Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir addasrwydd i ymarfer

Mae addasrwydd i ymarfer yn golygu meddu ar y sgiliau, y wybodaeth, y cymhwysedd a'r cymeriad i ymarfer mewn proffesiwn.

Mae addasrwydd i ymarfer hefyd yn ymwneud â'r broses a ddefnyddir gan reoleiddwyr proffesiynol statudol i ddelio ag achosion a gyfeirir atynt. Cyngor y Gweithlu Addysg (y Cyngor) sy’n gyfrifol am y gwaith rheoleiddiol hwn mewn perthynas â’r gweithlu addysg yng Nghymru. 

Mae'r Cyngor yn ystyried atgyfeiriadau a wneir mewn perthynas ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol ymarferydd, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu euogfarn o drosedd berthnasol. Mae’r Cyngor hefyd yn gyfrifol am ystyried addasrwydd unrhyw ymgeisydd i gofrestru a chael ei dderbyn i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg. Yn ogystal, nhw yw'r corff apeliadau os yw Corff Priodol yn penderfynu bod Athro Newydd Gymhwyso wedi methu â chwblhau ei gyfnod sefydlu statudol yn foddhaol, ac os yw'r athro hwnnw yn dymuno apelio yn erbyn y penderfyniad.

Disgyblu

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn derbyn atgyfeiriadau a allai arwain at ymchwiliad gan Bwyllgor Ymchwilio neu a allai gael eu hystyried gan Bwyllgor Gorchmynion Atal Dros Dro Interim, ynghylch addasrwydd i ymarfer. Daw’r atgyfeiriadau o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), yr Heddlu a chyflogwyr. Mae'r mwyafrif yn dod gan gyflogwyr, sydd â chyfrifoldeb statudol i atgyfeirio i'r Cyngor pan fyddant yn diswyddo aelod o staff, neu pan fydd unigolyn yn gadael mewn amgylchiadau lle y gallai, fel arall, fod wedi'i ddiswyddo. Mae hyn yn cynnwys honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu euogfarn o drosedd berthnasol.

Addasrwydd i gofrestru

Gofynnir i ddarpar gofrestrwyr ateb cwestiynau am eu hanes wrth gwblhau adran datganiad y ffurflen gais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Os bydd rhywun yn rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw gwestiwn yn ei ddatganiad, bydd ei addasrwydd ar gyfer mynediad i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn cael ei asesu gan swyddogion y Cyngor. Mewn rhai achosion, bydd swyddogion y Cyngor yn penderfynu y dylid cyfeirio'r cais at bwyllgor addasrwydd annibynnol a gaiff ei gynnull i ystyried y datganiad a wnaed.

Mae gwaith achos addasrwydd i ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg yn hanfodol bwysig, felly, wrth gynnal safonau proffesiynol y gweithlu addysg yng Nghymru.

Er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o safbwynt addasrwydd i ymarfer, mae'n ofynnol i’r Cyngor sefydlu nifer o bwyllgorau gwahanol. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud yn unig â'r rhai a bennir yn rheoliad 26 o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 ("Rheoliadau 2015"), sef y "Pwyllgor Ymchwilio" a'r "Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer”.

Y Pwyllgor Ymchwilio

Swyddogaeth y "Pwyllgor Ymchwilio" yw cynnal ymchwiliadau y mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn eu hystyried yn briodol a phenderfynu a oes gan berson cofrestredig achos i'w ateb lle:

  • (a) honnir bod person cofrestredig:
    • (i) yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu
    • (ii) wedi cael euogfarn (ar unrhyw adeg) o drosedd berthnasol, neu
  • (b) os yw'n ymddangos i'r Cyngor y gallai person cofrestredig fod yn euog o hyn neu fod wedi cael euogfarn o’r fath

Y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer

Swyddogaeth gwrandawiadau'r “Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer" yw penderfynu ar achosion a gyfeiriwyd gan Bwyllgor Ymchwilio.

Wrth ystyried achosion o'r fath, rhaid i'r "Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer" ystyried yn gyntaf a yw ffeithiau'r honiadau wedi cael eu profi, ac a ydynt yn gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn o drosedd berthnasol.

Yna bydd y Pwyllgor yn penderfynu a ddylai gorchymyn disgyblu gael effaith ar statws cofrestredig yr unigolyn.

Yn ogystal, mae'n rhaid i'r "Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer":

  • (i) benderfynu ar geisiadau i amrywio neu roi o’r neilltu amod mewn gorchymyn cofrestru amodol
  • (ii) penderfynu ar geisiadau i amrywio neu roi o’r neilltu amod mewn gorchymyn atal dros dro
  • (iii) penderfynu ar geisiadau i adolygu gorchymyn gwahardd, neu faterion sy'n codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliadau
  • (iv) penderfynu ar geisiadau i benderfynu ar ganlyniadau methu â chydymffurfio â gorchymyn cofrestru amodol
  • (v) adolygu gorchmynion disgyblu a wnaed mewn perthynas â pherson cofrestredig

Y sefyllfa bresennol

Mae rheoliad 26 o Reoliadau 2015 yn nodi gofynion aelodaeth a gweithdrefn pwyllgorau mewn perthynas â gwaith achos addasrwydd i ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg. Yn benodol, mae'r rheoliad hwnnw yn nodi gofynion aelodaeth y "Pwyllgor Ymchwilio" a'r "Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer" ("y Pwyllgorau”).

Un o’r gofynion yw bod yn rhaid i'r Pwyllgorau gynnwys un aelod cofrestredig ac un aelod lleyg. Mae aelod cofrestredig yn berson sydd wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor yn yr un categori ag y mae’r person sy'n wynebu’r achos wedi’i gofrestru ynddo, ac mae'n gyflogedig neu wedi’i gymryd ymlaen fel person cyflogedig ar ddyddiad ei benodi i'r Pwyllgor. Mae aelod lleyg yn berson nad yw wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor ac nad yw'n berson wedi’i wahardd[Troednodiad 1]. Ni allai person wedi’i wahardd fod yn aelod cofrestredig gan y byddai’r statws hwnnw yn ei atal rhag parhau’n gofrestredig.

Yn dilyn diwygiadau diweddar i'r categorïau cofrestru, fel y maent wedi’u nodi yng Ngorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 a ddaeth i rym ym mis Mai 2023, mae 11 categori cofrestru gwahanol erbyn hyn, ac mae’n bosibl y bydd yna fwy yn y dyfodol:

  • athro ysgol a gynhelir
  • athro addysg bellach
  • athro ysgol annibynnol
  • athro sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
  • ymarferydd dysgu seiliedig ar waith
  • gweithiwr ieuenctid
  • gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a gynhelir
  • gweithwyr cymorth mewn addysg bellach
  • gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol
  • gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
  • gweithiwr cymorth ieuenctid

Apeliadau sefydlu

Os bydd cyflogwr yn penderfynu bod athro newydd gymhwyso wedi methu â bodloni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn ystod ei gyfnod sefydlu, gall yr athro apelio i Gyngor y Gweithlu Addysg yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Yn y sefyllfaoedd hyn, ni fyddai'r Cyngor ond yn cynnwys aelod o banel ymarferwyr athrawon ysgol cofrestredig ar Bwyllgor Apeliadau Sefydlu fel yr aelod cofrestredig.

Y mater dan sylw

O dan y gofynion presennol yn rheoliad 26 o Reoliadau 2015, mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn aml yn wynebu heriau wrth geisio dod o hyd i aelodau ar gyfer y Pwyllgorau. Gall hyn achosi oedi ar gyfer ymchwiliadau a gwrandawiadau, ac felly greu risgiau cynyddol i les y rhai y mae’r broses yn ymwneud â nhw.

A nifer y categorïau wedi cynyddu, os na fydd y ddeddfwriaeth yn newid, bydd angen i'r Cyngor recriwtio ymarferwyr o gronfeydd o bobl gofrestredig a allai fod yn fach iawn er mwyn gwneud ei waith rheoleiddio yn y categorïau hynny yn unig. Lle mae nifer y bobl gofrestredig mewn grŵp yn arbennig o fach, mae’n fwy tebygol bod unigolion yn gyfarwydd â'i gilydd, sy'n debygol o arwain at wrthdaro buddiannau. Bydd yn gryn her i'r Cyngor, felly, i recriwtio aelodau i eistedd ar Bwyllgorau i ystyried achosion mewn perthynas â'r categorïau cofrestru hynny. Bydd hon yn broblem arbennig i rai o'r categorïau cofrestru newydd llai, lle mae'r gweithlu yn fach.

Yn ogystal, mae'n bosibl bod unigolion sy'n wynebu achos ymchwilio ac addasrwydd i ymarfer wedi’u cofrestru mewn mwy nag un categori. A mwy o gategorïau cofrestru wedi’u hychwanegu, mae dod o hyd i bobl addas ar gyfer y Pwyllgorau yn debygol o fod yn anoddach byth yn weinyddol.

At hyn, mae hawl gan bobl gofrestredig i ofyn am i'w gwrandawiad gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn ychwanegu at y broblem gan fod nifer yr aelodau o baneli Pwyllgorau sydd ar gael i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfyngedig mewn rhai sectorau.

Yn olaf, mae rolau Pwyllgorau yn wirfoddol, a rhaid i reolwyr llinell a chyflogwyr ymarferwyr eu cefnogi er mwyn hwyluso eu rhyddhau o'u swydd arferol. Efallai y bydd staff cymorth dysgu mewn ysgolion a'r rhai mewn addysg bellach yn ei chael yn arbennig o anodd a) i gael cefnogaeth i wneud cais am y rôl, a b) i gael eu rhyddhau i allu eistedd fel aelod. Mae hyn yn golygu bod nifer yr ymarferwyr sy'n gallu bod yn aelodau Pwyllgor mewn rhai categorïau, ac sy’n barod i wirfoddoli, yn isel iawn.

Y cynnig

Rydym yn cynnig diwygio Rheoliadau 2015 sy'n berthnasol i aelodaeth y Pwyllgorau, a fydd yn golygu y bydd gan Gyngor y Gweithlu Addysg fwy o hyblygrwydd i benodi aelodau panel o gronfa ehangach o ymarferwyr cofrestredig. Byddai egwyddorion tegwch a thryloywder yn parhau, ac ni fyddai unrhyw berson sy'n wynebu achos addasrwydd i ymarfer o dan anfantais oherwydd y newid.

Aelod Cofrestredig

Yn hytrach na bod angen 'person cofrestredig o'r un categori cofrestru â'r person cofrestredig sy'n destun yr achos disgyblu', byddai angen person sy'n cyflawni'r meini prawf canlynol:

  • rhaid iddynt fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (ond nid o reidrwydd yn yr un categori â'r person sy'n destun yr achos),[Troednodiad 2] a
  • rhaid iddynt fod yn gyflogedig, neu wedi’u cymryd ymlaen dan drefniant nad yw’n gontract cyflogaeth, yn un o'r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru ar ddyddiad penodi’r aelod cofrestredig hwnnw i'r Pwyllgor

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn penderfynu a yw profiad a dealltwriaeth person yn ei wneud yn addas i’w benodi’n aelod cofrestredig. Er nad yw'n ofyniad statudol penodol, mae'r Cyngor yn ystyried hyn wrth wneud penodiadau o'r fath.

Caiff pob aelod o'r panel addasrwydd i ymarfer eu penodi drwy broses recriwtio fanwl lle asesir eu hymddygiad a'u sgiliau. Bydd y rhai a benodir yn dilyn rhaglen sefydlu a mentora strwythuredig, a bydd rhaid iddynt fynychu hyfforddiant blynyddol. Bydd pob aelod o'r panel yn ymrwymo i weithredu'n ddiduedd a chydag uniondeb.

Bydd rhoi mwy o hyblygrwydd i Gyngor y Gweithlu Addysg wrth benodi aelodau panel Pwyllgor fel hyn yn caniatáu i achosion fynd yn eu blaen yn ddi-oed.

Os bydd y cynnig i ddiwygio Rheoliadau 2015 yn cael ei weithredu, bydd y Cyngor hefyd yn ymgynghori ar ei weithdrefnau a'i reolau disgyblu (ewc.wales) i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r gofynion deddfwriaethol newydd yn llawn.

Credwn fod angen y newidiadau hyn i ddiogelu swyddogaeth reoleiddio Cyngor y Gweithlu Addysg i’r dyfodol. Bydd yr hyblygrwydd mwy mewn perthynas ag aelod cofrestredig y Pwyllgorau yn caniatáu i’r gwaith o reoleiddio priodol ar bob categori o bobl gofrestredig barhau, ni waeth faint o gategorïau o bobl gofrestredig sydd yna nawr neu a ychwanegir yn y dyfodol.

Diwygiadau amrywiol

Newid enw'r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn y Saesneg

Mae fersiwn Saesneg Rheoliadau 2015 yn cyfeirio at y "Fitness to Practice Committee" ond dylent gyfeirio, yn hytrach, at y "Fitness to Practise Committee”. Byddai'r newid hwn yn cyd-fynd ag enwau pwyllgorau addasrwydd i ymarfer eraill fel y Social Care Fitness to Practise Committee. Rydym yn cynnig diwygio teitl y pwyllgor yn unol â hynny. Newid technegol mân yw hwn, ac nid yw'n cael unrhyw effaith ar waith Cyngor y Gweithlu Addysg na'r Pwyllgorau.

Newid i Atodlen 2 Rheoliadau 2015: materion i'w cofnodi ar y Gofrestr

Mae paragraff 21 o Atodlen 2 Rheoliadau 2015 yn nodi bod yn rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg gadw ar y Gofrestr "delerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â’r person cofrestredig o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002", hynny yw yr adran yn Neddf Addysg 2002 yn gwahardd rhag addysgu.

Diddymwyd adran 142 yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 o 12 Hydref 2009 (yn amodol ar rai darpariaethau trosiannol). Ar yr un pryd, daeth Adran 167A o Ddeddf 2002, hynny yw, y gwaharddiad ar gymryd rhan yn y broses o reoli ysgolion annibynnol, i rym.

Er bod Adran 167A wedi bod mewn grym ers 2009, ni roddwyd unrhyw gyfarwyddyd gan nad yw'r rheoliadau angenrheidiol erioed wedi'u gwneud i ragnodi'r seiliau neu'r weithdrefn berthnasol. Bydd Rheoliadau arfaethedig Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) 2023 ("Rheoliadau 2023") yn darparu'r pwerau hyn. Disgwylir i Reoliadau 2023 ddod i rym ddechrau 2024.

Er mwyn rhoi effaith lawn i'r ddarpariaeth hon a galluogi Cyngor y Gweithlu Addysg i gadw cofrestr gywir, mae angen gwneud diwygiad bach i Reoliadau 2015 i gynnwys cyfeiriad at Adran 167A ym Mharagraff 21 Atodlen 2.

Effeithiau

Mae effeithiau llawn y cynigion i ddiwygio aelodaeth y Pwyllgorau wedi’u hasesu yn yr asesiad effaith integredig.

I grynhoi, y grŵp y mae’r cynnig hwn yn effeithio arnynt fwyaf yw pobl gofrestredig. Credwn y bydd diwygio'r gofynion ar gyfer y Pwyllgorau fel y nodir uchod yn cael effaith gadarnhaol neu niwtral, gan y byddai egwyddorion tegwch a thryloywder yn parhau o dan y trefniadau newydd. Dylai hefyd olygu y gellir cynnull pwyllgorau yn gyflymach, yn enwedig y rhai a gynhelir drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau â'i swyddogaeth reoleiddiol mewn ffordd broffesiynol a thryloyw fel y gall y cyhoedd, pan fydd problemau yn codi, barhau i fod yn hyderus yn ymddygiad a chymhwysedd y gweithlu addysg yng Nghymru.

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â'r cynnig i ddiwygio’r gofynion ar gyfer y Pwyllgorau?

Cwestiwn 2

A ydych yn cytuno â'n hasesiad o effeithiau’r cynnig?

Cwestiwn 3

A ydych yn cytuno â'n cynigion i wneud diwygiadau amrywiol i Reoliadau 2015?

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau ucho.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o’r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: Information Commissioner's Office

Troednodiadau

[1] Mae person wedi’i wahardd yn golygu unrhyw berson sydd:

  • (i) yn gyflogedig, neu wedi’i gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol o fewn y cyfnod o 5 mlynedd a fydd yn dod i ben ar ddyddiad penodi’r person hwnnw i’r Pwyllgor
  • (ii) wedi’i wahardd rhag cyflawni gweithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006)
  • (iii) yn destun gorchymyn disgyblu a wnaed o dan Ddeddf 2014, ac yn rhinwedd y gorchymyn hwnnw, bod y person yn anghymwys i gofrestru
  • (iv) wedi'i anghymhwyso rhag gweithio mewn swydd sy'n gyfystyr â chategori cofrestru

[2] Mae'r gofyniad i gofrestru yn atal unrhyw berson nad yw'n gymwys i gofrestru rhag bod yn aelod cofrestredig (person wedi’i wahardd).