Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg cynrychiadol o agweddau’r cyhoedd at y dreth gyngor ar gyfer 2023.

Cafodd cwestiynau yn ymwneud â gwybodaeth ac agweddau at y dreth gyngor eu cynnwys yn Arolwg Omnibws Cymru ym mis Mawrth 2023, gan ganolbwyntio ar ganfyddiadau o degwch y dreth gyngor ac opsiynau ar gyfer ei diwygio.

Prif ganfyddiadau

  • Roedd yr ymatebwyr i’r arolwg wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y rhai a ddywedodd eu bod yn gwybod cryn dipyn am y dreth gyngor a’r rhai a ddywedodd eu bod yn gwybod ychydig iawn am y dreth gyngor.
  • Pan ofynnwyd iddynt enwi gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, y gwasanaethau mwyaf cyffredin a enwyd oedd casglu gwastraff, gwasanaethau heddlu a cynnal a chadw priffyrdd.
  • Dangosodd yr arolwg fod y mwyafrif o’r ymatebwyr yn gweld talu’r dreth gyngor yn broses syml, y byddent yn gwybod â phwy i gysylltu os oedd ganddynt broblem gyda’r dreth gyngor.
  • Roedd gan ymatebwyr agweddau cymysg o ran ymwybyddiaeth ynglyn a os yw eu bil treth gyngor yn adlewyrchu gwerth presennol eu cartref.
  • Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn anghytuno eu bod wedi gweld budd yn sgil buddsoddi’r dreth gyngor yn eu cymuned leol neu fod system y dreth gyngor yn deg, a dywedodd y rhan fwyaf nad oedd yn glir iddynt sut y caiff y dreth gyngor ei gwario.
  • Roedd gan yr ymatebwyr agweddau cymysg ar y graddau y mae system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu, ac a oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros gyfraddau’r dreth gyngor.
  • Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr fod y dreth gyngor y disgwylir iddynt ei thalu yn rhy uchel. Fodd bynnag, pan gawsant wybodaeth am y gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, dywedodd cyfran lai o ymatebwyr fod eu bil treth gyngor yn rhy uchel, gyda chyfran uwch o ymatebwyr yn disgrifio eu bil fel un cywir fwy neu lai neu ei fod yn rhy isel yng ngoleuni’r wybodaeth hon.
  • Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno y dylid disodli’r dreth gyngor gan system wahanol o drethi lleol i’w gwneud yn fwy teg. Pan ofynnwyd iddynt am ddewisiadau eraill, ystyriwyd mai system o drethi lleol yn seiliedig ar incwm oedd y system decâ.
  • O ran yr hyn a ddylai fod yn nodau system newydd o drethi lleol, awgrymodd ymatebwyr mai cael systemau talu syml yw’r nod pwysicaf.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn ei chael hi'n hawdd dod o hyd i wybodaeth am eu treth gyngor a'r rhan fwyaf yn cael gafael ar y wybodaeth hon gan ddefnyddio gwefan cyngor lleol.

Adroddiadau

Agweddau’r cyhoedd at y dreth gyngor: 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 777 KB

PDF
777 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tîm ymchwil a gwasanaethau cyhoeddus

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.