Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg ynghylch yr adolygiad o ganllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hysbysiad preifatrwydd

Diben yr arolwg hwn yw casglu adborth, gan bleidiau gwleidyddol cofrestredig sy'n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau Cymru, ar eu profiad o ddefnyddio canllawiau Amrywiaeth a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru. Bydd yr ymatebion i'r arolwg yn helpu’r Llywodraeth i adolygu’r canllawiau. 

Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o'r canllawiau o bryd i'w gilydd, gan ystyried cylch etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru.

Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol, a bydd eich ymatebion i'r arolwg yn ddienw oni bai eich bod yn penderfynu darparu eich manylion cyswllt a'ch cyfeiriad e-bost mewn ymateb i gwestiwn 7. 

Bydd telerau'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol os byddwch yn penderfynu darparu data personol o dan y cwestiwn hwnnw. 

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol a gesglir drwy'r arolwg hwn, a'r sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Mae'n bosibl y bydd data personol a ddarperir yn cael eu defnyddio i gysylltu â'r blaid wleidyddol gofrestredig os bydd angen i swyddogion Llywodraeth Cymru gael eglurhad ar unrhyw agwedd ar yr ymateb a ddarparwyd. Bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir yn cael ei storio ar weinydd diogel, a'r unig bobl a fydd yn gallu cael mynediad ati fydd tîm staff Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wella a datblygu'r canllawiau Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig, ynghyd ag aelodau staff sy’n gyfrifol am greu a rheoli’r arolwg.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau ar gyfer ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod rheolau diogelwch data wedi eu torri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fydd gofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion am gyfnod o hyd at un flwyddyn tra bo'r adolygiad o'r canllawiau yn cael ei gynnal.

Gallai Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Byddwn yn rhoi gwybod ichi yn ddi-oed am unrhyw newidiadau, er mwyn ichi allu darllen y fersiwn newydd, a fydd yn weithredol ar unwaith.

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, a gweld y data hynny
  • mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wallau yn eich data
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn bod eich data'n cael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw, a sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Is-adran Diwygio’r Senedd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn:

0303 123 1113

ICO - Cymru

2il Lawr
Tŷ Churchill,
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn:

029 2067 8400

Ffacs: 029 2067 8399