Adroddiad blynyddol cysylltiadau rhyngwladol 2024 i 2025 - 1. Trosolwg
Adroddiad blynyddol yn nodi gweithgarwch yng Nghymru a thramor i gyflawni'r dyheadau yn y Strategaeth Ryngwladol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y Gweinidog
Mae Cymru yn wlad sy'n edrych tuag allan. Ar yr adeg heriol hon, a'r byd yn lle mor ansicr, rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i feithrin cysylltiadau rhyngwladol a phartneriaethau sy'n denu swyddi, buddsoddiadau a chyfleoedd.
Rydyn ni'n wlad fach ond mae ein dylanwad fel arloeswr byd-eang wedi cynyddu'n sylweddol, yn enwedig ym maes datblygu cynaliadwy. A hithau'n ddeng mlynedd ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae ein gwaith yn llywio gweithgarwch drwy'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.
Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers inni gyhoeddi Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru. Roedd yn ddatganiad o fwriad uchelgeisiol, yn ymrwymiad i weithio ar draws nifer o feysydd i godi proffil ein gwlad, i dyfu'r economi ac i ddweud wrth y byd ein bod yn wlad sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy'n barod i chwarae ein rôl wrth fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n diffinio'r dyfodol.
Mae ein model ar gyfer diplomyddiaeth yn unigryw. Mae ein dull Tîm Cymru yn sicrhau cydweithredu ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid i gynyddu'r effaith a'r manteision cymaint ag y bo modd. Yn benodol, hoffwn i ganmol ein rhwydwaith tramor. Mae'r timau bach hyn wedi'u lleoli ledled y byd – bron bob amser o fewn llysgenadaethau Prydain ac uchel omisiynau – ac maen nhw'n hwyluso ymgysylltu ag amrediad o amcanion o fasnach a buddsoddi i bolisi, ymgysylltu â'r Cymry ar wasgar ac arddangos y gorau o Gymru yn ystod achlysuron fel Dydd Gŵyl Dewi.
Rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd dramor i wneud gwahaniaeth gartref. Gwelodd ein Blwyddyn Cymru yn India 2024 gytundeb yn cael ei wneud gyda Phrif Weinidog Kerala sydd wedi gweld gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu recriwtio ac yn gweithio mewn ysbytai Cymru.
Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r gweithgareddau a'r canlyniadau sydd wedi cael eu cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, rwy'n glir iawn y dylen ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd o'n blaenau. Eleni, cyhoeddais y Cynllun Cyflawni Rhyngwladol, sy'n nodi'r 15 maes gweithgarwch y byddaf yn canolbwyntio arnyn nhw dros y flwyddyn nesaf.
Bydd 2025–2026 yn flwyddyn hynod bwysig i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd ein tîm pêl-droed merched yn cystadlu yn y Swistir ym Mhencampwriaethau Ewrop – eu twrnamaint rhyngwladol mawr cyntaf – a byddwn yn cynnal Uwchgynhadledd Buddsoddi a fydd yn arddangos Cymru fel prif gyrchfan ar gyfer buddsoddi a chreu swyddi. Mae'r rhain yn gyfleoedd mawr – ac eraill yn yr arfaeth– a fydd yn dangos ein gwlad i'r byd, yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol ac yn creu cyfleoedd i bobl sy'n byw yma.
Eluned Morgan AS
Prif Weinidog Cymru
Cyflwyniad
Mae 2024–2025 wedi canolbwyntio ar atgyfnerthu cysylltiadau rhyngwladol, ehangu cyfleoedd ar gyfer masnachu a buddsoddi a hyrwyddo diwylliant Cymru yn fyd-eang. Mae'r adroddiad hwn – y pedwerydd adroddiad blynyddol sy'n cynnwys gwaith adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru – yn crynhoi'r cyflawniadau a'r heriau allweddol sy'n wynebu ein swyddfeydd rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn ac yn dyst i'r ymdrechion cydweithredol a'r mentrau strategol wedi'u cynnal i hyrwyddo ein nodau, hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang, datblygu ein cysylltiadau rhyngwladol, gwerthu Cymru fel cyrchfan ar gyfer mewnfuddsoddi a chefnogi cwmnïau o Gymru i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau dramor. Yn dilyn adroddiad y llynedd, mae'n cynnwys gwybodaeth am raglen Cymru ac Affrica a sut mae'r rhaglen wedi newid ei chwmpas i agenda Cyfrifoldeb Byd-eang ehangach.
Y Cyd-destun geo-wleidyddol
Mae newidiadau geo-wleidyddol sylweddol yn 2024–2025 wedi dylanwadu ar y ffordd mae Cymru yn ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol a masnach. Mae tirwedd gwleidyddiaeth fyd-eang yn esblygu, ac mae cynghreiriau, cytundebau masnach a pholisïau economaidd wedi newid. Mae hyn wedi arwain at gyfleoedd a heriau i Gymru. Mae ymosodiadau terfysgol Hamas ar Israel yn gynnar ym mis Hydref 2023, yr argyfwng dyngarol yn Gaza, a'r ffaith bod y gwrthdaro ledled y Dwyrain Canol ehangach wedi gwaethygu, wedi dod yn fwyfwy amlwg ymhlith yr heriau polisi tramor sy'n wynebu'r DU, ac mae Cymru wedi teimlo effaith yr heriau hyn. Wrth i'r gwrthdaro barhau, bu ragor o ffocws ar y ffaith nad yw polisi tramor wedi cael ei ddatganoli.
Tynnodd y tensiynau geo-wleidyddol yn Nwyrain Ewrop, yn enwedig y gwrthdaro yn Wcráin, sylw at bwysigrwydd undod a chefnogaeth ymhlith cenhedloedd democrataidd, ac mae Cymru wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu cymorth dyngarol i Gaza, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu 2024–2025, felly nid yw effaith tariffau wedi'u gosod gan UDA ar ei phartneriaid masnachu ym mis Ebrill 2025 wedi'u cynnwys. Fodd bynnag, mae'n amlwg y bydd 2025–26 yn gweld ailstrwythuro cysylltiadau masnach a chadwyni cyflenwi ledled y byd. Efallai y bydd rhaid i allforwyr Cymru ymdrin â chymhlethdodau tariffau uwch, ailwerthuso eu strategaethau masnach ac archwilio marchnadoedd eraill i liniaru effaith y tariffau hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau, gan ddarparu adnoddau ac arweiniad i'w helpu i barhau i fod yn gystadleuol yn y farchnad fyd-eang.
Mae effaith newid yn yr hinsawdd yn parhau i fod yn broblem gritigol, gan ddylanwadu ar benderfyniadau geo-wleidyddol a chydweithredu rhyngwladol. Mae Cymru wedi parhau i eirioli dros arferion cynaliadwy a stiwardiaeth amgylcheddol, gan alinio ei pholisïau â mentrau byd-eang i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Dydd Gŵyl Dewi
Cafodd Dydd Gŵyl Dewi ei ddathlu ledled y byd, gan arddangos treftadaeth Cymru ac atgyfnerthu cysylltiadau dwyochrog.
Yng Ngogledd America, cynhaliodd swyddfa Washington DC dderbyniad yn Neuadd Madison, Llyfrgell y Gyngres, i ddathlu dengmlwyddiant Cawcws Cyfeillion Cymru. Yn Efrog Newydd a Chicago, cynhaliwyd derbyniadau ar gyfer y Cymry ar wasgar, rhanddeiliaid allweddol, cynrychiolwyr y llywodraeth, addysgwyr ac arweinwyr busnes, a hefyd hyrwyddwyd lansiad diweddar Wrexham Lager yn yr Unol Daleithiau, tra oedd swyddfa Los Angeles yn cynnal cinio ym Mhreswylfa'r Conswl Cyffredinol, a fynychwyd gan 30 o weithwyr proffesiynol technoleg a chreadigol o gwmnïau fel HBO, Fox, Disney a Paramount. Dathlodd swyddfa Canada gyda'r Uchel Gomisiynydd newydd Prydain i Canada, Rob Tinline, ym Mhreswylfa'r Conswl Cyffredinol yn Toronto. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cynhyrchion o Gymru fel Penderyn, Caws Eryri, Welsh Lady Preserves, a Drop Bear Beer.
Yn Ewrop, canolbwyntiodd Iwerddon ar atgyfnerthu'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon drwy gyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys ymweliad â Dulyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, a fynychodd ddigwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gan yr Academi Frenhinol Wyddelig a Darlith Flynyddol IACES.
Ymwelodd y Prif Weinidog â Brwsel a Pharis, lle roedd ei rhaglen yn cynnwys derbyniad blynyddol Dydd Gŵyl Dewi – gyda thema yn canolbwyntio ar heddwch – tra oedd y tîm yn yr Almaen yn cynnal derbyniadau yn Düsseldorf a Berlin a oedd yn canolbwyntio ar fuddsoddi.
Yn y Dwyrain Canol, cynhaliodd swyddfa Dubai ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi yn Llysgenhadaeth Prydain, gan arddangos cig oen Cymru, ar gyfer cwmnïau sy'n ymweld â Gulfood a'r Cymry ar wasgar sy'n byw yn lleol. Yn ogystal, cynhaliwyd digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi a oedd yn cynnwys panel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Doha, gyda 108 o fynychwyr ac yn cynnwys gwaith gan artistiaid o Gymru.
Yn India cafodd diweddglo Blwyddyn Cymru yn India 2024 ei ddathlu gyda digwyddiadau yn Mumbai a New Delhi ac ymweliad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Cynhaliodd swyddfa Japan dderbyniad ym mhreswylfa'r Llysgennad ar gyfer busnesau, gyda pherfformiad gan yr Urdd. Yn ogystal, cynhaliwyd rali stamp Eki arbennig yng Nghastell Himeji, gyda dros 700 o gwsmeriaid o Japan yn cymryd rhan. Yn Tsieina, roedd ffocws digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi yn amrywio – roedd Beijing yn canolbwyntio ar gyn-fyfyrwyr Cymru a'r Cymry ar wasgar, tra oedd Shanghai yn dathlu gyda busnesau. Yn Chongqing cynhaliwyd dathliad ar y cyd gyda Chonswl Chongqing, gyda Llysgennad EF yn bresennol.
Lleoliadau swyddfeydd
Nid oes newid wedi digwydd i'r rhwydwaith dramor. Mae'r map a'r tabl isod yn dangos ein swyddfeydd yn ôl ardal.
Asia
- Beijing
- Chongqing
- Shanghai
- Bangalore
- Mumbai
- New Delhi
- Tokyo
Ewrop
- Brwsel
- Berlin
- Düsseldorf
- Dulyn
- Paris
- Llundain
Gogledd America
- Atlanta
- Chicago
- Efrog Newydd
- Los Angeles
- Washington DC
- Montréal
Y Dwyrain Canol
- Doha
- Dubai
