Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi 14 aelod Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru a fydd yn gweithio gyda'r Cadeirydd, Martin Buckle.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Pwyllgor yn cynnwys cymysgedd o ymgeiswyr wedi'u penodi ac ymgeiswyr wedi'u henwebu, a chafodd ei sefydlu o dan ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Bydd y Pwyllgor yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ar bob mater sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, a pharatoi a chynyddu gallu cymunedau i wrthsefyll llifogydd.

Y tri aelod pwyllgor sydd wedi cael eu penodi yw David Harris, Anne-Marie Moon a   Natalie Haines. Mae gweddill y Pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, cynghorau lleol, y sector amaeth, y diwydiant dŵr, academia a'r sectorau proffesiynol.

Bydd y Pwyllgor yn darparu cyngor lefel uchel ar bolisïau rheoli llifogydd ac erydu arfordirol, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag arbenigwyr yn y sector a sefydliadau ymchwil. Bydd yr aelodau'n sefydlu eu rhaglen eu hunain o waith cynghori, gan adlewyrchu'r blaenoriaethau cenedlaethol sy'n cael eu hamlinellu yn y Strategaeth Genedlaethol arfaethedig ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Bydd hyn yn cynnwys nodi anghenion ymchwil a thynnu sylw at yr arferion gorau yng Nghymru ac mewn mannau eraill.

Dywedodd  Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Mae'n dda gen i gyhoeddi 14 aelod y Pwyllgor Rheoli Llifogydd ac Erydu Arfordirol, sy'n cynnwys toreth o brofiad a gwybodaeth ym maes rheoli llifogydd ac amddiffyn arfordirol. Bydd y pwyllgor yn chwarae rôl bwysig wrth ddarparu cyngor ar bolisïau, strategaethau ac ymchwil i sicrhau ein bod yn parhau i fynd i'r afael â pherygl llifogydd ac adeiladu cydnerthedd yn effeithiol ledled Cymru."