Neidio i'r prif gynnwy

Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2020.

Roedd y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) (gweler y wybodaeth ychwanegol isod).

Rhwng Ionawr 2020 a Rhagfyr 2020

  • Cafodd 64.8% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd bach ar gyfer y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2019.

Hydref i Ragfyr 2020

  • Cafodd 64% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd o 1 bwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter yn 2019.
  • Cynhyrchwyd 359,000 tunnell o wastraff trefol, cynnydd o 3% o’i gymharu â’r un chwarter yn 2019.

Nodyn

Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ddata dros dro, a gyhoeddir yn chwarterol. Cyhoeddir data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn flynyddol.

Roedd y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Amharodd y pandemig ar y casgliad data gwastraff awdurdodau lleol ar gyfer 2020-21. Achosodd hyn  anghysondebau yn y setiau data chwarterol.  

Yn ystod y chwarter rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr roedd amrywiaeth o gyfyngiadau ar waith ar gyfer gwahanol awdurdodau lleol ar wahanol adegau. Ar ddechrau'r cyfnod, dim ond rhai awdurdodau lleol oedd dan gyfyngiadau clo lleol, ac yna cafwyd y cyfnod clo byr (23 Hydref i 9 Tachwedd 2020) . Tua diwedd y cyfnod, cynyddodd y cyfyngiadau ymhellach gyda chyfnod clo cenedlaethol pellach (gan ddechrau ar 20 Rhagfyr 2020). Roedd yr effaith ar ddata gwastraff yn amrywio ar draws awdurdodau lleol gan fod gwahaniaethau lleol o ran gweithredu casgliadau gwastraff ac o ran pa safleoedd oedd ar agor. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd cymharu rhwng awdurdodau lleol yn ogystal â chymharu gyda chwarteri blaenorol.

Mae'n rhy gynnar i ddeall maint effeithiau'r pandemig ar setiau data blynyddol gwastraff trefol yr awdurdodau lleol a chartrefi.  Mae newidiadau mewn cyfyngiadau COVID-19 yn debygol o barhau i effeithio ar ddata gwastraff trefol yr awdurdodau lleol ar gyfer chwarteri mwy diweddar, a bydd y rhain yn cael eu hystyried mewn datganiadau yn y dyfodol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.