Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhoddodd Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru gomisiwn i Beaufort Research i gynnal arolwg o boblogaeth Cymru ym mis Tachwedd 2021, i gael dealltwriaeth well am ganfyddiadau ac agweddau’r cyhoedd ynglŷn â diben a gwerth gwyddoniaeth. Roedd yr arolwg yn cynnwys rhai o’r cwestiynau a ofynnwyd yn flaenorol mewn arolwg peilot ym mis Mawrth 2020.

Fe wnaeth yr arolwg ddefnyddio arolwg Omnibws Cymru Beaufort. Cynhaliwyd arolwg gyda sampl o 1,000 o oedolion 16+ oed ledled Cymru gan ddefnyddio panel ar-lein, gyda gwaith maes yn cael ei wneud rhwng 8 a 28 Tachwedd 2021. Fe ddefnyddiodd yr arolwg gwotâu i gael sampl a oedd wedi’i bwriadu i adlewyrchu poblogaeth Cymru o ran demograffeg oedran, rhywedd, awdurdod lleol a dosbarth cymdeithasol.

Prif ganfyddiadau

Ar y cyfan roedd agweddau’r ymatebwyr at wyddoniaeth a thechnoleg yn gadarnhaol, gyda chytundeb uchel â bron pob datganiad am wyddoniaeth. Roedd y lefelau cytundeb uchaf yn amlwg ar gyfer y datganiadau ‘Mae diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn hollbwysig er mwyn i Gymru ffynnu yn y dyfodol’, ‘Mae ymchwil wyddonol yn cyfrannu at iechyd a lles cymdeithas’, ‘Mae tyfu gwyddoniaeth yng Nghymru’n hanfodol i ffyniant yn y dyfodol’ ac ‘Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn bwysig i fynd i’r afael â heriau allweddol sy’n effeithio ar gymdeithas’, gyda lefelau cytundeb o oddeutu wyth ymhob deg ar gyfer pob un (80%, 80%, 79% a 78% yn y drefn honno).

Roedd bron i bedwar ymhob deg cyfranogwr (38%) yn cytuno â’r datganiad ‘Dydw i ddim yn teimlo fy mod i’n wybodus am wyddoniaeth’, serch hynny.

Gan gymharu canlyniadau mis Tachwedd 2021 â chanlyniadau mis Mawrth 2020, mae cytundeb ar y cyfan wedi gostwng ychydig ar bron pob dimensiwn cadarnhaol. Yr eithriad yw ar gyfer y datganiad ‘Hoffwn wybod mwy am wyddoniaeth’, lle mae cytundeb wedi codi yn 2021 i 61% (o 52% yn 2020).

Mae angen i gymariaethau uniongyrchol rhwng y ddwy set o ganfyddiadau gael eu trin â phwyll, fodd bynnag, gan bod geiriad llawer o’r datganiadau wedi newid ychydig yn 2021 a bydd y newid yn null cyfweld 2021 wedi effeithio ar y gallu i’w cymharu hefyd. Gan bod dull yr arolwg yn defnyddio sampl cwota, nid yw wedi’i fwriadu ychwaith i gymharu newidiadau dros amser y gellir eu cyffredinoli i lefel y boblogaeth. Gall ddarparu arwydd o’r gwahaniaethau barn rhwng y sampl ym mis Mawrth 2020 a’r sampl ym mis Tachwedd 2021.

Hyd at fis Mawrth 2020 roedd cyfweliadau ar Omnibws Cymru’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar gyfrifiaduron llechen gan ddefnyddio technoleg CAPI (Cyfweld Personol gyda Chymorth Cyfrifiadur). O ganlyniad i argyfwng iechyd y cyhoedd COVID-19, fe newidiodd cyfweliadau i ddull ar-lein gan ddefnyddio platfform cyfnewid panel ar-lein. Felly cafodd arolwg 2021 ei gynnal ar-lein, tra bo’r arolwg peilot ym mis Mawrth 2020 wedi cael ei gynnal trwy gyfweliadau yng nghartrefi ymatebwyr. Gallai newid y dull casglu data i gyfweliadau hunangwblhau ar-lein fod wedi arwain at rai newidiadau mewn canfyddiadau, oherwydd effaith modd.

Er bod cytundeb ar y cyfan â datganiadau yn yr arolwg ynglŷn â gwyddoniaeth wedi gostwng, a allai awgrymu bod agweddau at wyddoniaeth yn llai ffafriol, mae’r gyfran o’r cyhoedd a samplwyd sy’n cytuno’n gryf â phob datganiad cadarnhaol (lle gellir cymharu’n fras) wedi codi yn 2021. Felly mae’r gostyngiad mewn cytundeb ar y cyfan i’w briodoli i’r ffaith bod llai o gyfranogwyr yn 2021 wedi ateb ‘cytuno’ a bod mwy wedi ateb ‘ddim yn cytuno nac yn anghytuno’, yn hytrach na’i fod i’w briodoli i gynnydd mewn ymatebion negyddol. Mae’r gwahaniaeth yn debygol o fod wedi deillio o newid yn y fethodoleg rhwng arolygon 2020 a 2021.

Roedd bron i saith ym mhob deg aelod o’r cyhoedd a arolygwyd (68%) yn meddwl y dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn ymchwil, arloesi ac addysg ym maes gwyddoniaeth. Mae’r gyfran hon wedi gostwng ychydig o lefel 2020 (74%), sy’n debygol o fod yn effaith modd sy’n gysylltiedig â’r newid mewn methodoleg rhwng y ddau arolwg.

Roedd rhesymau digymell a roddwyd gan y rhai a oedd o blaid mwy o fuddsoddiad mewn gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar ei phwysigrwydd ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol (a grybwyllwyd gan 20% a oedd o’r farn hon) a phwysigrwydd gwyddoniaeth ynddi ei hun (a grybwyllwyd gan 15% a oedd o’r farn hon). Roedd y rhai nad oedd arnynt eisiau gweld mwy o fuddsoddiad gan y Llywodraeth yn fwyaf tebygol o wneud sylwadau negyddol cyffredinol am Lywodraeth Cymru pan ofynnwyd iddynt pam (15% o’r grŵp yma), neu o deimlo bod meysydd neu faterion pwysicach yr oedd angen darparu cyllid ar eu cyfer (14% o’r grŵp yma).

Roedd y mwyafrif llethol o oedolion yng Nghymru y cyfwelwyd â hwy yn 2021 (82%) yn meddwl ei bod hi’n bwysig bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael addysg wyddonol dda. Mae’r ganran hon wedi gostwng o 94% yn 2020, mwy na thebyg oherwydd y newid yn y dull casglu data.

Roedd gwyddoniaeth yn cael ei hystyried yn bwysig o ran gwella iechyd pobl, gwella’r amgylchedd, a chynhyrchu technolegau newydd arloesol gan bron i naw ymhob deg ymatebydd. Roedd hefyd yn cael ei hystyried yn bwysig er mwyn creu swyddi newydd gan bron i wyth ymhob deg o’r rhai y cyfwelwyd â hwy. Nid yw patrwm y canlyniadau yn 2021 wedi newid ers 2020 ac mae cefnogaeth i bwysigrwydd gwyddoniaeth yn dal i fod yn uchel, ond mae lefelau cytundeb ar y cyfan wedi gostwng ar bob un o’r dimensiynau. Eto, mae hyn i’w briodoli mwy na thebyg i’r newid yn y dull cyfweld.

Roedd diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth wyddonol gyhoeddus am ystod o wahanol destunau’n uchel. Y testunau a oedd yn ysgogi’r diddordeb mwyaf ar y cyfan oedd ‘Ynni adnewyddadwy’ a ‘Canser’ (gyda sgoriau diddordeb cymedrig o 8 allan o 10), ond roedd diddordeb mewn rhagor o wybodaeth am bob testun a gyflwynwyd yn uchel, gyda sgoriau cymedrig o oddeutu 7 ymhob 10 neu fwy ar gyfer pob un.

Ymddengys fod effaith COVID-19 ar farn y cyhoedd am wyddoniaeth yn gadarnhaol ar y cyfan. Dywedodd bron i saith ymhob deg o’r aelodau o’r cyhoedd a arolygwyd (69%) eu bod yn fwy tebygol o gytuno â’r datganiad ‘Mae gan wyddoniaeth rôl hollbwysig o ran datrys argyfyngau iechyd y cyhoedd’ oherwydd eu profiad o’r pandemig. Dywedodd 69% eu bod bellach yn fwy tebygol o gytuno â’r datganiad ‘Mae angen rhagor o gyllid ar wyddoniaeth’, ac roedd 63% bellach yn fwy tebygol o gytuno â’r datganiad ‘Mae gwyddoniaeth yn bwysig iawn i ddatrys materion mewn cymdeithas’.

Mae hyn yn rhoi arwydd o’r newidiadau mewn agweddau at wyddoniaeth o ganlyniad i bandemig COVID-19, ond dylid trin y canfyddiadau hyn yn ofalus, gan bod y cwestiwn hwn yn gofyn i gyfranogwyr gymharu eu barn gyfredol yn ôl-weithredol â’u barn cyn y pandemig.

Y ffynonellau a oedd yn cael eu defnyddio fwyaf i gael gwybodaeth am wyddoniaeth ac ymchwil oedd gwefannau newyddion cyffredinol a theledu a radio cyhoeddus, gyda bron i wyth ymhob deg o oedolion Cymru a arolygwyd yn dweud eu bod weithiau’n eu defnyddio at y diben hwn (ar 79% a 78% yn y drefn honno). Sianelau eraill a oedd yn cael eu defnyddio’n gyffredin oedd ffrindiau / cydweithwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a Facebook, Twitter neu rwydweithiau cymdeithasol eraill. Roedd y ffynonellau hyn yn cael eu defnyddio o leiaf yn achlysurol gan oddeutu chwech ymhob deg ymatebydd i gael gwybodaeth am wyddoniaeth ac ymchwil (ar 61% a 58% yn y drefn honno).

Manylion cyswllt

Awduron: Fiona McAllister and Owen Knight, Beaufort Research

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: ymchwildyfodolcynaliadwy@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 51/2022
ISBN digidol 978-1-80364-398-4

Image
GSR logo