Neidio i'r prif gynnwy

Nodau ymchwil

Comisiynwyd Alma Economics gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r dystiolaeth ar yr elastigedd sy’n berthnasol i ardoll ymwelwyr yng Nghymru, gyda’r bwriad o lywio dyluniad a gweithrediad posibl ardoll o’r fath.

Mae elastigedd yn ceisio mesur ymatebolrwydd un newidyn i newid mewn newidyn arall; er enghraifft, ymatebolrwydd galw twristiaeth i newidiadau ym mhris llety twristiaid. Disgwylir i baramedrau elastigedd fod yn fewnbynnau allweddol ar gyfer unrhyw fodelu o effaith bosibl ardoll ymwelwyr.

Methodoleg

Defnyddiodd yr astudiaeth hon ddull Asesiad Cyflym o'r Dystiolaeth i flaenoriaethu’r ffynonellau mwyaf perthnasol o ansawdd uchel ar draws y sylfaen dystiolaeth o ran elastigedd twristiaeth, gan ddefnyddio protocol a strategaeth chwilio dryloyw wedi’u ddiffinio’n dda.

Trwy weithredu protocol chwilio, cymhwyso set o feini prawf cynhwysiant/gwahardd (e.e., awdurdodaethau cymaradwy, math o fethodoleg, dyddiad cyhoeddi), a fframwaith asesu ansawdd, cafodd chwiliad cronfa ddata cychwynnol o 777 o astudiaethau ei hidlo i lawr i restr ddarllen o'r 33 astudiaeth fwyaf perthnasol a oedd yn darparu tystiolaeth ategol ar gyfer cwestiynau ymchwil o ddiddordeb i’r astudiaeth.

Prif ganfyddiadau

Er nad oedd tystiolaeth o elastigedd yn ymwneud yn benodol ag economi twristiaeth Cymru, cafwyd tystiolaeth o farchnadoedd twristiaid tebyg a marchnadoedd ffynhonnell ymwelwyr allweddol i Gymru. Roedd amcangyfrifon o’r astudiaethau hyn yn amrywio, yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i'r) data a’r dull a ddefnyddiwyd, y mesur ar gyfer galw twristiaeth, y gyrchfan, a lleoliad ffynhonnell ymwelwyr.

Darparodd llawer o ffynonellau amcangyfrifon o ymatebolrwydd galw twristiaeth i newidiadau ym mhris nwyddau a gwasanaethau twristiaeth (elastigedd pris y galw). Rhoddodd y ffynonellau hyn amrywiaeth o amcangyfrifon, gan awgrymu lefel uchel o ansicrwydd ynghylch yr elastigedd tebygol yng nghyd-destun economi ymwelwyr Cymru.

Canfuwyd bod yr amcangyfrif cyfartalog o elastigedd pris galw yn un unedol yn fras, sy'n awgrymu am bob cynnydd (gostyngiad) o 1% mewn prisiau, byddai gostyngiad cyfatebol o 1% (cynnydd) mewn galw. Byddai angen i ddyluniad ardoll ymwelwyr ystyried y potensial ar gyfer ymateb ymddygiadol o'r fath gan ymwelwyr pe byddai disgwyl i gynllun ardoll arwain at brisiau uwch am y nwyddau a’r gwasanaethau a ddefnyddir gan ymwelwyr.

Roedd peth tystiolaeth bod ymatebolrwydd y galw am dwristiaeth i newidiadau mewn prisiau yn amrywio, yn dibynnu ar natur y nwyddau neu'r gwasanaeth dan sylw. Er enghraifft, roedd rhywfaint o dystiolaeth bod y galw am lety i dwristiaid ychydig yn llai ymatebol i newidiadau mewn pris nag yn achos nwyddau a gwasanaethau eraill a ddefnyddiwyd gan dwristiaid (fel gwariant ar siopa a hamdden), er o ystyried y nifer fach o astudiaethau sy’n cefnogi’r casgliad hwn (sef dwy astudiaeth), dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau.

Yn gyffredinol, canfuwyd bod cydberthynas gadarnhaol rhwng galw twristaidd ac incwm yr ymwelwyr; hynny yw, canfuwyd bod cynnydd mewn incwm ymwelwyr yn arwain at gynnydd yn y galw am nwyddau a gwasanaethau twristiaeth. Canfuwyd bod maint yr effaith yn amrywio ar draws astudiaethau, yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau.

Roedd rhywfaint o dystiolaeth yn y llenyddiaeth o ryngweithio'r galw rhwng gwahanol barau o nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan dwristiaid, gyda’r nwyddau y canfuwyd eu bod yn cymryd lle, neu'n ategu, ei gilydd yn dibynnu ar y pâr o nwyddau a gwasanaethau dan sylw. Canfu nifer fach o astudiaethau fod y galw am lety yn gyffredinol yn ategu mathau eraill o wariant twristiaid (fel gwariant ar siopa a hamdden).

Bylchau yn y dystiolaeth

Nid oedd unrhyw dystiolaeth o ansawdd uchel yn ymwneud ag ymatebolrwydd cyflenwad i newidiadau ym mhrisiau nwyddau a gwasanaethau twristiaeth (elastigedd pris cyflenwad), er y byddai greddf economaidd yn awgrymu bod cyflenwad yn debygol o fod yn gymharol anymatebol, yn enwedig yn y tymor byr. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried dichonoldeb comisiynu ymchwil empirig gadarn i gael amcangyfrif rhesymol ar gyfer y paramedr hwn (gan nodi y gallai fod heriau data posibl).

Yn ogystal â’r diffyg tystiolaeth yn ymwneud â Chymru ar lefel genedlaethol neu is-genedlaethol, a thystiolaeth o ymatebolrwydd cyflenwad i newidiadau mewn prisiau, esgorodd yr astudiaeth hon ar sawl bwlch arall yn y dystiolaeth:

Nid oedd unrhyw dystiolaeth a oedd yn ymchwilio’n benodol i effaith ardoll ymwelwyr, gyda'r rhan fwyaf o astudiaethau'n canolbwyntio ar effaith newidiadau mewn prisiau yn fwy cyffredinol.

Prin oedd y dystiolaeth ychwaith i fynd i'r afael â sut y gallai'r elastigedd a drafodwyd amrywio yn dibynnu ar natur yr ymwelwyr; er enghraifft, p'un a yw ymwelwyr â nodweddion penodol yn fwy neu'n llai ymatebol i newidiadau ym mhrisiau nwyddau a gwasanaethau twristiaeth.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Alma Economics

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tom Cartwright
E-bost: ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 60/2022
ISBN digidol 978-1-80364-797-5

Image
GSR logo