Neidio i'r prif gynnwy

Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Mae'r cyfnod hwn yn cwmpasu'r prif gyfnod o gyfyngiadau yn ystod pandemig COVID-19. Dylid cymryd gofal wrth gymharu canlyniadau 2020-21 â blynyddoedd blaenorol gan nad yw'n glir pa effeithiau sy'n rhai tymor byr oherwydd y pandemig a pha rai sy'n fwy hir dymor. Mae canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf (o tua 5% yn yr 1990au hwyr).

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd y gyfradd ailgylchu o 65.1% yn 2019-20 i 65.4% yn 2020-21. Mae hyn yn rhagori ar y targed o 64% a osodwyd yn y Strategaeth 'Mwy nag ailgylchu'.
  • Cofnododd 13 o’r 22 awdurdodau lleol gynnydd yn eu cyfradd ailddefnyddio/ailgylchu/compostio o gymharu â’r llynedd.
  • Cynhyrchwyd 1.47 miliwn tunnell o wastraff trefol awdurdod lleol, gostyngiad o 2.6% a’r ffigwr isaf hyd yma.

Nodiadau

Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol 'Mwy nag ailgylchu' mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.

Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr Adroddiad ansawdd.

Adroddiadau

Saesneg yn unig

Adroddiad rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.