Neidio i'r prif gynnwy

Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2021.

Roedd y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) (gweler y wybodaeth ychwanegol isod).

Mae canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf (o tua 5% yn yr 1990au hwyr).

Ionawr i Ragfyr 2021

  • Cafodd 65.5% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd bach o’i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2020. Roedd hefyd yn gynnydd o 64.7% ym mis Rhagfyr 2019, cyn pandemig COVID-19.

Hydref i Ragfyr 2021

  • Cafodd 64% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, yr un ganran â’r chwarter cyfatebol yn 2020 ond cynnydd o 1 pwynt canran ar yr un chwarter yn 2019.
  • Cynhyrchwyd 350,000 tunnell o wastraff trefol, gostyngiad o 3% o’i gymharu â’r un chwarter yn 2020 a'r un tunelledd ar y chwarter cyfatebol yn 2019.

Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ddata dros dro, a gyhoeddir yn chwarterol. Cyhoeddir data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn flynyddol.

Roedd y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Amharodd y pandemig ar y casgliad data gwastraff awdurdodau lleol. Achosodd hyn  anghysondebau yn y setiau data chwarterol. Mae'r amhariad wedi amrywio rhwng awdurdodau lleol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau sy'n effeithio ar eu rheolaeth gwastraff unigol. Er nad oedd y rhan fwyaf o’r cyfnod Hydref i Ragfyr 2021 yn gyfnod clo, roedd sawl ffactor a allai fod wedi effeithio ar reoli gwastraff ar draws yr awdurdodau lleol. Mae effeithiau posibl yn cynnwys newidiadau i gyfleusterau a chyflenwyr, gweithwyr ddim yn gorfod gweithio gartref mwyach, prinder staff, a chyfrif am wastraff a allai fod wedi'i gadw o'r blaen. Mae'n werth nodi hefyd fod Cymru wedi cyrraedd lefel rhybudd 4 ar 12 Rhagfyr 2021. Mae'r materion hyn yn golygu ei bod yn anodd cymharu rhwng awdurdodau lleol yn ogystal â chwarteri blaenorol.

Nodiadau

Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021) mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.

Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Stuart Neil

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.