag amhariadau yn anabl ar sail rhwystrau corfforol, ymddygiadol a sefydliadol a gaiff eu creu gan gymdeithas. Roedd hefyd allbynnau ystadegol cyfyngedig a oedd yn darparu gwybodaeth am y math o amhariad sy’n amharu ar bobl. Y maes pwnc sydd â'r wybodaeth fanwl fwyaf cynhwysfawr am amhariadau mewn allbynnau ystadegol oedd Addysg.
Mae gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig yn aml yn cael ei chyhoeddi ar ffurf llai manwl (neu ddim o gwbl) na'r ffurf y mae'n cael ei chasglu ynddi. Y rheswm dros hyn yn gyffredinol yw maint y samplau bach ar gyfer data arolygon, neu broblemau sy'n ymwneud â chyfrinachedd data ar gyfer niferoedd bach o bobl mewn data gweinyddol. Am resymau tebyg, mae allbynnau a gyhoeddwyd yn aml yn adrodd am nodweddion gwarchodedig yn unigol yn hytrach nag adrodd am nifer o nodweddion gwarchodedig ar yr un pryd.
Cefndir
Sefydlwyd Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru (yr Unedau Tystiolaeth) yn 2022 i wella tystiolaeth ar gyfer unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth. Bydd gwella tystiolaeth yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau gwell a mesur eu heffaith.
Mae gwerthfawrogiad ac ymwybyddiaeth hirsefydlog o fylchau yn y sylfaen dystiolaeth o safbwynt cydraddoldeb. Ond, mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) a'i effeithiau wedi tynnu mwy o sylw at yr angen am dystiolaeth fwy cadarn er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Mae rhai bylchau blaenoriaeth uchel eisoes yn cael sylw gan yr Unedau Tystiolaeth, ac mae mwy o wybodaeth am y prosiectau hyn ar gael ar ein gwefan.
Nod yr adolygiad hwn yw nodi'n systematig lle mae bylchau ar draws y sail dystiolaeth a helpu i nodi gwelliannau pellach posibl wrth gasglu, adrodd a defnyddio data am nodweddion gwarchodedig. Bydd hefyd yn helpu i lywio a llunio rhaglen waith yr Unedau Tystiolaeth yn y dyfodol.
Sut rydyn ni wedi casglu eich gwybodaeth
Ar gyfer yr adolygiad hwn, roedd dadansoddwyr Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth am y ffynonellau data perthnasol a'r allbynnau ystadegol yn eu maes pwnc. Er mwyn paratoi ar gyfer cyhoeddi’r wybodaeth, cafodd ei hasesu a’i golygu:
- i'w gwneud yn gyson ar draws timau / meysydd pwnc
- i ddiweddaru gwybodaeth hyd at hydref 2024
- i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn dod o fewn terfynnau'r gwaith
Nid oedd yr adolygiad yn cynnwys data neu allbynnau os oeddent wedi'u dirwyn i ben am gyfnod hir neu os oedd gwybodaeth gyfyngedig am nodweddion cydraddoldeb.
Cynhwyswyd ffynonellau data os Llywodraeth Cymru oedd yn berchen arnynt neu os oeddent yn cael eu defnyddio'n helaeth ar gyfer dadansoddiadau ac allbynnau ystadegol gan Lywodraeth Cymru. Mae ansawdd a chwmpas yr wybodaeth am nodweddion gwarchodedig a gasglwyd yn amrywio rhwng ffynonellau data. Os ydynt ar gael, mae dolenni i ddogfennau manylach a gwybodaeth o ansawdd ar ffynonellau data wedi'u cynnwys yn y daenlen. I gael gwybodaeth am ffynonellau data a gedwir gan adrannau eraill y llywodraeth, gweler Archwiliad Data Cydraddoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Cafodd allbynnau ystadegol eu cynnwys os oeddent wedi'u cynhyrchu gan Lywodraeth Cymru. Os oedd nifer o fformatau gwahanol ar gyfer allbynnau yn cael eu cynhyrchu (er enghraifft: tablau, ffeiliau Excel, adroddiadau ysgrifenedig StatsCymru) mae'r adolygiad yn crynhoi'r wybodaeth sydd ar gael ar draws pob fformat.
Trafodwyd ac adolygwyd pob ffynhonnell ddata ac allbwn ystadegol gyda'r arbenigwr pwnc perthnasol, fel rhan o'r broses sicrhau ansawdd. Mae cyflawni'r broses honno'n golygu ein bod yn hyderus am gywirdeb yr adolygiad. Ond, gellir cynnwys gwybodaeth anghywir neu anghyflawn oherwydd:
- golygiadau damweiniol wrth gwblhau rhesi eraill a fformatio er mwyn ei gyhoeddi
- newidiadau i ffynonellau data ac i allbynnau ystadegol ar ôl hydref 2024
- ffynonellau data hynod gymhleth ac allbynnau ystadegol sy'n anodd eu crynhoi'n gywir
- rhai ffynonellau data ac allbynnau ystadegol sy'n dod o fewn terfynnau'r gwaith sy'n cael eu hepgor trwy gamgymeriad
Byddwn yn cywiro unrhyw wallau a nodir yn unol â datganiad Llywodraeth Cymru ar ddiwygiadau, gwallau a gohiriadau ystadegau ac ymchwil.
Y camau nesaf
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r adolygiad hwn o ffynonellau data ac allbynnau ystadegol i helpu i lywio a llunio gwaith blaenoriaethu a chynllunio'r Unedau Tystiolaeth yn y dyfodol. Bydd yr Unedau Tystiolaeth yn parhau i ymgysylltu'n agos â rhanddeiliaid i ddeall anghenion defnyddwyr yn well a gweithio tuag at wella argaeledd a manylder data cydraddoldeb yng Nghymru.
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar yr adolygiad hwn neu awgrymiadau ar sut y gellid gwella data cydraddoldeb yng Nghymru i gefnogi eich anghenion. Mae croeso ichi anfon cwestiynau, adborth neu awgrymiadau i'r cyfeiriad e-bost hwn: YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru
Nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol
Yn gyffredinol, mae a wnelo erthyglau ystadegol â dadansoddiadau untro lle na fwriedir eu diweddaru, yn y byrdymor o leiaf, a'u diben yw sicrhau bod y fath ddadansoddiadau ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:
- cyflwyno cyfres newydd o ddata arbrofol
- dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
- tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tanlinellu'r casgliadau, neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
- dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau
Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
- ni ellir nodi'r cyfnod o amser a ddefnyddir yn gywir (a all ddigwydd pan ddefnyddir ffynhonnell weinyddol)
- ansawdd y ffynhonnell ddata neu'r data a ddefnyddir
- resymau eraill a nodir
Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa. Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag ystadegau swyddogol, ond gall fod yn seiliedig ar allbynnau ystadegau swyddogol, ac rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau cyn belled ag y bo modd yn ystod eu datblygu. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad wedi'i gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymhariaeth â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellir defnyddio'r dadansoddiad, a disgrifiad o'r fethodoleg sydd ar waith.
Mae erthyglau yn dilyn yr arferion rhyddhau a ddiffinnir yn y protocol arferion rhyddhau ac, felly, er enghraifft, fe'u cyhoeddir ar ddyddiad a bennir ymlaen llaw yn yr un ffordd ag allbynnau ystadegol eraill.