Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn darparu consesiynau parcio i bobl sy’n wynebu heriau sylweddol o ran eu symudedd i’w galluogi i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi a deddfwriaeth Cynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i weinyddu’r cynllun yng Nghymru. Hyd yn hyn mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn meini prawf cymhwysedd gan ddefnyddio sylfaen dystiolaeth o adroddiadau, adolygiadau ac ymchwil.

Yn 2023, comisiynodd Cyfarwyddiaeth Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol Llywodraeth Cymru y Rhaglen Ymchwil Fewnol (IRP) o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) i gynnal ymchwil i adolygu’r Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru. Prif ddiben yr ymchwil hon oedd cynhyrchu tystiolaeth i lywio penderfyniad ynghylch a ddylid ymestyn y meini prawf cymhwysedd presennol. Diben arall oedd deall cadernid y broses asesu’r Bathodyn Glas a ddefnyddir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol.

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Nodau’r ymchwil

Nod un

Deall pa mor gadarn yw prosesau asesu Cynllun y Bathodyn Glas.

Nod dau

Deall y llenyddiaeth sy'n ymwneud â meini prawf cymhwysedd bathodyn glas presennol, er mwyn caniatáu ar gyfer ymchwil yn y dyfodol i ehangu meini prawf cymhwysedd.

Nod tri

Archwilio'r ffactorau sy'n arwain at geisiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus.

Methodoleg

Roedd yr ymchwil sylfaenol yn cynnwys arolwg gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, a oedd yn canolbwyntio ar gasglu, cadw a phrosesu data. Cynhaliwyd pum cyfweliad lled-strwythuredig hefyd gyda staff awdurdodau lleol i gasglu gwybodaeth fanylach am weinyddiaeth y cynllun ledled Cymru.

Roedd y dadansoddiad eilaidd yn cynnwys Asesiad Cyflym o'r Dystiolaeth wrth ddesg ynghylch meini prawf cymhwysedd y Cynllun Bathodyn Glas a’i gadernid. Cynhaliwyd Dadansoddiad Data Eilaidd (SDA) o ddata a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU, yr Adran Drafnidiaeth (DfT).

Mae cyfyngiadau data i'w nodi. Mae canfyddiadau'r cyfweliad yn seiliedig ar sampl bach o gyfweliadau gyda swyddogion o bum awdurdod lleol. Mae maint bach y sampl yn golygu y dylid ystyried y safbwyntiau fel safbwyntiau cyfranogwyr y cyfweliad yn unig, yn hytrach na bod yn gynrychioliadol o’r holl staff bathodyn glas mewn awdurdodau lleol unigol, neu’r holl staff bathodyn glas ledled Cymru.

Mae problemau hefyd gyda’r data bathodyn glas a gafwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Tachwedd 2022. Mae materion ansawdd data yn cynnwys nifer anhysbys o geisiadau lluosog gan ymgeiswyr unigol, gwallau, ac anghysondebau o ran sut mae awdurdodau lleol yn prosesu ac yn cofnodi data sy'n ymwneud â cheisiadau am fathodynnau glas a bathodynnau byw. Mae’r materion data hyn yn golygu na fu’n bosibl cymharu cyfraddau derbyn rhwng gwahanol awdurdodau lleol a dylid trin y data bathodyn glas cenedlaethol yn ofalus.

Canfyddiadau allweddol

Cadernid

Darparodd data’r Adran Drafnidiaeth rai canfyddiadau disgrifiadol lefel uchel ynghylch y cynllun yng Nghymru, o gymharu â gwledydd eraill y DU, a chydag awdurdodau lleol Cymru. Fodd bynnag, mae’r problemau gyda’r data bathodyn glas a ddarparwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn golygu nad yw’n bosibl rhoi cyfrif am wahaniaethau mewn archebion bathodynnau ar lefel genedlaethol nac awdurdod lleol.

Mae canfyddiadau o’r REA, arolwg awdurdodau lleol a chyfweliadau â swyddogion awdurdodau lleol yn dangos, er bod Cynllun y Bathodyn Glas wedi’i gynllunio i gael ei weinyddu mewn ffordd unffurf drwy System Ddigidol y Bathodyn Glas (BBDS), mae anghysondebau o hyd o ran sut mae ceisiadau’n cael eu prosesu a’u hasesu ledled Cymru.

Mae elfennau o Gynllun y Bathodyn Glas yn cael eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd gan swyddogion awdurdodau lleol, a all arwain at brosesau gweinyddol ac asesu gwahanol. Er enghraifft, mae dadansoddiad o gyfweliadau yn dangos bod rhai awdurdodau lleol yn mabwysiadu dull asesu llymach yn seiliedig ar ‘gymhwysedd arwahanol’, tra bod eraill yn mabwysiadu dull mwy dewisol a chyfannol.

Mae awdurdodau lleol yn deall diben pecyn cymorth y Bathodyn Glas yn wahanol. I rai awdurdodau lleol, mae’r pecyn cymorth yn cael ei ystyried yn ganllaw cyffredinol y gellir ei ddefnyddio yn ôl disgresiwn swyddogion. Fodd bynnag, ar gyfer awdurdodau lleol eraill, deellir y pecyn cymorth fel set ddiffiniol o gyfarwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i sicrhau cysondeb o ran y modd y gweinyddir Cynllun y Bathodyn Glas.

Dywedodd swyddogion awdurdodau lleol a gyfwelwyd fod eu diffyg gwybodaeth a hyfforddiant meddygol yn ei gwneud yn anodd iddynt asesu ceisiadau, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â chyflyrau meddygol cymhleth neu brin.

Canfu dadansoddiad o gyfweliadau fod defnydd awdurdodau lleol o’r Gwasanaeth Cynghori Annibynnol (IAS), sy’n cefnogi awdurdodau lleol i asesu ceisiadau am fathodynnau glas, yn amrywio. Ar gyfer rhai awdurdodau lleol, defnyddir yr IAS i gynorthwyo ag asesu ceisiadau sy'n gysylltiedig â diagnosis ag amhariadau meddygol cymhleth. Dywedodd awdurdodau lleol eraill nad ydynt yn defnyddio'r IAS.

Mae gwahaniaethau yn yr adnoddau sydd ar gael i awdurdodau lleol ddarparu cymorth i ymgeiswyr yn golygu y gall ymgeiswyr sydd â diagnosis ac amhariadau meddygol tebyg brofi Cynllun y Bathodyn Glas yn wahanol. Gall y gwahaniaethau hyn gyfrannu at ganlyniadau dargyfeiriol i ymgeiswyr yn dibynnu ar pryd neu ble y maent yn gwneud cais.

Ymestyn y meini prawf

Nid oes barn gyffredinol ar ddymunoldeb ehangu’r meini prawf cymhwysedd i gynnwys amhariadau nad ydynt wedi’u cynnwys hyd yn hyn, neu a gwmpesir yn rhannol yn unig gan Gynllun y Bathodyn Glas.

Canfu’r REA fod sefydliadau sy’n cynrychioli unigolion ag amhariadau penodol yn eiriol dros ymestyn y meini prawf awtomatig i gwmpasu’r amhariadau hyn. Dywedodd yr holl swyddogion awdurdod lleol a gyfwelwyd hefyd y dylai unigolion â Chlefyd Niwronau Motor fod yn gymwys yn awtomatig i gael bathodyn glas.

Fodd bynnag, mae rhai grwpiau cynghori a swyddogion awdurdodau lleol o’r farn nad oes angen ymestyn y cymhwysedd i gynnwys ystod ehangach o amhariadau ac y gallai hyd yn oed fod yn wrthgynhyrchiol, gan fod effaith amhariad penodol ar symudedd unigolyn yn amrywiol a gall newid gyda dirywiad neu driniaeth amhariad.

Roedd safbwyntiau gwahanol hefyd ymhlith swyddogion awdurdodau lleol ynghylch a ddylai bathodynnau glas gael eu cyfyngu i unigolion y mae amhariad wedi effeithio’n negyddol ar eu symudedd corfforol, neu a ddylid dyfarnu bathodynnau glas i unigolion anabl a fyddai’n elwa o fathodyn oherwydd y byddai’n rhoi gwell mynediad iddynt at gyfleusterau ac amwynderau.

Casgliadau

Mae cyflwyno’r BBDS, y pecyn cymorth, a’r IAS wedi gwella’r modd y gweinyddir Cynllun y Bathodyn Glas drwy ddarparu system geisiadau ganolog i awdurdodau lleol, canllawiau ychwanegol ar brosesu ac asesu ceisiadau, a chyngor annibynnol ar achosion cymhleth neu anarferol.

Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr adroddiad hwn drwy’r REA, arolygon, a chyfweliadau yn dangos bod anghysondebau o hyd o ran sut y caiff y Cynllun ei weinyddu a sut mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r meini prawf cymhwysedd. Yn ôl canfyddiadau’r REA, gall yr anghysondebau hyn olygu bod ymgeiswyr yn profi’r Cynllun yn wahanol ac yn cael canlyniadau gwahanol i ymgeiswyr eraill ag amhariadau a diagnosis meddygol tebyg.

Mae'r dystiolaeth ynghylch ymestyn y meini prawf cymhwysedd yn cael ei herio. Ar y naill law, mae cefnogaeth i ymestyn y meini prawf cymhwyster awtomatig ar gyfer amhariadau penodol. Fodd bynnag, ar y llaw arall, dadleuir y dylai’r meini prawf aros yn gaeth i symudedd ymgeisydd. Mae canfyddiadau’r adolygiad yn awgrymu bod angen mwy o ymchwil i ddeall effaith ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar adnoddau gweinyddol a seilwaith parcio awdurdodau lleol.

Argymhellion

Argymhelliad 1

Argymhellir y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cymorth a chanllawiau pellach i awdurdodau lleol wrth weinyddu Cynllun y Bathodyn Glas. Dylai’r canllawiau fynd i’r afael â:

  • yr hyfforddiant o staff awdurdodau lleol sy’n asesu ceisiadau bathodyn glas, gan gynnwys cymorth i staff awdurdodau lleol i ddeall sut y dylid dehongli a chymhwyso’r meini prawf cymhwysedd
  • diben a swyddogaeth pecyn cymorth bathodyn glas Llywodraeth Cymru a’r defnydd y bwriedir iddo ei wneud gan awdurdodau lleol gan gynnwys sicrhau bod adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal
  • pryd a pham y dylid cyfeirio achosion cymhleth at y Gwasanaeth Cynghori Annibynnol
  • prosesau ac amserlen i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ychwanegol i gefnogi eu cais
  • prosesau ar gyfer ymdrin â cheisiadau aflwyddiannus
  • y cofnodi a storio o ddata bathodyn glas gan sicrhau bod data yn cael ei gipio’n fwy cyson i wella ei ansawdd, a allai gynnwys cipio'r holl geisiadau bathodyn glas yn electronig, neu drosi'r holl gofnodion nad ydynt yn electronig i gofnod electronig sydd wedyn yn cael ei uwchlwytho i'r BBDS
  • cydweithredu i hwyluso cyhoeddi ystadegau ar y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru, gan adlewyrchu’r trefniadau sydd gan yr Adran Drafnidiaeth ag awdurdodau lleol yn Lloegr
  • cymryd rhan mewn gweithgorau i rannu arferion gorau ledled Cymru

Argymhelliad 2

Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn parhau i archwilio cyfleoedd i leihau’r baich ar ymgeiswyr bathodyn glas. Er enghraifft, efallai y bydd angen i rai ymgeiswyr sy’n cael eu hasesu ymhellach gyflwyno gwybodaeth ddyblyg ar draws gwahanol ffurfiau, gan weithio mewn partneriaeth â’i Wasanaeth Cynghori Annibynnol, yr awdurdodau lleol, yr Adran Drafnidiaeth, a chontractwr Gwasanaeth Digidol y Bathodyn Glas.

Estyniad cymhwyster

Argymhelliad 3

Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno proses gyflym o wneud cais ar gyfer ymgeiswyr cymwys sydd â diagnosis niwroddirywiol sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n achosi anhawster sylweddol iawn i gerdded.

Argymhelliad 4

Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn cychwyn sgwrs â swyddogion Llywodraeth yr Alban i fesur i ba raddau y mae ymestyn y meini prawf cymhwysedd yn yr Alban i gynnwys Clefyd Niwronau Motor wedi effeithio ar gapasiti gweinyddol a chapasiti seilwaith.

Argymhelliad 5

Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn cysylltu ag awdurdodau lleol i gael gwell dealltwriaeth o gapasiti’r seilwaith parcio bathodyn glas ac effaith bosibl ymestyn y meini prawf.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Rebecca Cox, Gareth Curless, Eloise Gowing, Benjamin Lewis

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Rhaglen Ymchwil Fewnol
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: RhaglenYmchwilFewnol@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 39/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-670-2

GSR logo