Neidio i'r prif gynnwy

Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Ebrill i Fedi 2023.

Roedd y cyfnod Ebrill i Medi 2023 ar ddiwedd cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19). Fodd bynnag, mae cymariaethau hanesyddol wedi eu heffeithio gan bandemig COVID-19, ac felly mae cymariaethau cyn y pandemig hefyd wedi'u cynnwys.

Mae canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf (o tua 5% yn yr 1990au hwyr).

Prif bwyntiau (data dros dro)

Hydref 2022 a Medi 2023

  • Cafodd 66.1% o wastraff ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio, cynnydd bach o’i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2022, a'r ffigwr 12 mis uchaf sydd wedi ei gofnodi.

Ebrill i Fehefin 2023

  • Cafodd 68.4% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd o 1 pwynt canran ar y chwarter cyfatebol yn 2022, a’r ffigwr uchaf ar gyfer y chwarter yma sydd wedi ei gofnodi.
  • Cynhyrchwyd 380,068 tunnell o wastraff trefol,cynnydd o 2% o’i gymharu â’r un chwarter yn 2022 a gostyngiad o 5% o’i gymharu â’r chwarter cyfatebol yn 2019.

Gorffennaf i Fedi 2023

  • Cafodd 67.2% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd bach ar y chwarter cyfatebol yn 2022, a’r trydydd ffigwr uchaf ar gofnod ar gyfer y chwarter hwn.
  • Cynhyrchwyd 360,984 tunnell o wastraff trefol,cynnydd bach o’i gymharu â’r un chwarter yn 2022 a gostyngiad o 10% o’i gymharu â’r chwarter cyfatebol yn 2019.

Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ddata dros dro, a gyhoeddir yn chwarterol. Cyhoeddir data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn flynyddol.

Nodiadau

Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021) mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.

Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Stuart Neil

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.