Ymchwil i asesu cadernid y Cynllun Bathodyn Glas ac i gynhyrchu tystiolaeth i benderfynu a ddylid ymestyn y meini prawf cymhwysedd. Mae’r Cynllun Bathodyn Glas yn darparu consesiynau parcio i bobl y mae eu cyflyrau iechyd difrifol yn golygu y byddent yn elwa o fynediad gwell at wasanaethau a chyfleusterau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau’r adolygiad o'r Cynllun Bathodyn Glas.
Mae'r adroddiad yn crynhoi sut mae'r cynllun yn cael ei weinyddu, yn asesu ei gadernid ac yn darparu data lefel uchel sy'n ymwneud â cheisiadau ac archebion bathodyn glas ar lefel cenedlaethol ac awdurdodau lleol. Mae'r adroddiad hefyd yn asesu a ddylid ehangu meini prawf cymhwysedd y cynllun.
Adroddiadau
Adolygiad o Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Data cynllun y bathodyn glas ar gyfer Cymru, yn nôl cymhwystra ac awdurdod lleol, Rhagfyr 2021 i Dachwedd 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 15 KB
Cyswllt
Rhaglen Ymchwil Fewnol
E-bost: RhaglenYmchwilFewnol@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
