Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Search our decision reports using Ctrl + F.

Penodi Is-gadeirydd i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

25 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Clare Jenkins fel Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru am 4 blynedd rhwng 1 Mai 2024 a 30 Ebrill 2028. 

Cyllid ar gyfer Rhaglenni Diogelwch Cymunedol Awdurdodau Tân ac Achub

25 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i roi cyllid grant hyd at £371,000 o gyllid refeniw ac £1,000,000 o gyllid cyfalaf i’r tri Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer eu Rhaglenni Diogelwch Cymunedol yn 2024 i 2025.

Awdurdodi swyddogion Arolygiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr i weithredu yng Nghymru

25 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i anfon llythyr awdurdodi newydd i’r Arolygiaeth Rhywogaethau Anfrodorol i ddiweddaru’r rhestr o swyddogion sydd wedi eu hawdurdodi yng Nghymru at ddibenion Erthygl 2(1) o Orchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019.

Grŵp Cynghori Annibynnol ar Grid Trydan i Gymru yn y Dyfodol

25 Ebrill 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i sefydlu Grŵp Cynghori Annibynnol ar Grid Trydan i Gymru yn y Dyfodol, sy’n cael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru.

Gwariant y Gangen Iechyd Planhigion

25 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gynigion gwariant newydd a rhaglen waith ar gyfer 2024 i 2025, gan gynnwys cynigion diwygiedig ar gyfer rheoli llyfrothennod uwchsafn.

Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid – ymestyn cyfnod penodiadau

25 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ymestyn deiliadaeth y Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd hyd mis Medi 2025.

Cynllun Busnes a Chyllidebau Cadw

25 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar Gynllun Busnes a chyllideb Cadw ar gyfer 2024 i 2025.

Damwain Castell Rhuddlan

25 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo taliadau interim tuag at gais posibl am iawndal sy’n cael ei reoli gan gwmni cyfraith Geldard’s.

Cymeradwyo tollau trwyddedau sefydlog Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr yn nhymor 2024

23 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r tollau rhwydo a hysbysebwyd gan CNC, yn unol â darpariaethau Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975. 

Ailbenodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

23 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Jane Wild yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod

23 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i agor y Cynllun Grant Bach – Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod i hyrwyddo Bwyd a Diod Cymreig.

Penodi Aelod Cyllid Annibynnol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

22 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Stephen Elliot am bedair blynedd fel Aelod Cyllid Annibynnol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Cyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â phenderfyniadau ar gynllunio a gwaith achos cysylltiedig

18 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio wedi cytuno ar drefniadau gweithio gyda swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Gynllunio, gan nodi'r math o gynllunio a gwaith achos cysylltiedig a fydd fel arfer yn cael eu penderfynu gan Ysgrifenyddion y Cabinet a'r rhai a fydd yn cael eu penderfynu gan swyddogion.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

18 Ebrill 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ym mis Chwefror mewn perthynas â Rhaglenni Amlinellol Strategol arfaethedig ar gyfer Rhaglenni Treigl 9 mlynedd Coleg Sir Benfro a Choleg Cambria.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

18 Ebrill 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ym mis Chwefror mewn perthynas â chais Awdurdod Lleol Abertawe am gyllid ar gyfer prosiect datblygu caeau 2G Ysgol GG Bryn Tawe, o dan y Grant Cyfalaf Ysgolion Bro.

Ailbenodi Aelodau Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

17 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Lisa Curtis-Jones ac Anne Morris yn Aelodau Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Ffioedd Tocynnau Cerdyn Clyfar ITSO

16 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno i barhau ag aelodaeth Llywodraeth Cymru o ITSO i ddarparu cymorth i’r platfform tocynnau cerdyn clyfar ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2024 a mis Gorffennaf 2025 ar gost o £248,304.

Penodi Aelodau Bwrdd ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

15 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i benodi Jeff Greenidge ac Aaqil Ahmed am dair blynedd fel Aelodau o Fwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. 

Cymeradwyo sylwedd actif newydd, pydifflwmetoffen ym Mhrydain Fawr

11 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno bod yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn arfer y swyddogaeth gwneud penderfyniadau ar ran Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chymeradwyo pydifflwmetoffen, sylwedd actif newydd, ar gyfer Cymru.

Ciner Glass Limited – Penawdau Telerau Grantiau a Buddsoddiadau

10 Ebrill 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno bod Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Banc Datblygu Cymru, yn dechrau ar broses o negodi Penawdau Telerau na fydd yn rhwymol gyda Cinder Glass Ltd ar gyfer pecyn ariannu.

Y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro – Cydymffurfio â Rheoli Cymhorthdal Mawrth 2024

10 Ebrill 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r newid i’r asesiad o gymhorthdal ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro ac i ddarparu cyllid yn ôl-weithredol i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer prosiectau a gyflwynwyd i’r Rhaglen yn 2023 i 2024. 

Cyfrifoldeb am Arolygwyr Cymeradwy

9 Ebrill 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo camau i dynnu dynodiad Gweinidogion Cymru o swyddogaethau rheoleiddio Arolygwyr Cymeradwy o Gofrestr Cyngor y Diwydiant Adeiladu o Arolygwyr Cymeradwy. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cytuno i roi swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran rheoleiddio Arolygwyr Cymeradwy i’r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau.

Y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol

8 Ebrill 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y gofynion cyllido ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol.

Ymwrthedd gwrthficrobaidd

8 Ebrill 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y dylai Cymru ymuno â gwledydd eraill y DU drwy ymuno â Chynllun Gweithredu’r DU ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd ar gyfer y cyfnod 2024 i 2029.

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

8 Ebrill 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y Gweinidog  Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i ariannu gwaith y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion am ddwy flynedd ariannol i ddechrau (2024 i 2025 a 2025 i 2026), gyda’r opsiwn i ymestyn cefnogaeth am ddwy flynedd ariannol arall (2026 i 2027 a 2027 i 2028).

Prentisiaethau

4 Ebrill 2024

Mewn ymateb i’r adroddiad "The Transition from Education to Employment" (2023) cytunodd Gweinidog yr Economi fod gweithgarwch a argymhellir ar gyfer prentisiaethau gradd ac uwch eisoes yn cael ei ddatblygu ac y dylai prentisiaethau gradd barhau i gael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2023

4 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb 2023.

Penodiad i Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales

4 Ebrill 2024

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi ailbenodi Catherine Smith yn Gadeirydd i Fwrdd Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales am dymor pellach o dair blynedd, o 1 Ebrill 2024 gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2027.

Cyngor Pris Teg y Farchnad

2 Ebrill 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gyflogi trydydd parti i sefydlu Pris Teg y Farchnad am gyfranddaliadau a ddelir mewn cwmni preifat.

Y Rhaglen Croesawu â Chymorth i Fusnesau Rhyngwladol

2 Ebrill 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno y gellir defnyddio'r cronfeydd Cyd-fentro i ymestyn y Rhaglen Croesawu â Chymorth i Fusnesau Rhyngwladol.

Rheolau Sefydlog ar gyfer ymddiriedolaethau'r GIG

2 Ebrill 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar ddiwygiad i’r Rheolau Sefydlog Enghreifftiol, Cadw a Dirprwyo Pwerau ar gyfer Ymddiriedolaethau'r GIG ar ôl sefydlu Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru ac ar ôl i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gael statws prifysgol. 

Canolfan Ganser newydd Felindre

28 Mawrth 2024

Mae'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi eu cymeradwyaeth i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre weithredu'r contract mewn perthynas â chyllid, dylunio, adeiladu, a gwaith cynnal a chadw ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre.

Gwerthuso Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru

28 Mawrth 2024

Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i gaffael gwerthusiad allanol cychwynnol o dri chylch ariannu cyntaf Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.

Dyraniadau Prentisiaethau

28 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar ddyraniadau Prentisiaethau 2024 i 2025.

Datgarboneiddio'r sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch gan ddefnyddio Cyfalaf Trafodiadau Ariannol

28 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno bod risg isel iawn o rwymedigaethau ariannol o ganlyniad i beidio ag ad-dalu benthyciadau cyfalaf trafodiadau ariannol i'r sector Addysg Uwch ac Addysg Bellach ac, os bydd dyledion, byddant yn cael eu talu o'r cyllidebau presennol.

Cynllun Cyflenwi Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru 2024 i 2025

28 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cynllun cyflawni drafft Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sef cyllideb o £3.97 miliwn a fydd yn talu am weithgareddau datgarboneiddio sector cyhoeddus Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (refeniw). Mae hefyd  wedi cymeradwyo cyllideb o £11.25 miliwn ar gyfer Rhaglen Gyllido Cymru (cyfalaf).

Cam 3 yr Adolygiad o Gyllid Gofal Diwedd Oes

28 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gam 3 yr Adolygiad o Gyllid Gofal Diwedd Oes

Dadansoddiad o wariant cyllideb Partneriaethau Cymdeithasol a gynlluniwyd

28 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynlluniau'r dyraniad cyllidebol, a'r gwariant, mewn perthynas â chyllideb Partneriaethau Cymdeithasol o £892k ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer sefydliadau ar lawr gwlad

27 Mawrth 2024

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo’r Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer sefydliadau ar lawr gwlad

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

27 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn contractau’r Mentoriaid Cymunedol am 12 mis ychwanegol hyd at 31 Mawrth 2025, ar gost o £30,000.

Ymchwiliad COVID-19

27 Mawrth 2024

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo cyfanswm o gynigion cyllidol o £4.625 Miliwn i gefnogi’r ymateb i’r Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19 ar gyfer 2024 i 2025.

Trawsnewid Trefi

27 Mawrth 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Newid Hinsawdd gyllid grant Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gefnogi gwelliannau tir y cyhoedd yn High Street, Wrecsam; i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gefnogi ailddatblygu hen neuadd bingo ym Mhontypridd; ac i Gyngor Sir Benfro i gefnogi ailddatblygu dau eiddo ar Stryd y Bont, Hwlffordd. Hefyd, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi wedi cytuno y gellir cael arian cyfatebol ar gyfer y prosiectau yn Wrecsam a Phontypridd o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Trawsnewid Trefi

27 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi wedi cytuno y caiff Cyngor Sir Benfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Bro Morgannwg ddefnyddio arian cyfatebol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gefnogi cyfanswm o 10 prosiect Trawsnewid Trefi. 

Trawsnewid Trefi

27 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo darparu cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i gefnogi ailddatblygu adeilad blaenorol y Tîm Troseddwyr Ifanc, Cramic Way, Port Talbot.

Cynnig Gofal Plant Cymru

27 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu dylunio a datblygu gweithredu One Login fel y gwasanaeth dilysu/adnabod newydd ar gyfer gwasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru.

Canolfan Ganser Felindre

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi rhoi cymeradwyaeth i’r cytundebau Gwaith Uwch Pellach mewn perthynas â Chanolfan Ganser newydd Felindre.

Academi Seren

25 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y cynllun gwariant ar gyfer "Academi Seren" a'r prif gyflawniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru

25 Mawrth 2024

Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i gyllideb o £1,000,000 ar gyfer 2024 i 2025 ac agor y cyfnod ymgeisio ym mis Chwefror ar gyfer cylch ariannu 4 Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Grant Busnes Fferm Ffenest 5 am na wnaeth y busnes gyflwyno tystiolaeth erbyn 19 Mawrth 2019, y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â rhoi estyniad o flwyddyn i Gontract Glastir hyd 31 Rhagfyr 2021

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill elfen Wyrddu taliad Cynllun Taliad Sylfaenol 2018.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â thalu Cynllun Taliad Sylfaenol 2019 ar gyfer caeau na chawsant eu hawlio ar Ffurflen Cais Sengl 2019.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod taliadau Opsiwn 100 (coetir heb stoc) Glastir Uwch ar bedwar cae gan na chafodd ‘ticiau hawlio’ eu rhoi wrth y caeau hynny yn adran ‘Data Caeau – Hawliadau Datblygu Gwledig’ Ffurflen Cais Sengl 2020.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i rannol dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch yn dilyn archwiliad ar 19 Ionawr 2017.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Grant Busnes Fferm Ffenest 5 gan na chafodd dogfennau ategol eu cyflwyno erbyn 19 Mawrth 2019.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad gwaith cyfalaf Glastir Uwch 2019 a gafodd ei gyflwyno ar ôl y dyddiad cau, 28 Ionawr 2020.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i rannol dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill holl daliadau cymhorthdal 2012 i 2017 gan nad oedd gan yr hawlydd reolaeth lwyr/gyfreithiol ar y caeau.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau a rhoi cosb am orddatgan o dan y Cynlluniau Creu Coetir Glastir, Premiwm Coetir Glastir a Rheoli Coetir Glastir yn sgil cynnal archwiliadau gweinyddol.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch ar gyfer eitemau Elfen Darged 024 (TE024) “Ailstocio Coed Llydanddail – Pob safle arall” ar ôl archwilio’r safle.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch 2018 a gafodd ei gyflwyno ar ôl y dyddiad cau, 28 Ionawr 2019.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch 2018 a gafodd ei gyflwyno ar ôl y dyddiad cau, 28 Ionawr 2019.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i rannol dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch 2018 a rhoi cosb ychwanegol.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cosb Trawsgydymffurfio o 50% ar yr holl gynlluniau a hawliwyd ar Ffurflen Cais Sengl 2020.

Proses Apelio Annibynnol Grantiau a Thaliadau Gwledig

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i rannol dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cosb Trawsgydymffurfio o 50% yn sgil tramgwyddo Gofyniad Rheoli Statudol 4, Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid.

Cyswllt Rhieni Cymru – Parhau i Gyllido

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i gyllido Cyswllt Rhieni Cymru.

Cyllid ar gyfer Cymwysterau Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

25 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu £528,000 o gyllid yn 2024 i 2025 a £1,108,800 yn 2025 i 2026 i’r Mudiad Meithrin i’w cefnogi i barhau i gynnal cyrsiau cymwysterau gofal plant trwy’r Gymraeg ar gyfer 100 o ddysgwyr Lefel 3 a 50 o ddysgwyr Lefel 5 trwy’r Rhaglen Cam wrth Gam.

Penodi Aelodau Gofal Cymdeithasol Cymru

25 Mawrth 2024

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Abyd Quinn-Aziz, Aaron Edwards, Einir Hinson, Marl Roderick a Sarah Zahid fel aelodau am 4 blynedd o 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2028 ac Edwin Mutambanengwe, Katija Dew, Odosamawen Igbedion, Isobel Lloyd a Kieran Harris o 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2029. 

Cymorth i gynnal cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg

21 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid i roi cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg ar waith dros ddwy flynedd academaidd.

Grant Plant yng Nghymru

21 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid grant Plant yng Nghymru 2024 i 2025.

Prosiectau ymchwil i ofal plant a chwarae

21 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant ar brosiectau ymchwil i ofal plant a chwarae ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Prosiectau ymchwil i gymorth i deuluoedd

21 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar wariant ar brosiectau ymchwil i gymorth i deuluoedd ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Cytundebau Masnachol

21 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i adnewyddu’r trefniadau gwarantu a buddsoddi cyfalaf cyfranddaliadau mewn cwmni yn y De.

Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog Model

21 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog Model ar gyfer Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru.

Rheolau Sefydlog Model

21 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar newidiadau i’r Rheolau Sefydlog Model ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol a’r Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru newydd.

Cronfa Cyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso

21 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Llesiant Meddwl wedi cytuno i glustnodi cyllid ar gyfer y Gronfa Cyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso o Ddyraniadau Craidd y GIG yn 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Gwasanaethau cynghori ar sgiliau cyflogwyr

21 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025 i ddarparu gwasanaethau cynghori ar sgiliau cyflogwyr.

Diogelwch Adeiladau – gofynion cyllidebol

21 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid refeniw ar gyfer y Rhaglen Diogelwch Adeiladau ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf.

Y Sefydliad Cyflog Byw ar gyfer staff Agenda ar gyfer Newid

21 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynnydd dros dro i gyfradd fesul awr isaf staff Agenda ar gyfer Newid y GIG i adlewyrchu’r cynnydd yng nghyflog byw y Sefydliad i £12 yr awr.

Cyfarwyddiadau ar gyfer Cyfrifon: Llais a Chyngor y Gweithlu Addysg

21 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth leol wedi cytuno i gyhoeddi Cyfarwyddiadau Cyfrifon 2023 i 2024 a thu hwnt i Gorff Llais y Dinesydd (Llais) a Chyngor y Gweithlu Addysg.

Rhaglen Gyflawni Unnos

20 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar £124,320 i gomisiynu adolygiad i'r ffordd y mae cartrefi fforddiadwy newydd a thai cymdeithasol yn cael eu comisiynu.

Grant Cyngor Caerdydd i gefnogi cydymffurfio â chanllawiau nitrogen deuocsid

20 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid grant pellach i Gyngor Caerdydd i gefnogi mesurau i gynorthwyo cydymffurfiaeth â therfynau nitrogen deuocsid statudol yng nghanol y ddinas.

Ffioedd Proffesiynol ar gyfer Ailgyllido Parc Adfer

20 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cytuno i ddarparu cyfraniad o £150,000 at y costau proffesiynol a dalwyd hyd yma i gefnogi'r gwaith proffesiynol yn gysylltiedig a'r cynnig i ailgyllido Parc Adfer.

Cais am Arian ar gyfer Cynwysyddion Ailgylchu Amldro Abertawe

20 Mawrth 2024

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i ddarparu £2.2 miliwn i gefnogi gwelliannau i wasanaethau ailgylchu yn Abertawe.

Prosiect Trawsnewid Trefi

20 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Gweinidog yr Economi a Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno y gall Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy ddefnyddio cronfa ffyniant gyffredin y DU fel eu cyllid cyfatebol ar gyfer cynllun goleuadau celf tanffordd arglawdd Afon Taf, prosiect gwella tanffordd Stryd Clare, prosiect Parc Heol Isaf y Gadeirlan (Clare Gardens) a phrosiect Pop-up Trefynwy.

Llythyr cylch gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

20 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo llythyr cylch gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 2024 i 2025.

Rhaglen Fuddsoddi Llifogydd a Dŵr

20 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y rhaglen gyfalaf a refeniw ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Chyflenwi Polisi Dŵr ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Cyngor ar Dapro ac Arian Cyfatebol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

20 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i ddull cymodi tymor hwy ar gyfer elfen gyfatebol a thapro'r Gronfa Integreiddio Ranbarthol.

Cyllido a Chynllun Busnes TrC 2024 i 2025

19 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar Gynllun Busnes Trafnidiaeth Cymru 2024 i 2025, cyllideb TrC o £376.075 miliwn o refeniw a £181.612 miliwn o gyfalaf, estyn Strategaeth Gorfforaethol TrC am flwyddyn a chynlluniau trosglwyddo tir at ddiben cynnal prosiect trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd.

Dyrannu cyllidebau’r Is-adran Addysg Uwch ac arferion gwaith

19 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno i ddyrannu £2.297 biliwn i Linellau Gwariant Cyllideb yr Is-adran Addysg Uwch ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025 er mwyn parhau i gyllido Addysg Uwch (a rhai meysydd Addysg Bellach) yng Nghymru.

Hysbysiad Cymeradwyo methodolegau cyfrifo

19 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar Hysbysiad diwygiedig ar gyfer Cymeradwyo methodolegau cyfrifo perfformiad ynni adeiladau, i gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 2010 a rheoliad 7A o Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 yng Nghymru.

Rhaglen Alacrity

19 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddefnyddio’r gweddill yng Nghronfa Sbarduno’r Rhaglen Alacrity i fuddsoddi yn Streetwave.

Deuoli A465 Blaenau’r Cymoedd Dowlais i Hirwaun (Adrannau 5 a 6)

19 Mawrth 2024

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyhoeddi Amrywiad drafft i Orchymyn Ffyrdd Ochrol (rhif 4) i Ddeuoli adrannau 5 a 6 yr A465.

Sefydlu’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth

19 Mawrth 2024

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gamau i gefnogi sefydlu’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yng Nghymru, iddi ddod yn ffurfiol weithredol yn Ebrill 2024.

Grant Plant a Chymunedau

19 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu £5 miliwn yn ychwanegol i’r Grant Plant a Chymunedau a chynnig cynigion grant dangosol diwygiedig i Awdurdodau Lleol ar gyfer 2024 i 2025.

Diwygio system estynedig cyfrifoldeb y cynhyrchydd ar gyfer batrïau gwastraff

19 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Hinsawdd wedi cymeradwyo cynigion polisi ar gyfer diwygio’r system batrïau fel y’i disgrifir yn y cais am dystiolaeth ar gyfer y ddogfen ymgynghori ddrafft. 

Cyllid bysys

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i neilltuo £84,522,000 ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 tuag at gynnal gwasanaethau fforddiadwy a hygyrch ar draws Cymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2024 i 2025, sy’n dod i gyfanswm o £145,831,000.

Trawsnewid Trefi

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Gweinidog yr Economi, a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo bod Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy yn defnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel eu harian cyfatebol ar gyfer y prosiectau Trawsnewid Trefi canlynol: £27,000 o gyllid y Gronfa i gefnogi cynllun Goleuo Celf Tanffordd Taff Embankment ; £30,000 o gyllid y Gronfa i gefnogi prosiectau gwelliannu tanffordd Clare Street ; £60,000 o gyllid y gronfa i gefnogi prosiect Parc (Clare Gardens) Lower Cathedral Road, ac £128,560 o gyllid y Gronfa i gefnogi prosiect Pop-Up Monmouth.

Trawsnewid Trefi

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid grant Trawsnewid Trefi ar gyfer: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gefnogi’r gwaith o ailddatblygu ac adfer Llyfrgell Sgwâr y Frenhines er mwyn datblygu Canolfan Greadigol newydd; Cyngor Sir y Fflint i gefnogi’r gwaith o ailddatblygu Eglwys Rivertown yn Shotton a’i droi’n Ganolfan Gymunedol; Cyngor Sir Penfro i gefnogi’r gwaith o greu canolfan ymwelwyr, llyfrgell a chaffi newydd yn Rhes y Castell (Castle Terrace), Penfro; Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi’r gwaith o ailddatblygu adeilad y YMCA gynt yn Stepney Street, Llanelli; a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Marchnad newydd Park Lane (Ffos), Caerffili.

Cyfoeth Naturiol Cymru

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i bennu cyllideb flynyddol (£33,080,000 ar gyfer 2024 i 2025) ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i reoli ei weithrediadau sy’n gysylltiedig â choedwigoedd ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru.

Cyllid i Ysgolion Arbennig

18 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i neilltuo cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ysgolion arbennig i helpu i leddfu effeithiau COVID-19, yn enwedig yng ngoleuni cynnydd sydyn mewn absenoldebau staff.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

18 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniadau cyllidebau Anghenion Dysgu Ychwanegol, lleoliadau arbenigol ôl-16 Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac ysgolion annibynnol yn 2024 i 2025.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

18 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo hyd at £3.475m yn 2023 i 2024 ar gyfer Prosiect Ysgol Gynradd St Andrew’s Cyngor Dinas Casnewydd.

Addysg mewn Lleoliadau Gofal Iechyd

18 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a wneir yn adroddiad Comisiynydd Plant Cymru ar addysg mewn lleoliadau gofal iechyd.

Cyllid Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ddyraniadau terfynol cyllid cyfalaf a refeniw Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2024 i 2025, ac i anfon llythyron cynnig grant i sefydliadau trydydd sector ac awdurdodau lleol; yn ogystal â swm bach o gyllid cyfalaf gor-raglennu o £161k.

Rheoli pysgodfeydd

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ymestyn Trefniadau Adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru ar y cyd â Chanolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu hyd at 1 Ebrill 2027 er mwyn cefnogi’r gwaith  sy’n ymwneud â’r môr a physgodfeydd.

Dyrannu grantiau’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i neilltuo £70m ar gyfer Blwyddyn 3 y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2024 i 2025, i’w ddefnyddio ar y cyd â phartneriaid presennol o blith Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac Awdurdodau Lleol.

Taith - Y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu

18 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i neilltuo £6.5m ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025 i gefnogi’r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu (Taith).

Cyllid Dysgu i Droseddwyr

18 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid i ddarparu addysg, hyfforddiant a llyfrgelloedd yng ngharchardai Cymru ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2023 i 2025.

Dyraniadau cyllid cyfalaf penodol ar gyfer mynediad at Dir a Chefn Gwlad

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid ar gyfer ymrwymiadau a phrosiectau parhaus i gefnogi Tirweddi Cenedlaethol a Mynediad at Leoedd Gwyrdd Parciau Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2024 i 2025.

Cyllideb Profi Polisi Cyflogadwyedd a Sgiliau

18 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i gefnogi gweithgarwch sy’n gysylltiedig â’r gyllideb polisi a phrofi o fewn Cyflogadwyedd a Sgiliau ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Dyraniad cyllid pellach ar gyfer Trafnidiaeth Cymru 2023 i 2024

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid refeniw ychwanegol o £118.8m ar gyfer gwasanaethau rheilffordd ac £144.625m ar gyfer cyfalaf rheilffordd, yn ychwanegol at y £308.466m i ganiatáu ar gyfer newid mewn gofynion cyfrifyddu mewn perthynas â cherbydau rheilffordd newydd.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

18 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Y Gronfa Tai â Gofal – cynigion prosiectau

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo £3,674,673 o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer 12 o gynlluniau ar draws 6 rhanbarth, ynghyd â £269,854 o gostau adnoddau cyfalaf ar gyfer dau Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  

Ardrethi Annomestig a Phorthladdoedd Rhydd – Canllawiau Rhyddhad Ardrethi a Chadw yn ôl

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi dogfennau canllaw ar gyfer polisi ardrethi annomestig i Borthladdoedd Rhydd.

Ariannu Galluoedd Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru

18 Mawrth 2024

Mae’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i dalu cyllid grant hyd at £2m o gyllid refeniw ac £1.25m o gyllid cyfalaf i’r tri Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer cynnal a datblygu galluoedd Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru yn 2024 i 2025.

Gosod cyfraddau ardoll Cig Coch Cymru

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyfraddau ardoll Cig Coch Cymru ar gyfer 2024 i 2025.

Cyllid ar gyfer rhagolygon treth

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i drosglwyddo cyllid i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (drwy Drysorlys EF) ar gyfer cynhyrchu a chyhoeddi rhagolygon treth annibynnol yn 2024 i 2025 i gyd-fynd â Chyllideb Llywodraeth Cymru.

Cyfnewidfa Fws Caerdydd – costau gosod ffitiadau

18 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi £1m ychwanegol o gyllid grant cyfalaf i Drafnidiaeth Cymru i’w alluogi i gwblhau’r gwaith terfynol o osod ffitiadau yng Nghyfnewidfa Fws Caerdydd o fewn y flwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro - ail-flaenoriaethu cyllid cyfalaf

14 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ail-flaenoriaethu hyd at £35m o gyllid cyfalaf o gyllidebau tai ac adfywio i gefnogi’r gwaith o weithredu rhagor o brosiectau drwy’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, er mwyn helpu i leihau pwysau ar lety dros dro.

Aelodaeth o Raglen Cyswllt Diwydiannol Sefydliad Technoleg Massachusetts

14 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i adnewyddu aelodaeth Llywodraeth Cymru o Raglen Cyswllt Diwydiannol Sefydliad Technoleg Massachusetts ac i dalu’r costau cysylltiedig ar gyfer y cyfnod 2024 i 2027.

Ymgynghoriad ar Ardaloedd Adnoddau Strategol posibl ar gyfer cynllunio morol

14 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gynnwys ymgynghoriad ar Ardaloedd Adnoddau Strategol posibl ar gyfer Ynni Ffrwd Lanw, ac i gyhoeddi’r ymgynghoriad hwnnw.

Masnacheiddio Ffeibr Rheilffordd

14 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi dyfarniad cyllid Cyfalaf Trafodiadau Ariannol i Ffeibr Trafnidiaeth Cymru i alluogi masnacheiddio’r capasiti ffeibr telathrebu dros ben ar Linellau Craidd y Cymoedd.

Ailbenodi aelodau i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg

14 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ailbenodi Rona Aldrich, Gwyn Williams ac Elin Maher i Banel Gynghori Comisiynydd y Gymraeg am gyfnod pellach o 3 blynedd o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

Cysylltiadau Strategol Busnes yn y Gymuned – 2024 i 2025

14 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i barhau â’r cysylltiadau strategol â Busnes yn y Gymuned, gan gymeradwyo gwariant i alluogi Busnes yn y Gymuned i hyrwyddo ac annog arferion busnes cyfrifol.

Cronfa Paratoi at y Dyfodol

14 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar weithredu’r Gronfa Paratoi at y Dyfodol werth £20 miliwn a’r dull gweithredu pwrpasol ar gyfer monitro ar ôl cwblhau ac ariannu.

Marchnata Busnes Cymru

14 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cais am gyllid yn 2024 i 2025 ar gyfer cefnogi gweithgarwch marchnata, gan gynnwys costau sy’n gysylltiedig ag asiantaeth i hyrwyddo gwasanaethau Busnes Cymru a chefnogi busnesau sy’n dechrau, entrepreneuriaid a Busnesau Bach a Chanolig, a micro fusnesau.

Rhaglen Gyflawni Unnos

14 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i neilltuo £246,000 ar gyfer helpu i ddarparu tai cymdeithasol a fforddiadwy drwy ddarparu dyluniadau ychwanegol, Cynllun cyfathrebu, ac ymwybyddiaeth o’r costau a’r hyfforddiant sy’n gysylltiedig â darparu dyluniadau llyfrau patrwm.

Rhaglen Gyflawni Unnos

14 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu £222,000 ar gyfer hwyluso cymryd camau ychwanegol mewn perthynas â chartrefi gwag.  

Dyraniadau cyllideb ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol

14 Mawrth 2024

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar ddyraniadau’r gyllideb ar gyfer yr Is-adran Cysylltiadau Rhyngwladol ar gyfer 2024 i 2025.

Llyfr Le Petit Prince

14 Mawrth 2024

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i’r prosiect ar gyfer darparu copïau Ffrangeg-Cymraeg o’r stori plant o Ffrainc, Le Petit Prince, i bob ysgol yng Nghymru.

Gwerthusiad o'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a Safon Tai Ansawdd Cymru 2023

13 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gomisiwn allanol i werthuso'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a Safon Tai Ansawdd Cymru 2023.

Adolygiad Allanol o Bolisi Trethi

13 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymarfer caffael byr i gynnal adolygiad allanol o ymagwedd Llywodraeth Cymru at ddatblygu polisi trethi.

Ymgyrch Farchnata Recriwtio i Addysg Gychwynnol i Athrawon 2024 i 2025

13 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ymgyrch farchnata Addysgu Cymru.

Cyd-fenter Morlan Elli

13 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddod â'r Cyd-Fenter i ben yn ffurfiol ym Morlan Elli.

Tiwna Asgell Las Dwyrain yr Iwerydd

13 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar ddull o reoli Tiwna Asgell Las Dwyrain yr Iwerydd yn nyfroedd Cymru yn ystod 2024.

Llwybr adeiladau preswyl ar gyfer Cyllideb Garbon 3

13 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar £70,000 o gyllid i gaffael capasiti dadansoddol i fodelu'r llwybr adeiladu preswyl ar gyfer cyllideb garbon 3.

Argymhellion a chydsyniad Dosbarthu a Labelu Gorfodol (MCL) Prydain Fawr

13 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i roi cydsyniad i i argymhellion a wnaed gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, gan weithredu yn eu rôl fel Asiantaeth Prydain Fawr, i ddiwygio rhestr Dosbarthu a Labelu Gorfodol Prydain Fawr ar gyfer 25 o sylweddau ac mae'n rhoi cydsyniad i'r dyddiad arfaethedig ar gyfer gorfod cydymffurfio â’r gofynion MCL GB newydd neu ddiwygiedig.

Helpu i hyrwyddo Cymru

12 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid i helpu i hyrwyddo Cymru yn lleoliad ar gyfer mewnfuddsoddi.

Caniatâd cynllunio

12 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn ddarostyngedig i amodau, yn ymwneud â Datblygiad Arwyddocâd Cenedlaethol ar gyfer datblygiad arfaethedig i greu fferm wynt o hyd at 8 tyrbin a seilwaith cysylltiedig ar dir i'r gorllewin o Abertyleri, Blaenau Gwent.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Amrywiadau mis Chwefror

12 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi mewn Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ym mis Chwefror mewn perthynas â cheisiadau amrywio ar gyfer y prosiect ysgol gynradd Ebwy Fawr ym Mlaenau Gwent a'r prosiect bloc addysgu newydd yng Ngholeg Catholig Dewi Sant, yn ogystal â dau brosiect wedi’u hariannu o dan y grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg ar gyfer y ddarpariaeth drochi newydd yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam a phrosiect Cwm Derwen yng Nghaerffili.

Darparu Cyllid Ecwiti

12 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ecwiti, i’w ryddhau mewn dau randaliad mewn perthynas â phrosiect rheilffordd yn ne Cymru.

Grant Rhwydwaith Bysiau

12 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid gwerth £39 miliwn drwy’r Grant Rhwydwaith Bysiau ar gyfer 2024 i 2025 er mwyn i awdurdodau lleol gyllido a sicrhau gwasanaethau bysiau ledled Cymru na fydd modd eu gweithredu’n fasnachol pan ddaw'r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau i ben ar 31 Mawrth 2024.

Addysg drydyddol

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Rhaglen Weithredu y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Penodi Ymddiriedolwyr i Amgueddfa Cymru

11 Mawrth 2024

Mae’r Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi penodi David Jones a Jan Williams yn Ymddiriedolwyr i Amgueddfa Cymru am 4 blynedd rhwng 9 Chwefror 2024 a 8 Chwefror 2028.

Eithriadau bwrdd iechyd

11 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar eithriadau i'r gofyniad i fyrddau iechyd weithredu argymhellion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru o fewn deufis o dan amgylchiadau penodol.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar y cyllid refeniw ychwanegol ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llythyr cylch gwaith CCAUC

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ychwanegol yn rhan o lythyr cylch gwaith diwygiedig CCAUC ar gyfer 2023 i 2024.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ym mis Chwefror ynghylch achosion busnes cyllid cyfalaf ar gyfer adeilad ysgol wirfoddol a gynorthwyir newydd (Ysgol Ein Harglwyddes) ac adnewyddu ysgol gynradd gymunedol (Ysgol Hirael) yng Ngwynedd; ysgolion Court Special Schools newydd yng Nghaerdydd, ac i fwrw ymlaen ag achosion buddsoddi ar gyfer dwy ysgol gynradd yng Nghaerffili a buddsoddi yng nghampws Llandrillo yn Rhos yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Cronfa Tai â Gofal

11 Mawrth 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Newid Hinsawdd £20,501,349 o gyllid gan y Gronfa Tai â Gofal ar gyfer deunaw cynllun mewn saith rhanbarth.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Recriwtio Aelodau Bwrdd i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

11 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor mewn perthynas â recriwtio Cadeirydd a chyfarwyddwr anweithredol sy'n siarad Cymraeg i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Cyllid ar gyfer hybiau HiVE ychwanegol yng Nghymoedd y Gogledd

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i brynu offer ar gyfer hybiau HiVE ychwanegol mewn ysgolion uwchradd yng Nghymoedd y Gogledd.

Adolygiad o ryddhad ardrethi annomestig - caffael

11 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ymarfer caffael i gynnal adolygiad o ryddhad ardrethi annomestig.

Ymgyrch Masnach a Buddsoddi/Allforio, Croeso Cymru a Cymru Wales

11 Mawrth 2024
 
Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid i weithredu ymgyrchoedd, gan gynnwys prynu cyfryngau ar gyfer marchnata brand Cymru Wales.

Gwariant arfaethedig cyllideb y Polisi Gyrfaoedd

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y gweithgareddau arfaethedig a fydd yn arwain at wario £100,000 o gyllideb y Polisi Gyrfaoedd ar gyfer 2024 i 2025.

Gwaith pellach ar ddatblygu arweinyddiaeth yng Nghymru

11 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i Academi Cymru ymgymryd â gwaith cyfyngedig a phenodol pellach ar weithgareddau a strwythurau datblygu arweinyddiaeth yn dilyn casgliadau diweddar yr arfarniad opsiynau yn ymwneud â'r Ysgol Lywodraethu Genedlaethol yng Nghymru.

Dyraniad cyllid Gyrfa Cymru/ Cymru'n Gweithio

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyfanswm dyraniad cyllideb adnoddau o £22.935 miliwn i CCDG Ltd ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2024 i 2025. Cytunodd y Gweinidog hwn hefyd ar ddyraniad cyllideb o £9.28 miliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth Cymru'n Gweithio.

Dyraniad Cyllid Twf Swyddi Cymru + 2023 i 2024

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddefnyddio tanwariant o £2.5 miliwn o gyllid yr UE o dan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer Rhaglen Twf Swyddi Cymru +.

Contract Cyflenwi Busnes Cymru

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru i'w gyflenwi o 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2025.

Awdurdod i ymgynghori ar newid rheolau ar gyfer rhai mathau o wenith hybrid

11 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr i fesur lefel y diddordeb mewn newid rheolau statudol ar gyfer rhai mathau o wenith hybrid. Yn amodol ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, cytunodd y Gweinidog hefyd i ddrafftio deddfwriaeth a fyddai'n eithrio personau awdurdodedig rhag cydymffurfio â gofynion penodol yn Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Rheoliadau) 2012.

Dyrannu cyllid i gefnogi datblygiad athrawon

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddyrannu cyllid i gefnogi datblygiad athrawon ar gyfer 2024 i 2025.

Cyfranogiad Cymru yn Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024 a gwariant ehangach ar wybodaeth am y Farchnad Lafur 2024 i 2025

11 Mawrth 2024

Cytunodd Gweinidog yr Economi y dylai Cymru gadarnhau ei bod yn cymryd rhan yn Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024 ar gost o hyd at £300,000 yn 2024 i 2025 ac y bydd gweddill cyllid Gwybodaeth am y Farchnad Lafur ar gyfer 2024 i 2025, sef £35,000 yn cael ei ddefnyddio i gael mynediad at ddata swyddi gwag ac ariannu dadansoddiad thematig pellach o bolisïau perthnasol o'r ymchwil sydd eisoes wedi derbyn buddsoddiad.

Newidiadau i gyngor dietegol ar fwydo plant ifanc

11 Mawrth 2024

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar y newidiadau i'r cyngor dietegol ar fwydo plant ifanc rhwng 1 a 5 oed.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cyllid diwygiedig y Warant i Bobl Ifanc

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r cyllid diwygiedig ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc yn 2024 i 2025.

Trawsnewid Trefi - Canolfan Hamdden Heol Dyfed, Castell-nedd a Stryd Pentrebane, Caerffili

11 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid grant i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i gynorthwyo i ddymchwel yr hen ganolfan hamdden ar Heol Dyfed, Castell-nedd, er mwyn caniatáu i waith ailddatblygu fynd yn ei flaen. Cymeradwywyd cyllid grant hefyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili tuag at ailddatblygu Stryd Pentrebane, Caerffili.

Cyllid Cymdeithas Pysgotwr Cymru

11 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i barhau i gyllido Cymdeithas Pysgotwr Cymru ar gyfer 2024 i 2025 am gost is o £130,896.

Dyraniad Craidd Addysg a Gwella Iechyd Cymru

11 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Ddyraniad Craidd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn 2024 i 2025.

Dyletswydd Rheoli Tir yn Gynaliadwy – Cynlluniau Gwledig

11 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno ar barhad Cynlluniau Buddsoddiad Gwledig sy'n cyfrannu orau at gyflawni'r amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel y'u diffinnir gan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Diwygiad i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi diwygiedig sy’n cytuno ar ddarpariaeth addysg, hyfforddiant a gwasanaethau llyfrgelloedd o fewn yr ystâd carchardai yng Nghymru.

Ailbenodi cadeirydd ac aelodau i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ailbenodi Sharron Lusher yn Gadeirydd a Steve Wilks, Simon Brown a John Greystone yn aelodau o Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru am dymor o 5 mlynedd.

Penodi aelodau i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i benodi Annmarie Thomas, Saleha Wadee a Gareth Morgans yn aelodau o Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru am dymor o 5 mlynedd.

Amrywiadau i hen Raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Cyngor Torfaen

11 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cais Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i ddefnyddio cyllid wedi’i ailgylchu i ymestyn Cronfa Buddsoddi Pont-y-pŵl a safle y British o ddwy flynedd i 31 Mawrth 2026, ac i roi £154,886 o hen brosiectau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid eraill i Gronfa Buddsoddi Pont-y-pŵl.

Cyllid ar gyfer Trechu Tlodi a’r Argyfwng Costau Byw

6 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ddyraniadau sy’n gyfanswm o £1.38 miliwn yn 2023 i 2024 a £4.444 miliwn yn 2024 i 2025 er mwyn cefnogi gweithgareddau sy’n ymwneud â’r argyfwng costau byw, tlodi a’r Strategaeth Tlodi Plant.

Bwndeli Babi

6 Mawrth 2024

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddatblygu a chyflwyno Rhaglen Bwndeli Babi mewn ardaloedd sydd wedi’u targedu.

Ymestyn cyfnod Aseswr Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro i Gymru

6 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymestyn cyfnod Dr Nerys Llewelyn Jones fel Aseswr Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro i Gymru tan 28 Chwefror 2025.

Gwerthuso cynllun y Pencampwyr Cyrhaeddiad a’r camau nesaf

6 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ymestyn cynllun peilot y Pencampwyr Cyrhaeddiad am 12 mis arall, gan ddechrau o fis Medi 2024. Mae hyn yn gyfraniad ariannol o £172,916 a gafwyd yn 2024 i 2025 ac £82,084 yn 2025 i 2026.

Cyfrifon Dysgu Personol - Ymyrraeth wedi'i Thargedu ar gyfer gweithwyr Tata

6 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar Gyfrif Dysgu Personol newydd gwerth £2 filiwn sy’n ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer unigolion a gyflogir yn Tata a'r gadwyn gyflenwi ehangach yr effeithir arni am weddill blwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Newidiadau i Raglen ReAct+

6 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo'r rhaglen ReAct+ ddiwygiedig sy'n weithredol o 1 Ebrill 2024.

Gofod ar gyfer lled-ddargludyddion - caffael adeiladau a gwaith cychwynnol

6 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer caffael adeilad a gwaith cychwynnol i ddarparu llety arbenigol i'r sector lled-ddargludyddion.

Cymorth Tanwydd y Gaeaf i Sipsiwn, Roma a Theithwyr

6 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu £290,000 er mwyn cyflwyno cymorth tanwydd y gaeaf i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 23 Ionawr 2024

5 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Gaerfyrddin.

Cyfle i ddefnyddio Offer Profi Mannau Gofal Covid-19 at ddibenion gwahanol

5 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar yr argymhelliad i ddefnyddio offer profi mannau gofal Covid-19 at ddibenion gwahanol, er mwyn caniatáu iddo gael ei ddefnyddio mewn lleoliadau eraill i brofi am salwch a chyflyrau anadlol eraill, fel diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd.

Cymorth ariannol Airbus Endeavr Wales

5 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo £400,000 i ariannu gweithgareddau Endeavr 2024.

Sioe Awyr Farnborough 2024 - Pafiliwn Cymru

5 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid i gynnal stondin pafiliwn Cymru yn Sioe Awyr Farnborough 2024.

Llythyr Cyllid Diwydiant Cymru

5 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi Llythyr Cyllid 2024 i 2025 i Diwydiant Cymru.

Safleoedd newydd y Goedwig Genedlaethol, Ionawr 2024

5 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar 7 safle coetir arall nad ydynt yn eiddo i Lywodraeth Cymru i ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Cyllid Disgyblion o Gefndir Ethnig Leiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr

5 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r cyllid blynyddol Disgyblion o Gefndir Ethnig Leiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr 2024 i 2025 ar gyfer awdurdodau lleol.

Grant cyfalaf ar gyfer cyweirio adeiladau preswyl canolig ac uchel

5 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu £356,100 ym mlwyddyn ariannol 2023 i 2024 ar gyfer dau brosiect cyweirio diogelwch tân mewn adeiladu preswyl canolig ac uchel yn y sector cymdeithasol.

Penodi Cadeirydd i’r Panel Cynghori ar Aer Glân

5 Mawrth 2024

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi penodi'r Athro Paul Lewis am ddwy flynedd rhwng 26 Chwefror 2024 a 24 Mawrth 2026.

Safonau ar gyfer Sicrhau Cymhwysedd Rhagnodwyr Anfeddygol yng Nghymru

5 Mawrth 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyngor mewn perthynas â'r Safonau ar gyfer Sicrhau Cymhwysedd Rhagnodwyr Anfeddygol yng Nghymru.

Cyllideb Ymchwil Addysg

5 Mawrth 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar ddyraniadau gwerth cyfanswm o £0.706 miliwn yn 2024 i 2025 i barhau i ariannu mentrau i wreiddio'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol.

Cynhadledd Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr 2024

5 Mawrth 2024

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i noddi cynhadledd Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr 2024 hyd at £7,000.

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid am y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd wedi cytuno i gomisiynu Seafish i ymgysylltu â rhanddeiliaid cyn drafftio Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid, gwerth £10,400.

Gwariant arfaethedig ar ddysgu proffesiynol 2024 i 2025

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cytuno ar ddyraniadau gwerth £4.708 miliwn yn 2024 i 2025 i gefnogi gweithgareddau dysgu proffesiynol ar gyfer ymgymerwyr.

Cyllid ar gyfer y rhaglen cynhwysiant ac iechyd digidol sydd wedi’i chaffael gan Cymunedau Digidol Cymru

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cytuno i gynyddu cyllid Cyfiawnder Cymdeithasol ym Mlwyddyn Ariannol 2024 i 2025 er mwyn i Cymunedau Digidol Cymru allu cynnal y contract yn unol â’i werth blynyddol gwreiddiol o £2miliwn.

Setliad Refeniw a Chyfalaf Terfynol i Lywodraeth Leol

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar setliad terfynol 2024-2025 i Lywodraeth Leol.

Y Setliad Terfynol i’r Heddlu

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar setliad terfynol 2024-2025 i’r Heddlu.

Caffael y rhaglen ‘Hyrwyddo Teithio Llesol mewn Ysgolion’ nesaf

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo caffael contract ar gyfer darparu’r rhaglen Hyrwyddo Teithio Llesol mewn Ysgolion, i ddechrau ar 1 Ebrill 2024.

Dyfarniad cyflog i Swyddogion Gweithredol ac Uwch Swyddogion

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor ar ddyfarnu cyflog i staff sy’n Swyddogion Gweithredol ac Uwch Swyddogion ar gyfer 2023 i 2024.

Benthyciadau Datblygu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo Cynllun Benthyciadau i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i d darparu rhagor o gartrefi carbon isel i’w rhentu yn y sector cymdeithasol.

Rhaglen Addysg Ryngwladol

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cymeradwy dyraniadau gwerth £0.524 miliwn yn 2024 i 2025 i gefnogi’r Rhaglen Addysg Ryngwladol.

Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol

4 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar ymateb i adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol – Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024 i 2025.

Atal a Chymorth ar gyfer Digartrefedd – Dyraniadau Terfynol

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid terfynol Atal a Chymorth ar gyfer Digartrefedd 2024 i 2025.

Cyllid ar gyfer Rhaglen Rheolaethau’r Ffin 2023 i 2024 a 2024 i 2025

4 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo parhau â’r Rhaglen Ffiniau ac adeiladu Safle Rheolaethau’r Ffin yng Nghaergybi yn ogystal â pharhau i ystyried yr opsiynau yn Sir Benfro tra’n bwrw ymlaen â’r Achos Busnes Llawn a’r gwaith datblygu cychwynnol.

Cyllido Rheolwr Ymgysylltu â’r Diwydiant Seafish

4 Mawrth 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd wedi cytuno i gyfrannu £20,000 at rôl Rheolwr Ymgysylltu â’r Diwydiant Seafish yng Nghymru ym mlwyddyn ariannol 2023 i 2024 a blwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Digidol Busnes Cymru – 2024 i 2025

4 Mawrth 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo £2,750,000 (gan gynnwys TAW) i’w wario ar gyfer datblygu a darparu systemau cymorth a gwybodaeth ddigidol a busnes yn y dyfodol. 

Cyllid Cyswllt Amgylchedd Cymru

29 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Cyswllt Amgylchedd Cymru i ymgymryd â rhaglen o ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio'r gwaith o ddatblygu targedau bioamrywiaeth yng Nghymru o hyd at £20,000 ar gyfer 2023 i 2024 a hyd at £80,000 ar gyfer 2024 i 2025.

Cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Awdurdod Refeniw Cymru

29 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi gwariant cyfalaf ychwanegol hyd at £80,000 i Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol gyfredol 2023-2024 i brynu offer TG newydd hanfodol.

Adroddiadau Cynnydd Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru

29 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi adroddiadau cynnydd ar gyfer Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru.

Cyllid ar gyfer gŵyl gofalwyr ifanc 2024 a chyfarfod wyneb yn wyneb y Grŵp Cynghori Gweinidogol

29 Chwefror 2024

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gŵyl gofalwyr ifanc 2024 a chyfarfod wyneb yn wyneb y Grŵp Cynghori Gweinidogol.

Y Grant Datblygu Disgyblion a’r Grant Hanfodion Ysgol

29 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i'r dyraniadau cyllid arfaethedig ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion a'r Grant Hanfodion Ysgolion yn 2024 i 2025.

Penodiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

29 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Clare Budden, Christopher Field, Karen Balmer a Rhian Jones yn Aelodau Annibynnol am 4 blynedd rhwng 01/03/2024 a 29/02/2028.

Y Cynllun Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru - Cyllid ar gyfer Cyngor Ariannol

29 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ar gyfer darparu cyngor ariannol i bobl ifanc sy'n cymryd rhan Ym mheilot y Cynllun Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Graddau Meistr mewn Addysg

28 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y Graddau Meistr Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn 2024 hyd 2025.

Dylunio a phrisio 3 phrif bibell ddŵr newydd ym Mro Tathan

28 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo penodi ymgynghorwyr i gynghori ynghylch gwaith seilwaith ym Mro Tathan.

Gwahanu Gwasanaethau rhwng tir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru a thir sy’n eiddo i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mro Tathan

28 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo penodi ymgynghorwyr ym Mro Tathan.

Penodiadau ac ail benodiadau Bwrdd Seafish

27 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i ail benodi Jeff Halliwell, David Brooks, Graham Black, Heather Jones a Nathan de Rozarieux, ac i ymgyrchu er mwyn hysbysebu ar gyfer dau gynrychiolydd diwydiant arall i eistedd ar Fwrdd Seafish.

Parhad gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl

27 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cytuno i gefnogi costau gweithredol y Tasglu Hawliau Pobl Anabl tan fis Mai 2025.

Caffael ymchwil ar gyfer strategaeth deg mlynedd Iechyd a Lles Anifeiliaid

27 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i wario hyd at £50,000 i gaffael contractwr i gynnal ymchwil ar Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid newydd i Gymru.

Isafswm Lwfans Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth

27 Chwefror 2024

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cyfraddau ar gyfer Isafswm Lwfans Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth ar gyfer 2024 – 2025.

Dyletswydd i adrodd am droseddau sy’n ymwneud â thrawsblannu o dan y Ddeddf Meinweoedd Dynol

27 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau o dan y pwerau a roddir gan Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 sy’n ymwneud ag adrodd am amau troseddau o dan ddeddfwriaeth meinweoedd dynol a chaethwasiaeth fodern.

Cyllid a Gwasanaethau TGCh Tîm Datrysiadau Digidol SHELL

27 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid o £1.242 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 – 2025 er mwyn cefnogi costau blynyddol Gwasanaethau TGCH, gan gynnwys staff rhaglen ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau.

Papur Tystiolaeth Ysgrifenedig

27 Chwefror 2024

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i Bapur Tystiolaeth Ysgrifenedig – Effeithiau Ymadael â’r UE ar y Sector Diwylliannol. 

Llythyrau Cylch Gwaith a Chyllid ar gyfer Cwmni Egino

26 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid trosiannol ac addasiadau i Fwrdd Cwmni Egino a’i dîm Gweithredol i sicrhau parhad y prosiect a gwybodaeth gorfforaethol.

Cyllid ar gyfer Rhaglenni Cymorth Gwyddoniaeth a Mathemateg i Ysgolion

26 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyngor yn ymwneud â chyllid o £852,798 ar gyfer rhaglenni cymorth gwyddoniaeth a mathemateg i ysgolion yn ystod blwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 16 Ionawr 2024

26 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi Cyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghasnewydd, ar draws De Cymru.

Dyfarniad Cyllid Craidd Iechyd a Gofal Digidol Cymru

22 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Ddyraniad Craidd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer 2024 i 2025 ac ar Gyllideb Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg Gofal Sylfaenol.

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – 2il Gyllideb Atodol

22 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Ail Gyllideb Atodol y Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2023 i 2024.

Cais i raglen Peace Plus

22 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gyflwyno cais gan Lywodraeth Cymru i raglen drawsffiniol Peace Plus yr UE.

Cais i'r Cyfrin Gyngor gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd

22 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i argymell bod cais i'r Cyfrin Gyngor gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i ddiwygio ei Hofferynnau a'i Herthyglau Llywodraethu yn cael ei gymeradwyo.

Adroddiad Thematig Estyn ar Bresenoldeb

22 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar yr ymateb i'r argymhellion yn adroddiad Estyn ar wella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd.

Cynllun Tir ar gyfer Tai - Rownd 2

22 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Prif Weinidog wedi cytuno ar y ceisiadau am fenthyciadau o dan Gynllun Tir ar gyfer Tai 2023 i 2024.

Tir ar gyfer Tai 2023 i 2024

22 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Prif Weinidog wedi cytuno i ddyfarnu benthyciadau i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o dan Gynllun Tir ar gyfer Tai 2023 i 2024.

Cau Pàs COVID digidol y GIG

21 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor mewn perthynas â chau Gwasanaeth Pàs COVID y GIG.

Penodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

21 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor mewn perthynas â phenodi Susan Lloyd-Selby yn Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Penodi Aelod Annibynnol (Cymunedol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

21 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Rachel Rowlands yn Aelod Annibynnol (Cymunedol) i Fwrdd iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Bydd ei phenodiad yn dechrau ar 01/04/2024.

Sicrwydd o ran paratoi meddyginiaethau yn aseptig yn GIG Cymru

21 Chwefror 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyngor mewn perthynas â sicrwydd ar gyfer paratoi meddyginiaethau yn aseptig yn GIG Cymru.

Grant Menter Cyllid Preifat

20 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i dalu rhandaliad 2024 i 2025 o grant refeniw blynyddol i helpu gyda phwysau’r gost o redeg cyfleusterau ar gyfer Prosiectau Menter Cyllid Preifat sy’n bodoli eisoes ar gyfer Comisiynwyr  Heddlu a Throseddu ac un Awdurdod Tân.

Cyfarfod o’r Panel Buddsoddi a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024

20 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerffili.

Penodi Cadeirydd y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

20 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i ymestyn tymor Mr Nicholas Saphir fel Cadeirydd y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth am 12 mis.

Digwyddiad MIPIM 2024

20 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyfraniad i fod yn bartner â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chyngor Dinas Caerdydd yn MIPIM 2024.

Cynlluniau Gweithredol Cyrff Hyd Braich ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon

15 Chwefror 2024

Mae’r Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Gynlluniau Gweithredol Cyrff Hyd Braich ar gyfer Diwylliant 2023 i 2024.

Cyllid Gwaddoli Llenwi Bwlch

15 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y cyllid gwaddoli llenwi bwlch ar gyfer y ddeg Trosglwyddiad Gwirfoddol ar Raddfa Fawr Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig 2025 i 2026.

Cynghrair Technoleg Tarfol a Newydd (Disruptive and Emerging Technology Alliance)

15 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno bod Llywodraeth Cymru yn ymuno â’r Gynghrair Technoleg Tarfol a Newydd.

Diweddariad a chymeradwyo prosiectau y Rhaglen Cyllid Cyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso

15 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar Gyllid Cyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso i gefnogi tri phrosiect hyd at gyfanswm cost o £1,764,424.

Ail-benodiadau i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

15 Chwefror 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyngor mewn perthynas ag ymestyn penodiad y Cadeirydd, Dr Chris Martin, a chyfarwyddwr anweithredol, Rupert Jones, i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Ailbenodiadau i Fwrdd Dewis Gyrfa

14 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo ailbenodi 2 Aelod o'r Bwrdd Helen White a David Matthews, i Fwrdd Dewis Gyrfa (Gyrfa Cymru).

Cynnig Cyflog Prif Weithredwyr Cyfoeth Naturiol Cymru

14 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cais am gylch gwaith cyflog Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â chynnig cyflog eu Prif Weithredwr ar gyfer 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024.

Cyfraddau Ardoll Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

14 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar Gyfraddau Ardoll y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar gyfer 2024 i 2025.

Lesio tir yng Nghasnewydd

14 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i'r les newydd, ynghyd ag amrywiadau ar les a chytundeb opsiwn o eiddo yng Nghasnewydd a gwariant ffioedd cyfreithiol cysylltiedig.

Gwobrau Grant Polisi Tai 2024 i 2025

14 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddyfarniadau cyllid grant dangosol ar gyfer TPAS Cymru, Tai Pawb, Sefydliad Siartredig Tai Cymru, LEASE a Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd ar gyfer 2024 i 2025.

Dosbarthiad Carcas – Ymgynghoriad wedi'i Dargedu

14 Chwefror 2024

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i ymgynghoriad ar y cyd, wedi'i dargedu â Defra ar ddosbarthu carcas defaid ac adrodd am brisiau, ac awdurdodi dulliau graddio awtomataidd ar gyfer dosbarthu carcasau defaid a chig eidion.

Cyllido Iechyd Meddwl

14 Chwefror 2024

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu cyllid iechyd meddwl ar gyfer 2024 i 2025.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol newydd

14 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gais i gofrestru Ysgol Uwchradd Foslemaidd Caerdydd.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol newydd

14 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gais i gofrestru Ysgol Tan y Gaer.

Rhannu gwybodaeth Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynnyrch Gofal Iechyd

14 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor o ran rhannu gwybodaeth Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynnyrch Gofal Iechyd â Llywodraeth Cymru.

Partneriaethau Lleol LLP

14 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo newidiadau i’r Cytundeb Aelodau a’r Fframwaith Llywodraethu.

Cau  3 canolfan gyrfaoedd

14 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno y gall Gyrfa Cymru fwrw ymlaen i werthu tri eiddo y mae Gyrfa Cymru yn berchen arnynt.

Trafnidiaeth Cymru

12 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno y gall Trafnidiaeth Cymru sefydlu is-gwmni i fasnacheiddio capasiti ffeibr telathrebu dros ben ar Reilffyrdd Cymoedd Caerdydd.

Cyrff Diwylliant a chwaraeon

12 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar y trefniadau a wnaed ar gyfer y taliad untro o £1500 i aelodau staff y pum corff hyd braich diwylliant a chwaraeon.

Cynlluniau Diswyddo Cyrff Hyd Braich

12 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cynlluniau Diswyddo Cyrff Hyd Braich yn 2023 hyd 2024.

Penodi Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

12 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i benodi’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol presennol, Bethan Owen, yn Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro o 10 Chwefror 2024 hyd nes y bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn dod i ben.

Cyfathrebu gyda ffermwyr

12 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cymeradwyo’r gwariant ar gyfer llunio a dosbarthu pedwar llyfryn gwybodaeth ar gyfer ffermwyr gydol 2024 ac yn ystod gwanwyn 2025. Caiff y rhain eu hanfon at bob ffermwr sy’n cyflwyno Ffurflen y Cais Sengl.

Ymgynghoriad ar y Cyd ar gyfer Dirymu Cyfraith a Gymathwyd ar Fwyd a Diod

12 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i gymryd rhan mewn ymarfer ymgynghori ar y cyd gyda Defra a Llywodraeth yr Alban er mwyn gwahodd sylwadau ynghylch dirymu a diwygio rhestr o gyfreithiau a gymathwyd ym maes bwyd a diod nad ydynt bellach mewn grym yn sgil Brexit a Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.

Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

12 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo prosiectau cyfalaf ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar. 

Perchnogaeth safonau proffesiynol

8 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw perchnogaeth o’r safonau proffesiynol ar gyfer y sectorau ysgolion ac ôl-16, er mwyn cynnal cysondeb a thegwch.

Trafodaethau ynghylch y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2023 hyd 2024

8 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r penderfyniad i ddirwyn i ben y Trafodaethau ynghylch y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2023 hyd 2024. 

Sefydliadau ôl-16 Arbennig Annibynnol

7 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi gwrthod cynnwys Sefydliadau ôl-16 Arbennig Annibynnol ar y rhestr wedi’i chyhoeddi o Sefydliadau ôl-16 Arbennig Annibynnol.

Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar – Cylch Meithrin Beddau – Cymeradwyo Cyllid

7 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiect cyfalaf gofal plant a’r blynyddoedd cynnar.

Deddf yr Economi Ddigidol: Adolygiad Tair Blynedd o’r Pwerau Twyll a Dyledion

7 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo gosod yr Adolygiad Statudol o Bwerau Dyledion a Thwyll Deddf yr Economi Ddigidol 2017 yn y Senedd.

Estyn penodiad Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

6 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i estyn penodiad Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Judith Hardisty, hyd 31 Mai 2024.

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

6 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid tuag at Raddau Meistr Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) ar gyfer 2024 hyd 2025.

Adolygiad o Ddaliadau Plwyf Sirol

6 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i gynnal adolygiad o’r polisi, y canllawiau a’r systemau ar gyfer Daliadau Plwyfi Sirol yng Nghymru.

Rhagair gan y Gweinidog i’w gynnwys mewn Deunyddiau Ategol am Addysg Ariannol

6 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo geiriad y rhagair gan y Gweinidog ar gyfer ‘Deunyddiau Ategol am Addysg Ariannol’ a fydd yn cael eu cyhoeddi a’u cyllido gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn nes ymlaen yn 2024.

Llythyrau cylch gwaith

6 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo llythyrau cylch gwaith ar gyfer Corff Adolygu Tâl y GIG a’r Corff Adolygu am Gydnabyddiaeth Ariannol Meddygon a Deintyddion i 2024 hyd 2025. 

Mân-ddaliadau awdurdodau lleol

5 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno’r Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddeiliaid Awdurdodau Lleol yng Nghymru 2022 i 2023.

Prosiectau digidol y GIG

5 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf diwedd y flwyddyn ar gyfer cynlluniau digidol o flaenoriaeth.

Prydau ysgol am ddim

5 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol o ran Gorchymyn Diddymu a oedd yn dileu budd-daliadau etifeddol fel hawl cymhwyso ar gyfer prydau ysgol am ddim. 

Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol i Gymru

5 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi derbyn argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae’r 33 o argymhellion sydd yn yr adroddiad, sef argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru, a’r Comisiwn Ymchwil ac Addysg Drydyddol, yn cwmpasu meysydd megis cymwysterau galwedigaethol ‘gwneud-i-Gymru’, llwybrau dysgwyr i addysg alwedigaethol, a’r seilwaith ehangach ar gyfer hyfforddiant ac addysg alwedigaethol.

Penodiad Aelod Annibynnol (Cymunedol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

5 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Penny Jones am gyfnod o 4 blynedd o 15 Ionawr 2024.

Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Cymru

5 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cytuno i ymestyn tymor swydd y Cadeirydd ac aelodau Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Cymru hyd at 31 Mawrth 2025.

Dyfarniad Contract Cronfa Ddata Arholiadau Cymru 2024

5 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gynnal ymarfer aildendro ar gyfer Contract Cronfa Ddata Arholiadau Cymru a’r costau cysylltiedig dros gyfnod o dair blynedd o 10 Mai 2024.

Ymestyn y contract fframwaith cymwysterau ar gyfer 2024 i 2025

1 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ymestyn y contract sy’n rhoi cyngor a chynrychiolaeth i gefnogi’r fframwaith cymwysterau’n barhaus a datblygu polisi a phrosesau yn ymwneud â chydnabod dysg blaenorol ar gyfer 2024 i 2025, a gwariant i gefnogi datblygiadau’r polisi.

Ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Reoliadau Doethach

1 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Adran Fusnes a Masnach Llywodraeth y DU ar Reoliadau Doethach: Cryfhau rheoliadau economaidd y sector ynni, dŵr a thelathrebu.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Hamdden a Lletygarwch – Canllawiau i Awdurdodau Lleol

1 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo canllawiau Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024 i 2025.

Cronfa Tai â Gofal

1 Chwefror 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Newid Hinsawdd £2,119,408 o gyllid o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer un ar ddeg o gynlluniau mewn pedwar rhanbarth.

Cronfa Tai â Gofal

1 Chwefror 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Newid Hinsawdd £3,511,229 o gyllid o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer wyth o gynlluniau mewn pedwar rhanbarth.

Ymestyn y contract fframwaith cymwysterau ar gyfer 2024 i 2025

1 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ymestyn y contract sy’n rhoi cyngor a chynrychiolaeth i gefnogi’r fframwaith cymwysterau’n barhaus a datblygu polisi a phrosesau yn ymwneud â chydnabod dysg blaenorol ar gyfer 2024 i 2025, a gwariant i gefnogi datblygiadau’r polisi.

Ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Reoliadau Doethach

1 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Adran Fusnes a Masnach Llywodraeth y DU ar Reoliadau Doethach: Cryfhau rheoliadau economaidd y sector ynni, dŵr a thelathrebu.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Hamdden a Lletygarwch – Canllawiau i Awdurdodau Lleol

1 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo canllawiau Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024 i 2025.

Cronfa Tai â Gofal

1 Chwefror 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Newid Hinsawdd £2,119,408 o gyllid o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer un ar ddeg o gynlluniau mewn pedwar rhanbarth.

Cronfa Tai â Gofal

1 Chwefror 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Newid Hinsawdd £3,511,229 o gyllid o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer wyth o gynlluniau mewn pedwar rhanbarth.

Penodi Aelodau Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

1 Chwefror 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Michael Grey a Jeremy Hockridge yn Aelodau Cyswllt o’r Bwrdd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Cynnal Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a threfniadau sicrhau ansawdd

1 Chwefror 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ymestyn y trefniant gyda Skills Development Scotland ar gyfer 2024 i 2025 i barhau i reoli a chydlynu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, a chyllid cysylltiedig.

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd – Gwerthusiad

1 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid i gynnal gwerthusiad annibynnol o'r polisi Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd – Adolygiad o’r Gyfradd Fesul Uned

1 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gynnydd yn y gyfradd fesul uned a roddir i awdurdodau lleol ar gyfer darparu Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.

Mesurau Amddiffyn Wrth Bontio y cynllun Prydau Ysgol am Ddim

1 Chwefror 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi penderfynu y bydd mesurau amddiffyn wrth bontio y cynllun prydau ysgol am ddim yn dod i ben fel y cynlluniwyd ar 31 Rhagfyr 2023 (neu ar ddiwedd cyfnod addysg y disgybl cymwys ar y dyddiad hwnnw os yn ddiweddarach).

Bil Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethu Amgylcheddol a Thargedau Bioamrywiaeth

31 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i'r Asesiad Effaith Integredig drafft a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd ag ymgynghoriad y Papur Gwyn ar gyfer y Bil arfaethedig ar Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethu Amgylcheddol a Thargedau Bioamrywiaeth.

Cysylltiad Bae Caerdydd

30 Ionawr 2024

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i drafod telerau Trefniant ar y Cyd gyda Chyngor Dinas Caerdydd mewn perthynas â nifer o safleoedd yng Nghaerdydd.

Rhyddhau Pridiannau Tir ar Gyffordd 33, Caerdydd

30 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ryddhau pridiant tir yng Nghaerdydd.

Trosglwyddo Tir yn Pengam Green, Caerdydd

30 Ionawr 2024

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i drafodaethau ar drosglwyddo tir yng Nghaerdydd.

Terfynu Cytundeb Menter ar y Cyd ar dir yng Ngwynllŵg

30 Ionawr 2024

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i drafodaethau sy'n mynd rhagddynt am ddyfodol cytundeb menter ar y cyd ar dir yng Nghaerdydd.

Uwchraddio Seilwaith Pŵer Celtic Lakes

30 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i hwyluso proses uwchraddio seilwaith yng Nghasnewydd.

Gwerthu tir

30 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir ym Mangor.

Cyfarfod Panel Argymhelliad Buddsoddi 12 Rhagfyr 2023

30 Ionawr 2024

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Cyfarfod Panel Argymhelliad Buddsoddi 9 Ionawr 2024  

30 Ionawr 2024

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Gyllid Buddsoddi Twristiaeth Cymru ar gyfer prosiect ym Mhowys.

Cyflog ac Amodau Athrawon

29 Ionawr 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y 5ed cylch gorchwyl ar gyfer Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar Gyflogau ac Amodau Athrawon 2024 i 2025.

Partneriaeth strategol gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysgol

29 Ionawr 2024

Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ymrwymo i Gytundeb Partneriaeth Rhyngwladol tair blynedd gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysgol. Mae hyn yn gyfraniad ariannol o £55,000 ar gyfer gwaith datblygu yn 2023 i 2024 a £65,000 y flwyddyn ar gyfer y tair blynedd ariannol ganlynol hyd at 2026 i 2027, gyda'r opsiwn i dynnu'n ôl cyn diwedd y tymor tair blynedd. Mae'r Cytundeb yn cynnwys yr opsiwn ar gyfer gwaith ymgynghori ychwanegol os yw'r ddau barti yn cytuno.

Ymestyn swydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

25 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn cyfnod Emma Woollett fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – amrywiad

25 Ionawr 2024

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi Addysg mewn perthynas â Band B y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, ar gyfer amrywiadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Y Cynllun Gweithredu Aflonyddu Rhywiol gan Gymheiriaid

25 Ionawr 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gynnwys a chyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Aflonyddu Rhywiol gan Gymheiriaid.

Cymorth i'r sector cynghorau cymuned a thref

25 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhau â'r cymorth i'r sector cynghorau cymuned a thref yn 2024 i 2025.

Rhaglenni addysg Gŵyl y Gelli

24 Ionawr 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni addysg Gŵyl y Gelli 2024 i 2025.

Newidiadau i Ganllawiau Allgymorth Dechrau’n Deg

23 Ionawr 2024

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymgynghoriad anffurfiol sy’n targedu partneriaid gweithredu lleol ar newidiadau i Ganllawiau Polisi Allgymorth Dechrau’n Deg.

Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

23 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi’r ymateb cryno i’r ymgynghoriad a’r Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

22 Ionawr 2024

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg achosion busnes am gyllid cyfalaf gan awdurdodau lleol Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Ddinbych a Bro Morgannwg. Cymeradwyodd y Gweinidog hefyd gais amrywio gan awdurdod lleol Caerdydd ynghylch eu cyllid cyfalaf a gymeradwywyd ar gyfer Ysgolion Bro.

Cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol

22 Ionawr 2024

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg £20 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2023-24 i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd

22 Ionawr 2024

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yr achosion busnes ar gyfer cyllid cyfalaf gan awdurdodau lleol Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr.

Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

22 Ionawr 2024

Cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yr achosion busnes llawn, a'r cyllid cysylltiedig, ar gyfer prosiectau cyfalaf a ddarperir gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr a Grŵp Colegau NPTC fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Cymeradwyodd y Gweinidog hefyd gynyddu'r gyfradd ymyrraeth ariannu ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach i gynnwys hyd at 100% o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer TAW na ellir ei adfer ar brosiectau cyfalaf.  

Canolfan Ganser Newydd Felindre

22 Ionawr 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyngor mewn perthynas â chontractau uwch pellach ar gyfer Canolfan Ganser Newydd Felindre.

Dyraniad refeniw Byrddau Lleol

22 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniadau Byrddau Iechyd 2024 i 2025.

Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru

22 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ar gyfer darparu cyngor ariannol i bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn 2023 i 2024.

Ad-dalu blaendal – Parc Technoleg Pencoed

22 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo ad-dalu blaendal.

Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

18 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Lani Tucker yn Aelod Cyswllt ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Arian Cyfatebol i Gymorth ar gyfer Lleoliadau Unigol

16 Ionawr 2024

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i roi arian cyfatebol i gymorth ar gyfer lleoliadau unigol yn 2024 hyd 2025 a 2025 hyd 2026.

Adnewyddu’r berthynas â rhanbarth Silesia yng Ngwlad Pwyl

15 Ionawr 2024

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Cynllun Gweithredu ar gyfer cydweithio â rhanbarth Silesian Voivodeship yng Ngwad Pwyl.

Benthyciadau Trawsnewid Trefi

15 Ionawr 2024

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i roi cyllid o £3 miliwn i awdurdod lleol Abertawe yn rownd ddiweddaraf y rhaglen Benthyciadau Trawsnewid Trefi ar gyfer 2023 i 2024.

Ymestyn cwmpas band eang cyflym – caffael cyngor cyfreithiol

15 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddyfarnu contract ar gyfer cymorth cyfreithiol i ehangu cwmpas band eang cyflym.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 21 Tachwedd 2023

15 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mhowys.

Cyllid rhaglenni ar gyfer swyddi Safonau Addysg

15 Ionawr 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyllido pedair swydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu cynllun Safonau Addysg, ac ecosystem wybodaeth a data drwy gyllidebau rhaglenni ym maes Addysg.

Cyllid ychwanegol i Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes

15 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes.

Cyflwyno Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg

11 Ionawr 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y cyllid i'w ddyrannu yn ystod 2024 i 2025 a thymor yr haf 2025 i 2026 er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg.

Prosiect y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd

11 Ionawr 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid er mwyn i Gymru fod yn rhan o brosiect proffesiynoldeb a dyfodol addysgu newydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd..

Ymchwil ar effaith COVID

11 Ionawr 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer dau faes ymchwil sy’n peri pryder yn ymwneud ag effaith COVID ar sut y mae ysgolion yn rheoli’r lefelau cynyddol o ymddygiad heriol gan ddysgwyr ers y pandemig, a’r dulliau o gefnogi dysgwyr yn y Cyfnod Dysgu Sylfaen y mae’r pandemig wedi amharu ar y cerrig milltir yn eu datblygiad.

Adroddiad ar Sŵn Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer a Hawliau Datblygu a Ganiateir yng Nghymru

11 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi adroddiadau cam 1 a cham 2.

Penodi i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

10 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Judith Hardisty a Dawn Jones yn Aelodau Annibynnol am 4 blynedd.  

Penodi i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

10 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Ian Mathieson fel Cyfarwyddwr Anweithredol (Academaidd) a Peter Curran fel Cyfarwyddwr Anweithredol (Cyllid) i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am 4 blynedd..

Gwerthuso Cyllid y Cynllun Peilot Ysgolion Rhithiol

10 Ionawr 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyllido gwerthusiad llawn o’r Cynllun Peilot Ysgolion Rhithiol, sydd i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2024.

Cynlluniau parodrwydd ar gyfer ffliw adar

10 Ionawr 2024

Mae Prif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol  wedi cytuno i gryfhau’r cynlluniau parodrwydd ar gyfer ffliw adar.

Diogelu’r Gronfa Cyfraddau Annomestig

10 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i sefydlu cronfa gyfalaf i gynorthwyo busnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch. Bydd y gronfa gyfalaf hon yn darparu cymorth i fusnesau sy'n buddsoddi yn eu busnes a'u heiddo.  

Cyllid ar gyfer Rhaglenni Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru 2024 i 2025

10 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo'r cyllid ar gyfer rhaglenni Twf Swyddi Cymru+, ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025. Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd ar gyfer 2024 i 2025. Cytunodd Gweinidog yr Economi a Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol hefyd y dylai cyllid Cymunedau am Waith a Mwy aros fel grant ar wahân ac nad yw'n cael ei ystyried i'w gynnwys mewn Grant Cynnal Refeniw ar hyn o bryd.

Cyllid Parc Rhanbarthol y Cymoedd

10 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Map Rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Gwynedd

9 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo Map Rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Gwynedd ac wedi cytuno i ymestyn y dyddiad nesaf i bob awdurdod lleol gyflwyno fersiynau diwygiedig o'u Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol.

Cyllid Ychwanegol o’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i helpu i uwchraddio dyfeisiau Systemau Ynni Deallus

9 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid hyd at uchafswm o £1.5 miliwn o'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, i'w ddefnyddio i helpu i uwchraddio dyfeisiau technoleg systemau ynni deallus sydd eisoes yn bodoli, a ddefnyddiwyd o dan gamau blaenorol y Rhaglen.

Cynnig Gofal Plant Cymru - Addasiad yn ystod y Flwyddyn 2023 i 2024

9 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailddyrannu cyllid o fewn dyraniadau presennol 2023 i 2024 Prif Grant (Gwaddol) y Cynnig Gofal Plant, y Grant Cymorth Ychwanegol a'r Grant Gweinyddu i Awdurdodau Lleol.

Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol

9 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi grantiau o £400,000 i Gyd-bwyllgorau Corfforaethol yn 2024 i 2025 er mwyn gallu datblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a chaniatáu i'r cyllid sydd wedi ei ymrwymo i glybiau ceir gael ei ledaenu dros sawl blwyddyn.

Cyllid grant Cymraeg 2050 ar gyfer derbynwyr grantiau'r trydydd sector

9 Ionawr 2024

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid grant i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn 2024 i 2025.

Prosiectau ymchwil sy'n ymwneud â chefnogi teuluoedd a gofal plant

9 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor a chyllid i gefnogi prosiectau ymchwil sy'n ymwneud â chefnogi teuluoedd a gofal plant.

Cynllun Benthyciadau Trawsnewid Trefi 2023 i 2024 - Cymeradwyo Ceisiadau am Fenthyciad

9 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ariannu cyfanswm o £5.126 miliwn i awdurdodau lleol Caerffili, Caerdydd, Gwynedd a Wrecsam o dan rownd ddiweddaraf y rhaglen Benthyciadau Trawsnewid Trefi.

Comisiynydd Plant Cymru

8 Ionawr 2023

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi cytuno ar ddyraniad dangosol o £1,591,000 (refeniw) a £20,000 (cyfalaf) ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Gwobrau Ystadau Cymru 2023

8 Ionawr 2023

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Wobrau Ystadau Cymru 2023: Enillydd, Prosiect Bwyd Llanilltud, Cyngor Bro Morgannwg a Phartneriaid; yn ail, Hwb Merthyr Tudful, Cyngor Merthyr Tudful a Phartneriaid; Canmoliaeth, Parc Gelli Werdd, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Phartneriaid.

Rhaglen Drawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar

5 Ionawr 2024

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y bydd cyllid grant i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Rhaglen Drawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar yn dod i ben ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023 i 2024 ac y bydd y rhaglen yn cau'n ffurfiol ar ddiwedd 2024 i 2025.

Cyngor arbenigol

5 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ymgynghoriaeth cyllid arbenigol i gefnogi Tîm Busnes a Rhanbarthau’r Gogledd.

Addasiadau a chymhorthion cartref

5 Ionawr 2024

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo £1,192,181 yn 2023 i 2024 o'r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer chwe chynllun Tai â Gofal a £535,000 ychwanegol i Asiantaethau Gofal a Thrwsio yn 2023 i 2024 ac yn 2024 i 2025.

Cyllideb Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

4 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo’r dyraniadau cyllideb cyfalaf a refeniw dangosol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2024 i 2025.

Y Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant

4 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyraniadau cyllideb dangosol ar gyfer y Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant ar gyfer 2024 i 2025.

Y Grant Plant a Chymunedau

4 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnwys y Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae a’r Grant Cymorth Rhianta Ymyrraeth Gynnar a Lleihau. Gwrthdaro rhwng Rhieni yn y Grant Plant a Chymunedau o fis Ebrill 2024 ymlaen, ac i ddarparu llythyrau cynnig grant dangosol un flwyddyn ar gyfer 2024 i 2025 ar gyfer pob awdurdod lleol ar gyfer y Grant Plant a Chymunedau. 

Gwasanaeth GIG 111

4 Ionawr 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddyrannu cyllid cyfalaf i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gaffael system newydd ar gyfer rheoli a brysbennu cleifion i gefnogi gwasanaeth cenedlaethol GIG 111 Cymru.

Pwysau Iach: Cymru Iach

4 Ionawr 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant gyllid ar gyfer prosiectau i gefnogi Pwysau Iach: Cymru Iach.

Cynaliadwyedd y sector bwyd a diod

4 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cymeradwyo nifer o fentrau i wella cynaliadwyedd, datgarboneiddio ac addasu yn y diwydiant bwyd a diod. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu cynllun datgarboneiddio ar gyfer y diwydiant bwyd a diod a chomisiynu ymchwil gychwynnol i nodi manteision ac anfanteision posibl adrodd am risgiau’r hinsawdd ar gyfer busnesau bwyd, diod a bwyd anifeiliaid mawr.

Addasiadau a chymhorthion ar gyfer cartrefi

4 Ionawr 2024

Cymeradwyodd y Gweinidog Newid Hinsawdd gyllid gwerth £3,017,931 miliwn  o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer un cynllun ar ddeg mewn pedwar rhanbarth.

Diwygio deddfwriaeth sootechnegol

4 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno mewn egwyddor i ymgynghoriad ar y cyd â Defra ar ddeddfwriaeth sootechnegol.

Gwerthu tir

3 Ionawr 2024

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ryddhau pridiant tir ym Mwyndy.

StatsCymru

3 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu'r contract ar gyfer datblygu gwasanaeth newydd StatsCymru ar lwyfan modern a chynaliadwy.

Swyddog Polisi Adolygiad Diogelu Unedig Sengl

3 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rôl swyddog polisi Adolygiad Diogelu Unedig Sengl.

Dyraniadau cyllid

3 Ionawr 2024

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniadau cyllideb ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae 2024 i 2025.

Ffermio organig

3 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi gofyn i swyddogion ddatblygu cynllun cymorth ariannol i ffermio organig ar gyfer 2024.

Diwydiant garddwriaeth y DU

3 Ionawr 2024

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi rhoi ei chydsyniad i Lywodraeth y DU lansio ymgynghoriad ar draws y DU ar drefniadau contractio ar gyfer sector garddwriaeth y DU.