Mae'r ymchwil hon yn dangos agweddau tuag at wyddoniaeth ymhlith y cyhoedd yng Nghymru drwy arolwg. Mae hyn yn cynnwys eu hagweddau, eu dealltwriaeth a'u hymgysylltiad â gwyddoniaeth a thechnoleg.
Mae’r arolwg yn dangos bod agwedd y cyhoedd i wyddoniaeth a thechnoleg yn bositif iawn ar y cyfan.
Y datganiadau y cafwyd y lefelau uchaf yn cytuno â hwy oedd y rhai hynny oedd yn cysylltu gwyddoniaeth gyda llewyrch a thwf economaidd Cymru.
Cafodd pwysigrwydd addysg wyddonol ei bwysleisio ymhlith y cyhoedd. Byddai’r mwyafrif llethol o atebwyr yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy mewn ymchwil ac addysg wyddonol. Roedd y rhan fwyaf o atebwyr yn ystyried bod diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth yn fater pwysig i ddyfodol Cymru.
Gwnaethpwyd cymariaethau rhwng y gwaith ymchwil hwn ac arolygon o wledydd eraill, oedd â’r un cwestiynau. Ar y cyfan, roedd lefelau tebyg yn cytuno ac anghytuno ar draws yr arolygon hyn.
