Neidio i'r prif gynnwy

"Mae'n bryd ailosod pethau yn sylfaenol - i ailadeiladu ymddiriedaeth – a’r gwaith yn dechrau nawr." Y Dirprwy Brif Weinidog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw (3 Chwefror 2026), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd sy'n nodi cynigion unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer diwygio'r system ddŵr yng Nghymru yn sylfaenol.  Bydd yn golygu afonydd glanach, rheoleiddio cryfach a gwell atebolrwydd.    

Mae Llunio Dyfodol Llywodraethu Dŵr yng Nghymru yn ymateb i ganfyddiadau'r Comisiwn Dŵr Annibynnol, a sefydlwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025.   

Cynhaliodd y Comisiwn yr archwiliad mwyaf cynhwysfawr o'r sector dŵr ers preifateiddio.  

Mae'r cynigion heddiw yn cynnwys creu rheoleiddiwr economaidd newydd pwrpasol yng Nghymru ar gyfer dŵr, gyda chefnogaeth deddfwriaeth newydd a fframwaith rheoleiddio modern sydd wedi'i gynllunio i annog buddsoddiad, diogelu'r amgylchedd a darparu system ddŵr sy'n gweithio i Gymru.  

Wrth siarad ar safle Dŵr Cymru yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien y bore yma, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: 

"Mae ein huchelgais yn glir a chadarn: afonydd glân a iach, dŵr yfed diogel o ansawdd da, gwasanaethau teg a fforddiadwy a seilwaith modern sy'n barod ar gyfer y dyfodol.   

"Byddwn yn atgyfnerthu atebolrwydd, ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu system sy'n symlach, yn gryfach ac yn fwy tryloyw.  

"Mae Cymru bellach yn wynebu argyfwng gwirioneddol. Mae argyfyngau hinsawdd a natur, seilwaith sy'n heneiddio a phryderon y cyhoedd am ansawdd dŵr yn gofyn am weithredu penderfynol. Mae'r system sydd gennym heddiw wedi'i chynllunio ar gyfer cyfnod gwahanol. Mae'n bryd ailosod pethau yn sylfaenol. 

Ers 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £56 miliwn i fynd i'r afael â heriau ansawdd dŵr drwy orfodi, monitro ac atebion sy'n seiliedig ar natur.  Rydym wedi gwneud cynnydd ar wella ansawdd dŵr ond mae llawer mwy i'w wneud.    

Fel y cadarnhawyd yn y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf, yn 2026-27 rydym yn buddsoddi £5m mewn ansawdd dŵr, i gryfhau gorfodi a hyrwyddo gwelliannau yn ein hafonydd a'n moroedd. Sefydlwyd y gronfa hon gyntaf fel rhan o gytundeb y gyllideb gyda Jane Dodds AS y llynedd ac mae'n sicrhau cynnal momentwm ar wella ansawdd dŵr. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu amgylchedd rheoleiddio sy'n cefnogi buddsoddiad hirdymor mewn seilwaith dŵr Cymru tra'n diogelu budd y cyhoedd.  

Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i geisio cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol a chyflwyno Bil Dŵr newydd.  

Meddai'r Dirprwy Brif Weinidog: 

"Mae'r ymgynghoriad bellach ar agor a rydym yn croesawu barn, tystiolaeth a gwybodaeth gan unigolion, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru. Rwy'n croesawu eich cyfraniad i'r sgwrs genedlaethol hon.   

"Gyda'n gilydd, rydyn ni'n rhannu cyfrifoldeb i adael ein hamgylchedd dŵr mewn cyflwr gwell nag y gwnaethom ei ganfod - gwydn, cynaliadwy ac yn barod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.   

"Mae'r gwaith hwnnw'n dechrau nawr.