Neidio i'r prif gynnwy

Amcan yr ymchwil hon oedd adeiladu ar linell sylfaen ymchwil a gynhaliwyd yn 2018 o ran agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol gan gynnwys y ddeddfwriaeth arfaethedig.

Mae canfyddiadau arolwg cam 2 wedi’u cymharu â’r union gwestiynau yn Arolwg Omnibws Beaufort 2018. Wrth gynnal pob arolwg omnibws yng Nghymru, defnyddir samplau gwahanol o oedolion 16+, sy’n samplau cwota o ran elfennau demograffig fel oedran, rhyw, ardal a gradd gymdeithasol.

Prif ganfyddiadau

  • Mae canfyddiadau arolygon y ddwy don yn dangos bod agweddau at gosbi corfforol yn gymysg, a bod yna elfen o gamddealltwriaeth ynghylch statws y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd.
  • Gwelwyd newid ym marn pobl am gosbi corfforol ers arolwg 2018 ymhlith y rheini sydd â chyfrifoldebau gofal dros blant o dan saith oed, y grŵp oedran ieuengaf (16 i 34), a’r rheini sy’n perthyn i radd gymdeithasol C2DE (galwedigaethau gwaith corfforol i raddau helaeth). Bellach maent yn fwy tebygol o anghytuno â chosbi corfforol ac o fod o blaid y ddeddfwriaeth.
  • Yn arolwg 2019, nododd canran uwch o bobl eu bod o blaid diddymu amddiffyniad cosb resymol nag yn 2018.
  • Fel y nodwyd yn arolwg 2018, roedd pobl yn dal i fod am gael mwy o wybodaeth am sut y bydd y ddeddf yn gweithio, ac eglurder ynghylch diffiniadau fel smacio a chosb resymol.

Adroddiadau

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: arolwg cam 2, 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: 2019 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 45 KB

ODS
45 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Alyson Lewis

Rhif ffôn: 0300 025 8582

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.