Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Trydydd Sector ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2025. 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld yn gliriach nag erioed bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth - ac mae llawer yn ein cymdeithas yn gweld y trydydd sector wrth galon y bartneriaeth honno. Gyda balchder mawr ac ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb rwy'n cyflwyno'r adroddiad blynyddol hwn

Fel llywodraeth, rydym wedi nodi blaenoriaethau clir ac uchelgeisiol: adeiladu Cymru iachach, creu swyddi gwyrdd a thwf cynaliadwy, sicrhau cyfleoedd i bob teulu, a chysylltu cymunedau ledled y wlad. Nid yw'r blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawni gan y llywodraeth ar ei phen ei hun. Mae cyflawni'r blaenoriaethau hyn yn dibynnu ar ymgysylltiad llawn gan ein cymunedau, ac mae'r trydydd sector yn parhau i fod yn hollbwysig. Mae gallu'r sector i roi llais i brofiadau bywyd, i gyd-greu atebion, ac i gyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn angen yn fwy hanfodol nag erioed.

Rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau y mae'r sector yn eu hwynebu. Mae'r galw am wasanaethau'n parhau i gynyddu, mae ansicrwydd ariannol yn parhau, ac mae'r straen ar staff a gwirfoddolwyr yn sylweddol. Eto, er gwaethaf yr heriau hyn, a rhai y blynyddoedd diweddaraf, gan gynnwys cyni, y pandemig, a'r argyfwng costau byw, mae'r trydydd sector wedi dangos gwytnwch, gallu i addasu ac arweinyddiaeth rhyfeddol.

Yr hyn sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y cyfnod hwn yw cryfder ein partneriaeth. Gyda'i gilydd, mae'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus, a'r trydydd sector wedi adeiladu gweledigaeth a rennir a chynllun hirdymor ar gyfer newid. Rydym wedi gweithio i sicrhau nad yw'r bartneriaeth hon yn un symbolaidd yn unig, ond yn un ymarferol ac effeithiol. Mae hyn yn cynnwys datblygu Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer cyllid, a fydd yn rhoi sail o degwch, tryloywder a chynaliadwyedd i'n holl berthynasau ariannu. Rydym hefyd yn llunio ar y cyd Ddull Newydd ar gyfer Gwirfoddoli yng Nghymru, gan gydnabod y rôl hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae yng ngwead ein cymdeithas.

Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn seilwaith y trydydd sector, gan sicrhau bod sefydliadau o bob maint yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae mentrau fel Newid, partneriaeth rhwng Promo Cymru, Cwmpas, a WCVA, yn helpu i adeiladu capasiti digidol ar draws y sector. Yn y cyfamser, mae grant Gwirfoddoli Strategol Cymru  yn galluogi sefydliadau i gymryd ymagwedd fwy strategol at ennyn diddordeb gwirfoddolwyr a'u datblygu.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae'n rhaid i ni barhau i arloesi, cydweithio a grymuso,  gan sicrhau bod ein polisïau'n cael eu llunio gan y rhai y maent yn effeithio arnynt, a bod ein cefnogaeth yn cael ei dargedu at y mannau lle mae fwyaf ei angen fwyaf. 

Dyma pam rydw i wedi gofyn i swyddogion ddechrau edrych ar Bolisi Cymunedau. Un sy'n cael ei gyd-gynllunio o llawr gwlad at i fyny ac sy'n cydnabod bod asedau ym mhob cymuned.

Er gwaethaf y rhwystrau yr ydym yn eu hwynebu, credaf fod trydydd sector Cymru mewn sefyllfa dda i ffynnu. Mae'r wybodaeth, y creadigrwydd a'r ymrwymiad o fewn y sector yn anhygoel. Ein her, a'n cyfle, yw datgloi'r potensial hwnnw, gan adeiladu Cymru gryfach, tecach a mwy gwydn i bawb.

Jane Hutt AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a'r Prif Chwip

Barn y sector a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr ledled Cymru unwaith eto wedi dangos eu cyfraniad anhepgor at les y genedl. Ni fu gallu'r sector i ymateb yn gyflym, cyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn angen, a dod â chymunedau at ei gilydd erioed  yn fwy gweladwy nac yn fwy hanfodol.

Ar draws pob cymuned, mae mudiadau gwirfoddol wedi bod ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â phwysau cymdeithasol ac economaidd sy'n dwysau. O dlodi bwyd ac ansicrwydd tai i unigrwydd, iechyd meddwl, a'r argyfwng hinsawdd, mae'r sector wedi cyflawni lle mae'r angen mwyaf. Mae'r ymateb hwn wedi'i yrru gan wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a staff sy'n parhau i roi eu hamser a'u harbenigedd er gwaethaf pwysau ariannol a gweithredol cynyddol.

Er bod rôl y sector wrth gyflawni yn parhau i fod yn hanfodol, mae ei effaith fel partner, eiriolwr ac arloeswr hefyd wedi cryfhau. Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector wedi parhau i ddarparu lle ar gyfer cydweithio go iawn rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector, wedi'i wreiddio mewn ymagwedd agored a phwrpas a rennir. Mae'r Cod Ymarfer Cyllido diwygiedig yn enghraifft o'r bartneriaeth hon ac mae'n gam cadarnhaol tuag at berthnasoedd tecach, mwy cynaliadwy sy'n cydnabod gwir gostau cyflawni.

Mae'r gwaith i gyd-ddylunio Dull Newydd o Wirfoddoli yng Nghymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru a CGGC gyda phartneriaid ar draws y Sector Gwirfoddol, yn nodi symudiad sylweddol tuag at weledigaeth genedlaethol a rennir. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gwirfoddoli yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn cael ei werthfawrogi fel sylfaen i fywyd cymunedol.

Er gwaethaf y llwyddiannau hyn, mae'r sector yn wynebu pwysau cynyddol. Mae chwyddiant, yr argyfwng costau byw, heriau recriwtio a chadw, a chyllid craidd sy'n crebachu yn herio cynaliadwyedd sefydliadau mawr a bach. Mae gwirfoddolwyr dan bwysau, mae cronfeydd wrth gefn yn cael eu disbyddu, ac mae angen cyllid hirdymor, hyblyg ar frys.

Eto, er gwaethaf yr heriau hyn, mae'r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector yn parhau i fod yn gryf. Mae'n parhau i fod wedi'i seilio ar egwyddorion Cynllun y Trydydd Sector sef parch o'r naill du, atebolrwydd, ac ymrwymiad a rennir i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.

Wrth i ni edrych i'r dyfodol, mae CGGC a'i bartneriaid y Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) wedi ymrwymo i ddwysau'r bartneriaeth hon. Mae ein ffocws ar gryfhau'r seilwaith sy'n cefnogi gweithredu gwirfoddol, hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, a sicrhau bod llais y sector yn siapio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar ein cymunedau.

Gyda'n gilydd, gallwn greu'r amodau lle mae mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr nid yn unig yn dal ati, ond yn ffynnu i helpu i adeiladu Cymru sy'n decach, yn wyrddach ac yn fwy cysylltiedig i bawb.

Dr Neil Wooding CBE, Cadeirydd CGGC

Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr CGGC 

Pwrpas a chefndir Cynllun y Trydydd Sector

Beth yw’r Trydydd Sector?

Mae’r Trydydd Sector yn cwmpasu bron pob agwedd ar fywydau pobl. Mae’n cynnwys sefydliadau cymunedol, grwpiau hunangymorth, sefydliadau gwirfoddol, elusennau, sefydliadau wedi’u seilio ar ffydd, mentrau cymdeithasol, busnesau cymunedol, cymdeithasau tai, cwmnïau cydweithredol a sefydliadau cydfuddiannol a rhagor.

Mae  amrywiaeth o ffurfiau sefydliadol yn y trydydd sector, gan gynnwys elusennau cofrestredig a rhai heb eu cofrestru, Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant (a all fod yn Elusennau Cofrestredig hefyd), Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus a chymdeithasau anghorfforedig. Mae gan bob sefydliad ei nodau, diwylliant unigryw, set o werthoedd a'i ffordd ei hun o wneud pethau.

Er gwaethaf yr amrywiaeth fawr hon, mae gan sefydliadau'r trydydd sector rai nodweddion pwysig yn gyffredin. Maent:

  • yn gyrff anllywodraethol, annibynnol; wedi’u sefydlu’n wirfoddol gan ddinasyddion sy’n dewis trefnu;
  • wedi ymrwymo i ail-fuddsoddi unrhyw arian dros ben i hybu eu hamcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol.
  • wedi'u sbarduno gan ‘werthoedd’ a’u cymell gan yr awydd i hybu amcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol, yn hytrach na dim ond i wneud elw; ac

Rydym yn parhau’n argyhoeddedig y dylid ystyried y cyrff sydd â’r nodweddion hyn fel rhai sy’n perthyn i “sector” pendant.

Mae'r sector hwn yn cael ei adnabod fel y trydydd sector a'r sector gwirfoddol a defnyddir y ddau enw yn yr adroddiad hwn.

Dyma rai rhifau allweddol:

  • Mae 47,116 o fudiadau gwirfoddol yn weithredol ledled Cymru. (ganolfan ddata CGGC)
  • Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024/25 fod 32% o bobl 16+ oed wedi gwirfoddoli, gan ddangos cynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (o 26% yn 2019 i 2020, i 29% yn 2021 i 2022 a 30% yn 2022 i 2023). (Data o Arolwg Cenedlaethol Cymru)

Cynllun y Trydydd Sector

Lluniwyd Cynllun y Trydydd Sector p dan Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio Cynllun, sy’n ddatganiad o'u bwriad i gefnogi a hyrwyddo buddiannau sefydliadau gwirfoddol perthnasol, wrth arfer eu dyletswyddau fel Gweinidogion Cymru.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gyfer 2023 i 2025 yn dangos sut y gweithredwyd cynigion a nodwyd yng nghynllun y trydydd sector yn ystod y blynyddoedd ariannol hynny. 

Dibenion Cynllun y Trydydd Sector:

  • rhannu syniadau a gwybodaeth
  • monitro a gwerthuso rhaglenni a chynlluniau
  • diddordeb cytûn yn y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn cydweithio â’r Trydydd Sector
  • cynllunio a dylunio ar y cyd
  • sicrhau arian ar gyfer pob maes polisi
  • themâu trawsbynciol y cynllun:
    • trechu tlodi
    • datblygu cynaliadwy
    • cydraddoldebau
    • y Gymraeg

Amcan Cynllun y Trydydd Sector yw creu partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector â’r bwriad o’n helpu i ddatblygu a chefnogi prosesau a fydd, yn y pen draw, yn arwain at y canlynol:

  • cymunedau gwytnach: y ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud cyfraniad gwirfoddol i fywiogrwydd ac adfywiad eu cymunedau, yn darparu gofal ac yn helpu i feithrin hyder a sgiliau pobl; a’r cyfleoedd y mae’r Trydydd Sector yn eu creu ar gyfer cyflogaeth a menter yn lleol
  • polisi gwell: yr wybodaeth a’r arbenigedd y mae’r Trydydd Sector yn eu cynnig drwy ei brofiad rheng flaen i helpu i lunio polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau
  • gwell gwasanaethau cyhoeddus: y rôl arloesol a thrawsnewidiol y gall y trydydd sector ei chwarae i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyrraedd mwy o bobl ac yn dod yn fwy sensitif i’w hanghenion

Mae disgwyl i holl Aelodau’r Cabinet, Dirprwy Weinidogion a swyddogion hyrwyddo buddiannau’r trydydd sector yn eu gwaith ac wrth wneud penderfyniadau. Mae Cynllun y Trydydd Sector yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i’r canlynol:

  • cynnal trefniadau ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon gyda’r trydydd sector
  • cynnal trefniadau ar gyfer cynorthwyo cymunedau a gwirfoddolwyr
  • cynnal trefniadau ar gyfer cefnogi strwythurau sy’n caniatáu i’r trydydd sector ffynnu
  • ceisio cadw at y Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector (sydd wedi’i gynnwys fel Atodiad i’r Cynllun)

Mae’n ymdrin â threfniadau ar gyfer ymgynghori, gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector, a chyllido hefyd.  Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r trefniadau hyn.

Beth ddigwyddodd yn 2023 i 2025?

Mae'r Cynllun yn nodi'r trefniadau ffurfiol ar gyfer ymgysylltu ar draws 5 maes:

Deialog a Chydweithredu

Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cytuno ar drefniadau ymarferol, deialog a chyfnewid gwybodaeth. Un enghraifft dda o hyn yn gweithio'n ymarferol, ac a  sicrhaodd ganlyniadau cadarnhaol i randdeiliaid yn ystod y cyfnod adrodd hwn yw datblygu Rhwydwaith Hyfforddi newydd ym maes Addysg.

Astudiaeth achos: adeiladu perthnasoedd cryfach rhwng addysg a'r trydydd sector

Y cefndir

Trwy ffrwd waith Perthnasoedd Adroddiad Adfer COVID Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC), lansiwyd rhaglen beilot i gryfhau cydweithrediad rhwng y Trydydd Sector a swyddogion addysg. Nod y fenter hon yw sicrhau bod cydweithio yn llywio agendâu a thrafodaethau yng nghyfarfod statudol ffurfiol portffolio'r Trydydd Sector, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Y dull gweithredu

Yn dilyn trafodaethau adeiladol dan arweiniad tîm y Trydydd Sector gydag aelodau o rwydwaith addysg y Trydydd Sector ac uwch swyddogion addysg Llywodraeth Cymru, cytunodd yr holl bartïon i sefydlu Rhwydwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector. Sicrhawyd arweinyddiaeth drwy benodi Cadeirydd Sector a Dirprwy Gadeirydd, ochr yn ochr ag uwch arweinydd ar addysg yn Llywodraeth Cymru.

Prif gamau gweithredu:

  • Ffurfio gweithgor ar y cyd gydag arweinyddiaeth a rennir.
  • Cytuno ar dri maes gwaith â blaenoriaeth.
  • Datblygu cynllun gwaith cydweithredol i lywio cyflawni.
  • Cynllunio cyflwyno'r blaenoriaethau hyn i'w cymeradwyo mewn cyfarfod portffolio ffurfiol â'r Gweinidog.
Effaith a'r camau nesaf

Bydd yr hyn a gaiff ei ddysgu o'r cynllun peilot hwn yn cael ei gyflwyno ar draws pob maes portffolio. Bydd hefyd yn llywio canllawiau a dogfennau cymorth ar gyfer creu fframwaith cadarn ar gyfer ymgysylltu rhwng y Trydydd Sector a Llywodraeth Cymru.

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC)

Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn helpu Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau trydydd sector i ddatblygu polisïau a gwasanaethau gwell. 

Yn ystod y cyfnod adrodd cadeirydd y TSPC oedd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ar y pryd. Roedd y Cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o rwydweithiau trydydd sector a oedd yn gweithio ar draws 25 o feysydd gwaith y trydydd sector, ynghyd â Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (gweler atodiad a).

Rhwng 2023 a 2025 cynhaliwyd cyfanswm o bum cyfarfod o’r Cyngor o dan nawdd Cynllun y Trydydd Sector.

Isod mae rhai enghreifftiau o'r pynciau Traws-Sector a drafodwyd:

  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • Diweddariadau cynnydd yn erbyn ffrydiau gwaith Adroddiadau Adfer Covid y TSPC, 'Cefnogaeth', 'Perthnasoedd' a 'Gwirfoddoli'.
  • Y Cod Ymarfer Cyllido newydd.
  • Y Weledigaeth newydd ar gyfer Gwirfoddoli.
  • Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
  • Partneriaeth Newid.
  • Fframwaith TSPC newydd ar gyfer Ymgysylltu a threialu ffordd newydd o weithio o fewn y Portffolio Addysg.
  • Sesiynau ymgysylltu â Chyllideb Ddrafft Cymru.
  • Effaith y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol ar y Sector.

Cyfarfodydd gweinidogol

Mae gan Gymru enw da haeddiannol yn rhyngwladol fel gwlad lle mae mynediad rhwydd at lunwyr polisi a Gweinidogion yn hyrwyddo llywodraethu da. Mae’r trydydd sector yn cyfarfod yn rheolaidd â phob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru i drafod materion sy’n berthnasol i’w portffolios.

Mae'r cyfarfodydd Gweinidogol hyn yn ategu'r ymgysylltiad o ddydd i ddydd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y trydydd sector, drwy ganolbwyntio ar faterion polisi strategol.

Dan nawdd Cynllun y Trydydd Sector, cynhaliwyd deuddeg cyfarfod rhwng Gweinidogion Cymru a sefydliadau trydydd sector yn ystod 2023 i 2025. Dyma enghreifftiau o’r pynciau a drafodwyd:

  • Heriau'r sector a'r pwysau ariannol sylweddol arno.
  • Cynllun trwyddedu Ymwelwyr Dros Nos.
  • Y Rhwydwaith Addysg a Hyfforddiant yn treialu'r ffordd newydd o weithio fel rhan o'r Fframwaith Ymgysylltu newydd.
  • Yr Economi Sylfaenol ac Ynni Adnewyddadwy.
  • Yr argyfwng costau byw.
  • Y Gymraeg.
  • Y Cod Ymarfer newydd ar gyfer Cyllido.
  • Ariannu Awdurdodau Lleol a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • Ymgysylltu ynghylch y gyllideb ddrafft.
  • Pwysigrwydd y sector fel partneriaid allweddol mewn darparu gwasanaethau yng nghanol toriadau mewn cyllid.
  • Brwydro yn erbyn anghydraddoldebau mewn darpariaeth iechyd a gofal / cydgynhyrchu a gweithio mewn partneriaeth gyfartal yng nghyd-destun sector gwirfoddol bregus.
  • Dyfodol y Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.
  • Cael gafael ar adnoddau ar gyfer  gwirfoddoli mewn iechyd a gofal cymdeithasol/herio hiliaeth mewn lleoliadau iechyd a gofal.
  • Y Cynllun Iechyd Menywod/Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles.
  • Galw'r gaeaf a rôl y sector yn y system iechyd a gofal.

Hefyd, ymgysylltodd Gweinidogion Cymru â sefydliadau trydydd sector mewn nifer o ffyrdd gwahanol y tu hwnt i’r cyfarfodydd ffurfiol hyn gan gynnwys ymweld â sefydliadau, mynd i ddigwyddiadau a chynadleddau, a thrwy gyfrwng gohebu'n uniongyrchol neu gyfarfod â  grwpiau neu sefydliadau unigol i glywed yn fwy penodol am faterion a oedd yn effeithio arnynt. 

Ymgynghoriadau

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i weithdrefnau ar gyfer ymgynghori ynghylch newidiadau polisi a datblygiadau polisi newydd sy’n effeithio ar y trydydd sector, gan gynnwys:

  • cyfleoedd i barhau i gynnal trafodaethau rhwng y trydydd sector, buddiannau gwirfoddoli a Llywodraeth Cymru i sicrhau dealltwriaeth a chyfraniad cynnar wrth ddatblygu polisi
  • trefniadau ymgynghori sydd fel arfer yn caniatáu digon o amser i ymgynghori’n ehangach â rhwydweithiau a defnyddwyr gwasanaethau
  • cefnogi rôl cyrff ambarél a chyfryngwyr wrth hwyluso ymgynghoriadau
  • rhoi adborth i ymatebwyr ynghylch ymatebion i ymgynghoriadau a’u canlyniadau
  • cyfleoedd i’r sector barhau i gymryd rhan yn ystod camau gweithredu a gwerthuso’r polisi

Pam mae Llywodraeth Cymru'n ymgynghori 

Mae ymgynghori yn ein helpu i ddeall sut y gallai pethau fel polisi neu gyfraith newydd effeithio arnoch chi. Mae deall yn well drwy glywed eich syniadau a'ch awgrymiadau yn ein helpu i wneud polisïau yn fwy effeithiol.

Mae ymgynghori yn ffordd fwy ffurfiol o gasglu barn. Mae'n ffordd i Weinidogion geisio cael amrywiaeth eang o safbwyntiau ar ddull gweithredu neu bolisi arfaethedig. Rydym hefyd yn defnyddio technegau eraill i'ch cynnwys mewn penderfyniadau. Mae arnom eisiau deall safbwyntiau a barn wahanol am yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud ac mae eich mewnbwn yn helpu i wella gwasanaethau'r llywodraeth.

Mewn rhai achosion, mae'r gyfraith yn datgan bod yn rhaid i ni ymgynghori ag unigolion, grwpiau neu bartneriaid y gellid effeithio arnynt.

Pwy rydyn ni'n ymgynghori â hwy

Ein nod yw cyrraedd cynifer o randdeiliaid â phosibl. Rydym yn targedu grwpiau a chymunedau nad ydynt fel arfer yn ymateb. Mae arnom ni eisiau eu safbwyntiau.

Mae deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn  dweud bod yn rhaid i ni gynnwys ystod amrywiol o bobl yn ein penderfyniadau.

Sut rydyn ni yn ymgynghori

Pan fydd ymgynghoriad newydd yn cael ei lansio, rydym yn sicrhau bod y dogfennau perthnasol ar gael ar ein gwefan  fel y gall pawb eu darllen a chyfrannu.

Fel arfer, rydym yn caniatáu o leiaf 12 wythnos i randdeiliaid ymateb i ymgynghoriad, oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny. Bydd dyddiad dechrau a gorffen clir i bob ymgynghoriad.

Efallai y byddwn hefyd yn ceisio gwybodaeth ac arbenigedd drwy alwad am dystiolaeth. Nid ymgynghoriad ffurfiol yw hyn. Mae galwad am dystiolaeth yn digwydd yn gynharach yn y broses o ddatblygu polisi a bydd ymgynghoriad yn ei ddilyn o bosibl. 

Ymgysylltu â'r trydydd sector ar ymgyngoriadau

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn annog y trydydd sector i gymryd rhan mewn  ymgyngoriadau drwy hyrwyddo cyfleoedd i wneud hynny drwy rwydweithiau trydydd sector sefydledig, gan gynnwys Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a Chymorth Trydydd Sector Cymru.

Mae holl ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru, ynghyd â'u canlyniadau, yn cael eu cyhoeddi ar wefan LLYW.CYMRU.

Rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025, cynhaliodd Llywodraeth Cymru 138 o ymgyngoriadau. Cyfrannodd y trydydd sector ymatebion i lawer o'r rhain, naill ai fel sefydliadau unigol neu drwy gyflwyniadau ar y cyd sy'n cynrychioli sawl corff trydydd sector.

Mae gwybodaeth am lefel yr ymgysylltu a'r ymatebion gan y trydydd sector ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd crynodeb cynhwysfawr o'r ymatebion hefyd ar dudalen we yr ymgynghoriad: tudalennau ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru

Datblygu polisi

O dan Gynllun y Trydydd Sector, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn ystyried, yn gynnar yn y broses o'u llunio, yr oblygiadau i’r trydydd sector yn sgil unrhyw bolisïau newydd neu newidiadau polisi. Mae’r gwaith ymgysylltu hwn â’r sector yn allweddol i lywio datblygu polisïau ac i helpu i lunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru. Enghraifft bwysig o'r ymgysylltiad hwn a'r manteision a ddaw yn ei sgil i sefydliadau'r trydydd sector sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru oedd datblygu Cod Ymarfer newydd ar gyfer cyllido:

Astudiaeth achos: Monitro’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector

Trosolwg

Yn 2025, cafodd y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector, rhan o Gynllun y Trydydd Sector, ei adnewyddu a'i ail-lansio i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben, yn gliriach i'w ddefnyddio, ac yn cyd-fynd ag anghenion esblygol y sector a chyllidwyr cyhoeddus. Mae'r Cod wedi'i adnewyddu yn darparu fframwaith a rennir ar gyfer perthnasoedd ariannu teg, effeithiol a chyson ar draws Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol.

Y cefndir

Mae'r Cod Ymarfer gwreiddiol yn chwarae rhan allweddol wrth lywio sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddyrannu i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Tynnodd adborth gan y sector a chyrff cyhoeddus sylw at yr angen i ddiweddaru'r canllawiau i wella hygyrchedd, cryfhau gweithio mewn partneriaeth, ac adlewyrchu heriau a chyfleoedd presennol ym maes cyllido.

Dull Gweithredu ac ymgysylltu

Arweiniwyd y gwaith adnewyddu gan Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Roedd dull cynhyrchu ar y cyd yn ganolog i'r broses, gyda nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu'n cael eu cynnal a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr y trydydd sector a swyddogion Llywodraeth Cymru. Roedd y sesiynau hyn yn rhoi cyfleoedd i gasglu adborth, rhoi prawf ar gynigion sy'n dod i'r amlwg, a sicrhau bod y Cod wedi'i adnewyddu yn adlewyrchu blaenoriaethau a rennir ac ymarferoldeb yn y byd go iawn.

Y Cod Ymarfer wedi'i Adnewyddu

Ar ôl ei adnewyddu, mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector a lansiwyd yn 2025 yn nodi pum egwyddor graidd i ategu perthnasoedd ariannu:

  1. Deialog Gynnar a Pharhaus: ymgysylltu rheolaidd, ystyrlon rhwng cyllidwyr a sefydliadau'r trydydd sector i gefnogi dealltwriaeth a rennir a chynllunio effeithiol.
  2. Prisio a Chanlyniadau: penderfyniadau ynghylch  ariannu sy'n cydnabod y gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol llawn a ddarperir gan y sector, yn hytrach na chanolbwyntio ar allbynnau yn unig.
  3. Mecanweithiau Ariannu Priodol: defnyddio offer a modelau cyllido sy'n gymesur ac yn cyd-fynd yn dda â'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
  4. Ecwiti: mynediad teg at gyllid, gydag ymdrechion i gael gwared ar rwystrau a hyrwyddo cynhwysiant ar draws y sector.
  5. Hyblygrwydd: lle i gyllidwyr a sefydliadau gytuno ar newidiadau pan fydd amgylchiadau'n esblygu, gan gefnogi gwytnwch a chyflawni.

Gyda'i gilydd, nod yr egwyddorion hyn yw cryfhau partneriaethau, hyrwyddo cysondeb mewn arferion ariannu, a gwella canlyniadau i gymunedau.

Deilliannau a'r camau nesaf

Mae'r Cod wedi'i adnewyddu yn darparu canllawiau cliriach a mwy hygyrch i gyllidwyr a mudiadau gwirfoddol fel ei gilydd. Ar ôl ei lansio, bydd yr Is-bwyllgor Cyllido a Chydymffurfiaeth yn canolbwyntio ar hyrwyddo'r Cod a chefnogi ei roi ar waith yn effeithiol ar draws Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus cysylltiedig.

Mae'r gwaith hwn yn gam pwysig wrth atgyfnerthu perthnasoedd ariannu cydweithredol, teg sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau gyda'r trydydd sector yng Nghymru.

Cyllid a Chefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r Trydydd Sector

Trwy roi cyllid craidd i’r rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW), sef partneriaeth sy’n cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru, cefnogodd Llywodraeth Cymru Seilwaith Trydydd Sector a fu, yn ystod 2023 i 2025, yn cynrychioli, yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r Trydydd Sector, ynghyd â bod yn atebol iddo, a hynny ar bob lefel.

Roedd y gefnogaeth hon yn canolbwyntio ar 4 piler allweddol o weithgaredd: gwirfoddoli; llywodraethu da; cyllid cynaliadwy; ac ymgysylltu â phartneriaid gwasanaeth cyhoeddus a dylanwadu arnynt.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r effeithiau lefel uchel sy'n cael eu cyflawni gan TSSW gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • cefnogwyd 6,468 o sefydliadau â gwybodaeth a chyngor uniongyrchol
  • Treuliwyd 37,603 awr yn cefnogi'r sector â'r pedwar maes gweithgaredd yn ogystal â helpu i gael gafael ar gymorth arall sydd ei angen.
  • Dyfarnwyd £66,309,089 o grantiau i sefydliadau drwy TSSW.
  • Darparodd 1,751 o gyrsiau ar-lein hyfforddiant i 19,254 o gyfranogwyr.
  • Cafodd 969 o ddigwyddiadau partneriaethau/fforymau/rhwydweithiau eu cynnal a'u hwyluso gyda 12,319 o bobl yn cymryd rhan
  • Mae 6,710 o Wirfoddolwyr wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli yng Nghymru 
  • Mae 1,247 o sefydliadau wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli yng Nghymru a hysbysebwyd 2,706 o gyfleoedd newydd i wirfoddoli. 
  • Erbyn diwedd 2024, roedd 859 o gyllidwyr wedi'u rhestru ar borth Cyllido Cymru, gyda chyfanswm o 876 o gronfeydd wedi'u hysbysebu. Roedd 31,201 o ddefnyddwyr wedi'u cofrestru.

I gael rhagor o wybodaeth am TSSW ewch i’r wefan.

Cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i TSSW yn 2023 i 2024
CyllidSwm
Cyllid craidd i Gynghorau Gwirfoddol Sir a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru£5,964,695
Cefnogaeth i ddiogelu£114,500
Cronfa Newid y Trydydd Sector£281,500
Cymorth i wirfoddoli£3,161,287
Cronfa Capasiti Partneriaeth£87,545
Cyfanswm£9,609,527
Cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i TSSW yn 2024 i 2025
CyllidSwm
Cyllid craidd i Gynghorau Gwirfoddol Sir a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru£8,421,929
Cefnogaeth i ddiogelu£394,500
Cronfa Newid y Trydydd Sector£290,465
Cymorth i wirfoddoli£3,000,112
Cronfa Capasiti Partneriaeth£94,826
Cyfanswm£12,201,832
Dadansoddiad o’r Dyraniadau Cyllid Craidd ar gyfer CGGC a Chynghorau Gwirfoddol Sirol unigol
Cyngor Gwirfoddol Sirol

Cyllid craidd

01/04/2023 i 31/03/2024

 

01/04/2023 i 31/03/25

Conwy£204,248.32£231,611.27
Sir Ddinbych £203,297.46£225,791.43
Sir y Fflint £209,671.62£224,391.68
Gwynedd £266,679.52£280,944.42
Ynys Môn £199,013.35£206,869.03
Wrecsam £204,186.42£223,642.65
Cyfanswm Rhanbarth y Gogledd £1,287,096.69£1,393,250.48
Sir Gaerfyrddin £230,733.24£261,644.20
Ceredigion £206,873.13£234,588.21
Sir Benfro £206,630.55£234,312.31
Powys £421,477.20£438,114.50
Cyfanswm Rhanbarth Gorllewin Cymru a Phowys £1,065,714.12£1,168,659.22
Castell-nedd Port Talbot£201,288.02£228,254.96
Abertawe£258,116.13£268,305.19
Cyfanswm Rhanbarth SBUHB £459,404.15£496,560.15
Caerdydd£248,389.85£281,666.15
Bro Morgannwg £220,534.41£229,239.92
Rhanbarth Caerdydd a'r Fro £468,924.26£510,906.07
Pen-y-bont ar Ogwr£199,574.77£221,003.78
Merthyr Tudful £197,156.93£204,939.35
Rhondda Cynon Taf£246,758.73£279,817.63
Cyfanswm Rhanbarth Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr £643,490.43£705,760.76
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent £782,359.29£876,967.80
Torfaen £219,108.89£227,757.88
Cyfanswm Rhanbarth Gwent £1,001,468.18£1,104,725.68
Cyfanswm Cynghorau Gwirfoddol Sirol £4,926,097.83£5,379,862.36

Cymorth Arall ar gyfer y Trydydd Sector

Nid cyllid TSSW oedd yr unig gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau trydydd sector ledled Cymru. Darparodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth, cyllid craidd a chyllid prosiect i lawer o sefydliadau eraill yn y Trydydd Sector.

Mewn llawer o achosion, roedd y cyllid hwn yn ymwneud â meysydd gwaith arbenigol a chytunwyd ar y cyllid gan Weinidog priodol o Lywodraeth Cymru. 

Gallwch weld manylion y cyllid hwn yng Nghyfrifon Blynyddol Cyfunol Llywodraeth Cymru. Nid oedd hyn yn cynnwys gwariant caffael na thaliadau anuniongyrchol a wnaed i sefydliadau’r trydydd sector lle’r oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i sefydliad arall, er enghraifft awdurdod lleol, a allai fod wedi ariannu sefydliadau trydydd sector wedyn.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru yn gosod y fframwaith a’r egwyddorion y mae rhaid eu cymhwyso i Lywodraeth Cymru, ei chyrff a noddir, y GIG yng Nghymru, ei chomisiynwyr, Cyngor y Gweithlu Addysg, Estyn ac is-gyrff Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Rheoli arian cyhoeddus Cymru.

Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector (y Cod) yn rheoli sut y dylai Llywodraeth Cymru a’i hasiantau ymdrin ag ariannu’r trydydd sector.

Mae’r Cod yn egluro’r mathau o gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu, yr egwyddorion y dylid seilio penderfyniadau cyllido arnynt, a’r telerau a’r trefniadau ar gyfer cynnig cyllid.

Cynllun y Trydydd Sector

Ni roddwyd gwybod am unrhyw achos o dorri’r Cod yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Rhagor o wybodaeth

Llywodraeth Cymru i gefnogi'r Sector Adeiladu 

Am wybodaeth am Wirfoddoli

Ewch i'ch Cyngor Gwirfoddol Sir Leol neu Ganolfan Wirfoddoli

Fel arall, gallwch gysylltu ag Uned y Trydydd Sector yn  thirdsectorqueries@llyw.cymru

I gael gwybodaeth am raglenni grant eraill, cysylltwch â   Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) on 0300 1110124

I gael rhagor o wybodaeth am TSSW, ewch i’w gwefan.

Atodiad a: tabl o Feysydd Diddordeb Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac arweinwyr rhwydweithiau

  • Cyngor ac eiriolaeth, Fforwm Darparwyr Cyngor Annibynnol
  • Lles anifeiliaid, Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru
  • Y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth, Bywydau Creadigol
  • Ceiswyr lloches a ffoaduriaid, Cynghrair Ffoaduriaid Cymru
  • Plant a theuluoedd, Plant yng Nghymru
  • Cymuned, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
  • Cyfiawnder Cymunedol, Cyfiawnder Cymunedol Cymru
  • Anabledd, Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru
  • Addysg a hyfforddiant, Addysg Oedolion Cymru
  • Cyflogaeth, Cadwch Gymru'n Daclus
  • Yr amgylchedd, Cyswllt Amgylchedd Cymru
  • Lleiafrifoedd ethnig, Cyngor Hil Cymru
  • Lleiafrifoedd ethnig, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST)
  • Rhywedd, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Grŵp Cynllunio Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
  • Tai, Homes for All Cymru
  • Cymorth lleol a rhanbarthol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru
  • Rhyngwladol, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
  • Pobl hŷn, Cynghrair Henoed Cymru
  • Crefydd, Cyngor Rhyng-ffydd Cymru
  • Rhywioldeb, Stonewall Cymru
  • Menter gymdeithasol, Y Rhwydwaith Menter Gymdeithasol
  • Chwaraeon a hamdden, Cymdeithas Chwaraeon Cymru
  • Gwirfoddoli, Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru
  • Y Gymraeg, Mentrau Iaith Cymru
  • Ieuenctid, Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru
  • Prif Weithredwr CGGC, Cynrychiolydd CGGC