Neidio i'r prif gynnwy

Fel rhan o’r gwaith ymchwil yma a gomisiynwyd gan Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru cafodd sampl o bobl Cymru eu holi ym mis Tachwedd 2021. Nod y gwaith ymchwil oedd deall yn well agweddau a chanfyddiadau’r cyhoedd ynghylch diben a gwerth gwyddoniaeth.

Ar y cyfan, roedd agweddau ymatebwyr at wyddoniaeth a thechnoleg yn gadarnhaol.

Roedd datganiadau gyda'r lefelau uchaf o gytundeb yn ymwneud â phwysigrwydd gwyddoniaeth wrth fynd i'r afael â materion cymdeithasol allweddol sy'n ymwneud â ffyniant ac iechyd a llesiant yn y dyfodol. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr hefyd yn cytuno bod diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth a chael addysg wyddonol dda yn bwysig.

Fodd bynnag, roedd bron i bedwar o bob deg cyfranogwr yn cytuno nad oeddent yn teimlo'n wybodus am wyddoniaeth.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn ystyried bod gwyddoniaeth yn bwysig er mwyn darparu technolegau newydd arloesol, a gwella iechyd pobl a'r amgylchedd.

Roedd diddordeb mewn derbyn mwy o wybodaeth wyddonol gyhoeddus am amrywiaeth o wahanol bynciau yn uchel. Roedd y lefelau uchaf o ddiddordeb yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy a chanser.

Y ffynonellau a ddefnyddiwyd fwyaf ar gyfer gwybodaeth am wyddoniaeth ac ymchwil oedd gwefannau newyddion cyffredinol a theledu a radio.

Mae'r canfyddiadau'n dangos bod COVID-19 wedi cael effaith gadarnhaol ar farn y cyhoedd am wyddoniaeth.

Lle defnyddiwyd cwestiynau tebyg, gwnaed cymariaethau rhwng yr ymatebion o sampl Mis Mawrth 2020 a sampl mis Tachwedd 2021.

Adroddiadau

Agweddau’r cyhoedd at wyddoniaeth yng Nghymru: Tachwedd 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Aimee Marks

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.