Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cafodd Beaufort Research eu comisiynu gan Adran yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau Llywodraeth Cymru Beaufort Research i gynnal arolwg o fusnesau Cymru, i ddeall yn well ganfyddiadau ac agweddau ynghylch y newidiadau a gynigir i'r ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle

Yn ogystal â gwella ansawdd a lefelau ailgylchu, mae'r newidiadau'n hanfodol hefyd i Gymru allu gwireddu ei hymrwymiadau i fod yn ddiwastraff ac i leihau'n hallyriadau carbon erbyn 2050. Mae'r Rheoliadau'n rhoi ar waith nifer o gamau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, Mwy Nag Ailgylchu

Yn ogystal â'r arolwg busnes hwn, cynhaliwyd dau arolwg ar wahân ar agweddau a chanfyddiadau'r cyhoedd ynghylch y newidiadau deddfwriaethol yn y gweithle. Cawsant eu cynnal fisoedd Chwefror-Mawrth 2023[troednodyn 1] a mis Tachwedd 2023.

Methodoleg

Roedd yr arolwg yn seiliedig ar Arolwg Omnibws Busnes Cymru Beaufort sy’n cyfweld fesul carfan â sampl cwota o 500 o bobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn busnesau bach a chanolig ledled Cymru, ac sy’n adlewyrchu busnesau bach a chanolig Cymru o ran nodweddion demograffig allweddol. Cyfwelir â set wahanol o fusnesau fesul carfan, er bod samplau'n cyfateb o ran eu nodweddion busnes allweddol. 

Gosodwyd cwotâu a oedd yn cyfateb o ran gweithgareddau a maint busnesau o fewn rhanbarth, yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd gan Market Location, darparwr data busnes ac atebion marchnata. Rhannwyd gweithgareddau busnesau yn y grwpiau canlynol gan ddefnyddio Dosbarthiad Diwydiannol Safon y DU (2007):

  • Cyfanwerthu a Manwerthu
  • Gwestai, bwytai a gwasanaethau eraill
  • Amaethyddiaeth, pysgota, mwyngloddio a chyfleustodau
  • Gweithgynhyrchu
  • Adeiladu, trafnidiaeth/cyfathrebu
  • Cyllid, eiddo tiriog/gweithgareddau busnes

Mae maint yn adlewyrchu nifer y gweithwyr ac fe'i rhannwyd yn y categorïau canlynol: 1; 2 i 9; 10 i 250 o weithwyr.

Dewiswyd sampl o fusnesau ar hap gan Market Location a chysylltwyd â busnesau o fewn pob grŵp gweithgareddau a rhanbarth a chyfwelwyd â nhw ar hap nes i'r targedau cwota gael eu bodloni.

Diffiniwyd ymatebwyr cymwys fel rheolwr, perchennog, rheolwr-gyfarwyddwr neu uwch-reolwr arall a oedd yn bresennol adeg y cyfweliad. 

Cafodd cwestiynau'r arolwg eu darparu gan Lywodraeth Cymru. Cafodd fersiynau terfynol o’r cwestiynau hyn eu cwblhau yn dilyn trafodaethau â Beaufort.

Gofynnwyd cwestiynau agored a chaeedig. Rhoddwyd opsiynau i'r cyfranogwyr ddewis ohonynt pan ofynnwyd cwestiwn caeedig. Yn y cam dadansoddi, cafodd atebion i gwestiynau agored eu categoreiddio â llaw yn godau penodol er mwyn gallu mesur nifer yr atebion. Cynhaliwyd dull anwythol o gynhyrchu codau oedd yn golygu adolygu atebion penagored a chynhyrchu fframiau codau yn seiliedig ar gynnwys yr atebion. Am ei bod yn bosibl rhoi nifer o godau i ateb gan un ymatebwr, bydd canran yr atebion yn erbyn pob cod yn gwneud cyfanswm o fwy na 100 y cant.

Roedd yr arolwg ar gael yn Saesneg ac yn y Gymraeg a gellid ei gwblhau yn yr iaith oedd orau gan y cyfranogwyr.

Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 2 Hydref ac 22 Hydref 2023. Cwblhawyd a dadansoddwyd cyfanswm o 502 o gyfweliadau dros y ffôn. 

Rhoddwyd tablau data llawn o'r arolwg i Lywodraeth Cymru mewn adroddiad technegol ar wahân. 

Mae Arolwg Omnibws Cymru yn defnyddio samplu cwota lleoliad cyfrannol Market Location (nid samplu ar hap) i adlewyrchu busnesau bach a chanolig Cymru. Felly, mae unrhyw ganfyddiadau yn yr arolwg hwn yn adlewyrchu barn y sampl a dylid cymryd gofal wrth drosi unrhyw ganfyddiadau i'r corff ehangach o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Prif ganfyddiadau

  • Dywedodd 65% o BBaChau a holwyd eu bod eisoes yn ailgylchu popeth y gallant.
  • Ar hap, dywedodd 42% o'r busnesau bach a chanolig a holwyd eu bod yn ymwybodol o'r newidiadau i'r gyfraith.
  • Yn yr un modd, pan gawsant eu hysgogi ag esboniad o'r newid yn y gyfraith, dywedodd 47% o'r BBaChau a holwyd eu bod wedi clywed am y gyfraith ailgylchu yn y gweithle newydd, ond dim ond 16% o'r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn 'gwybod cryn dipyn amdani'.
  • Roedd 79% o'r BBaChau a holwyd o blaid newid y gyfraith. Roedd 11% o'r ymatebwyr a holwyd yn erbyn y newid yn y gyfraith.
  • Dywedodd 49% o'r BBaChau a holwyd nad oeddent yn teimlo'n wybodus am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i baratoi ar gyfer y newid yn y gyfraith. Er gwaethaf hyn, roedd 66% o'r BBaChau a holwyd yn teimlo eu bod yn barod 'iawn' neu'n 'weddol' barod.
  • Dywedodd 22% o'r BBaChau a holwyd eu bod wedi ymchwilio i sut y gallai'r rheoliadau newydd effeithio arnynt.
  • Dywedodd 28% o'r BBaChau a holwyd eu bod wedi gweld neu wedi clywed cyfathrebiad am y newid i'r gyfraith.
  • Pan ofynnwyd iddynt am brif neges unrhyw gyfathrebiadau a welsant, y themâu mwyaf cyffredin a nodwyd oedd yr angen i fusnesau ailgylchu (32% o'r BBaChau a holwyd), neu fod gofyniad cyfreithlon newydd yn yr arfaeth (25% o'r BBaChau a holwyd).
  • Pan chwaraewyd clip o'r hysbyseb radio iddynt, roedd 16% o'r BBaChau a holwyd yn cofio ei chlywed ar y radio.
  • I'r rhai a oedd yn cofio clywed yr hysbyseb, rhoddwyd rhestr o gamau gweithredu a gofyn a oeddent wedi cymryd unrhyw un ohonynt ar ôl clywed yr hysbyseb. O'r 160 o BBaChau a holwyd a oedd yn cofio clywed yr hysbyseb radio: 
    • dywedodd 83% nad oedden nhw wedi gwneud unrhyw un o'r camau a restrir
    • dywedodd 17% o'r BBaChau a holwyd eu bod wedi gweithredu am iddyn nhw glywed hysbyseb yr ymgyrch
    • roedd 7% wedi mynd ar wefan Llywodraeth Cymru
    • roedd 6% wedi cysylltu â'u hawdurdod lleol
    • roedd 4% wedi cysylltu â'u cludwr gwastraff preifat

Troednodiadau

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Rhian Power a Hannah Davies

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Rhian Power a Hannah Davies
Ebost: resourceefficiencyandcirculareconomy@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 24/2024
ISBN digidol 978-1-83577-825-8

Image
GSR logo