Neidio i'r prif gynnwys

Adroddiad ar fylchau a chyfleoedd cyflogwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Pobl a Gwaith i gynnal ymchwil i asesu’r cyfleoedd a’r bylchau o ran cyflogwyr ar gyfer ffoaduriaid yng Nghymru. Nod yr ymchwil hon yw deall y cyfleoedd a’r bylchau yn y farchnad lafur y gallai ffoaduriaid eu llenwi yng Nghymru, casglu enghreifftiau o arferion gorau wrth ddatblygu cyfleoedd cyflogaeth i ffoaduriaid a nodi ffyrdd y gellid datblygu neu wella cymorth drwy’r prosiect AilGychwyn: Integreiddio Ffoaduriaid a llwybrau eraill. Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd Pobl a Gwaith yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Pobl a Gwaith yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir yn ystod y cyfweliadau ac yn sicrhau bod y data crai yn ddienw, cyn iddynt gael eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Pobl a Gwaith a Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Enw'r person cyswllt ar gyfer y prosiect hwn yn Pobl a Gwaith yw Duncan Holtom. Cyfeiriad e-bost: Duncan.Holtom@peopleandwork.org.uk  Rhif ffôn: 029 2048 8536

Pa ddata personol sydd gennym ac o ble’r ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn benodol drwy gyfeirio at ddyfais adnabod'.

Rydych wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan yn y cyfweliad gan Pobl a Gwaith oherwydd eich bod wedi cael eich nodi fel unigolyn a allai gyfrannu at yr ymchwil. Mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw gan Lywodraeth Cymru oherwydd yr ymgysylltwyd â chi ynghylch cyflogaeth a/neu gymorth ar gyfer ffoaduriaid yn y gorffennol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu eich manylion cyswllt i Pobl a Gwaith. Dim ond at ddibenion cynnal y prosiect ymchwil y bydd Pobl a Gwaith yn defnyddio eich manylion cyswllt. Mae sefydliadau cenedlaethol perthnasol wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan gan ddefnyddio manylion cyswllt sydd ar gael ar-lein.

Nid oes angen casglu rhagor o ddata personol gennych chi ar gyfer yr ymchwil hon.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol, ac os nad ydych am gymryd rhan na chael negeseuon i’ch atgoffa, atebwch yr e-bost sy'n eich gwahodd gan ofyn i’ch manylion gael eu dileu. Dim ond at ddibenion yr ymchwil hon y bydd Pobl a Gwaith yn defnyddio cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu'ch hunaniaeth â'r ymatebion hynny. Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol a fydd yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna’n dileu’r data personol o’r data ymchwil.

Bydd yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn cael ei chadw yn ddienw. Ni fydd modd eich adnabod chi na'ch sefydliad drwy'r adroddiadau.

Bydd yr holl ddata, megis nodiadau o gyfweliadau, yn cael eu storio'n ddiogel a'u cadw am dri mis ar y mwyaf wedi i’r adolygiad ddod i ben ac yna’n cael eu dinistrio.

Rydym yn dymuno recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir ichi cyn dechrau’r cyfweliad a bydd cyfle ichi ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon inni recordio’r drafodaeth. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd unrhyw ddata personol yn cael eu dileu yn ystod y broses drawsgrifio. Bydd recordiadau’n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi cael ei chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu recordio, ni fydd data personol yn cael eu cynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir ar ôl y cyfweliadau.

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth, y gellir gweithredu arni, ynglŷn â’i gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Pobl a Gwaith yn cael ei storio ar weinydd diogel bob amser. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sydd â mynediad at y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Pobl a Gwaith yn defnyddio'r data hyn.

Mae gan Pobl a Gwaith nod ardystio Cyber Essentials. Mae gan Pobl a Gwaith weithdrefnau ar ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir bod rheolau diogelwch data wedi cael eu torri, bydd Pobl a Gwaith yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn rhoi gwybod i chi ac i unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo gofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny.

Adroddir ar yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth a allai arwain at eich adnabod mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd Pobl a Gwaith yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfraniadau unrhyw gyfranogwyr unigol.

Pa mor hir ydym ni’n cadw eich data personol?

Bydd Pobl a Gwaith yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi cael eu tynnu o’r ymchwil yn cael eu dileu gan Pobl a Gwaith dri mis wedi i’r contract ddod i ben. Dim ond adroddiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cael gan Pobl a Gwaith ac ni fydd yn cael unrhyw ddata personol.

Hawliau unigol

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu fel rhan o’r ymchwil hwn. Mae gennych hawl i:

  • gael gweld copi o’ch data eich hun
  • gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • mynnu bod eich data’n cael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • Gwneud cwyn i’r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk. 

Gwneud cwyn 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.   

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.   

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:  

Llywodraeth Cymru  
Parc Cathays  
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno. 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â.

John Davies (Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru) Cyfeiriad e-bost: John.Davies35@llyw.cymru rhif ffôn: 0300 025 3895.

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru.