Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal rhaglen ymchwil i lywio'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio'r dreth gyngor er mwyn sicrhau system decach a mwy graddoledig.

Mae ymchwil flaenorol wedi nodi nad yw lefelau ymwybyddiaeth o drethi lleol nac agweddau tuag atynt yn glir ac mai anaml y cânt eu mesur. Am y rheswm hwn, mae'r ymchwil hon wedi cynnwys ystyried dealltwriaeth y cyhoedd o system y dreth gyngor yng Nghymru ac a ydynt yn ei derbyn. Am y rheswm hwn, comisiynodd Llywodraeth Cymru gwestiynau ychwanegol am agweddau tuag at y dreth gyngor yn ystod cam mis Mawrth 2022 Arolwg Omnibws Cymru (a gynhaliwyd gan Beaufort Research Ltd), gyda gwaith dadansoddi yn cael ei wneud yn fewnol gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi. Cyhoeddwyd adroddiad yn cyflwyno'r canfyddiadau, Arolwg o agweddau’r cyhoedd at y dreth gyngor, ym mis Gorffennaf 2022 (Mack ac Owens, 2022). Er mwyn ystyried unrhyw newidiadau mewn agweddau at y dreth gyngor yng Nghymru ers mis Mawrth 2022, comisiynodd Llywodraeth Cymru gyfres bellach o gwestiynau yn nhon mis Mawrth 2023 o'r arolwg.

Diben yr ymchwil hon oedd ystyried canfyddiadau'r cyhoedd o degwch y dreth gyngor. Roedd hyn yn cynnwys dyluniad y dreth a sut mae'n cael ei gweinyddu yn ogystal â'r ffordd y caiff ei defnyddio a'i buddsoddi mewn cymunedau. Ceisiodd hefyd ystyried y gydberthynas rhwng y lefel o wybodaeth a dealltwriaeth o'r dreth gyngor a chanfyddiadau o ran ei thegwch a chasglu barn ynghylch a ddylid diwygio'r dreth yn y dyfodol. Roedd cyfres ychwanegol o gwestiynau a gynhwyswyd yn arolwg 2023 yn edrych ar y ffordd y mae pobl yn cael gwybodaeth am y dreth gyngor.   

Mae Arolwg Omnibws Cymru yn cynnwys cyfweliadau â sampl gynrychioliadol o 1,000 o oedolion 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru, o leiaf. Ni ellir pennu arwyddocâd ystadegol gwirioneddol ar gyfer y dull samplu hwn; mae gwahaniaethau 'arwyddocaol' sy'n seiliedig ar ddata o Arolwg Omnibws Cymru yn cyfeirio at wahaniaeth arwyddocaol ffug-ystadegol ar 95% o'r lefel hyder.

Gwnaed gwaith maes ar gyfer cam mis Mawrth 2022 Arolwg Omnibws Cymru rhwng 27 Chwefror a 19 Mawrth 2023. Cwlbhawyd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau.

Gwybodaeth ac agweddau tuag at system bresennol y dreth gyngor

Roedd yr ymatebwyr i'r arolwg wedi'u rhannu'n gyfartal rhwng y rhai a nododd eu bod gwybod eithaf tipyn am y dreth gyngor a'r rhai a nododd nad oeddent yn gwybod fawr ddim amdani.

Nododd tua hanner yr ymatebwyr (46%) eu bod yn gwybod eithaf tipyn am y dreth gyngor, gyda 42% yn nodi nad oeddent yn gwybod fawr ddim amdani. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl rhyw, oedran, statws gwaith a deiliadaeth tai. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn gwybod llawer iawn neu eithaf tipyn am y dreth gyngor yn ddynion, yn 55 oed neu drosodd, wedi ymddeol neu'n berchenogion eiddo. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o nodi nad oeddent yn gwybod fawr ddim am y dreth gyngor, os o gwbl, yn fenywod, yn 16 i 34 oed, yn fyfyrwyr, yn ennill llai na £19,999 y flwyddyn neu’n rhentwyr cymdeithasol.

Pan ofynnwyd i ymatebwyr enwi gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, y gwasanaethau mwyaf cyffredin a enwyd oedd casglu gwastraff (47%), yr heddlu (40%) a phriffyrdd (25%).

Dangosodd yr arolwg fod y mwyafrif o'r ymatebwyr yn ystyried bod talu'r dreth gyngor yn broses syml, eu bod yn gwybod â phwy y dylent gysylltu pe bai ganddynt broblem gyda'r dreth gyngor ac nad oeddent yn ei chael hi'n anodd deall eu bil treth gyngor.

Roedd tua wyth o bob 10 ymatebydd (80%) yn cytuno bod talu'r dreth gyngor yn broses syml. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl oedran, statws gwaith, deiliadaeth tai a statws anabledd. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod talu'r dreth gyngor yn broses syml yn 55+ oed, wedi ymddeol, yn berchnogion eiddo, neu nad oeddent yn anabl.

Roedd tri o bob pum ymatebydd (60%) yn cytuno eu bod yn ymwybodol o'r cymorth a all fod ar gael i dalu'r dreth gyngor. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, statws gweithio, deiliadaeth eiddo, strwythur yr aelwyd a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno eu bod yn ymwybodol o'r cymorth a all fod ar gael i dalu'r dreth gyngor yn 55 oed neu drosodd, wdi ymddeol, o aelwydydd un aelod neu’n derbyn disgowntiau neu ostyngiadau yn eu treth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno eu bod yn ymwybodol o'r cymorth a all fod ar gael i dalu'r dreth gyngor yn rhentwyr preifat.

Roedd tua dau o bob tri ymatebydd (69%) yn anghytuno â'r gosodiad nad ydynt yn gwybod â phwy y dylent gysylltu pe bai ganddynt broblem gyda'r dreth gyngor. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl rhyw, oedran, bandiau incwm a statws gweithio. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno nad oeddent yn gwybod â phwy y dylent gysylltu pe bai ganddynt broblem gyda'r dreth gyngor yn ddynion, yn 16 i 34 oed, yn ennill £75,000 neu fwy y flwyddyn neu’n fyfyrwyr llawn amser.

Roedd tua dau o bob tri ymatebydd (63%) yn anghytuno â'r gosodiad bod eu biliau treth gyngor yn anodd i'w deall. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl deiliadaeth eiddo, oedran a statws gweithio. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod eu bil treth gyngor yn anodd i'w ddeall yn berchnogion eiddo neu wedi ymddeol.

Cymysg oedd agweddau'r ymatebwyr o ran a yw eu bil treth gyngor yn adlewyrchu gwerth presennol eu cartref.

Roedd bron i hanner yr ymatebwyr (48%) yn cytuno bod eu bil treth gyngor yn adlewyrchu gwerth presennol eu cartref. Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl oedran, statws gweithio, band incwm a deiliadaeth eiddo. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod eu biliau treth gyngor yn adlewyrchu gwerth presennol eu cartref yn 55 oed neu drosodd, yn ddi-waith, yn ennill £75,000 neu fwy y flwyddyn neu’n berchenogion eiddo.

Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn anghytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor yn cael ei buddsoddi yn eu cymuned leol neu fod system y dreth gyngor yn deg a nododd dros hanner nad oedd yn glir iddyn nhw sut mae'r dreth gyngor yn cael ei gwario.

Roedd y mwyafrif (59%) o'r ymatebwyr yn anghytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor yn cael ei buddsoddi yn eu cymuned leol. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl rhanbarth, rhyw, oedran, statws gweithio, bandiau incwm a band y dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor yn cael ei buddsoddi yn eu cymuned leol yn ddynion, yn ddi-waith neu ym mandiau E, F, G, H, I y dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno eu bod wedi gweld budd y dreth gyngor yn cael ei buddsoddi yn eu cymuned leol o Ogledd Cymru neu’n 35 i 54 oed.

Roedd mwy na hanner (56%) o'r ymatebwyr yn anghytuno â'r gosodiad bod system y dreth yn deg. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl rhyw, oedran, band incwm a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod system y dreth gyngor yn deg yn ddynion, yn 16 i 34 oed neu’n ennill mwy na £75,000 y flwyddyn. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno bod system y dreth gyngor yn deg yn bobl a oedd yn talu'r dreth gyngor yn llawn.

Roedd mwy na hanner yr ymatebwyr (54%) yn cytuno nad oedd yn glir iddynt sut mae'r dreth gyngor yn cael ei gwario. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl rhanbarth, oedran, statws gweithio, bandiau incwm, deiliadaeth eiddo a band y dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno nad oedd yn glir iddynt sut mae'r dreth gyngor yn cael ei gwario o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn 55 oed neu drosodd, wedi ymddeol, yn ennill rhwng £30,000 a £49,999  y flwyddyn, yn berchenogion eiddo neu ym mandiau E, F, G, H neu I y dreth gyngor.

Cymysg oedd agweddau'r ymatebwyr ynghylch i ba raddau y mae system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu ac a oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros gyfraddau'r dreth gyngor.

Roedd tua dau o bob pump ymatebydd (43%) yn cytuno bod system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl rhyw, oedran, statws gweithio, banciau incwm, deiliadaeth eiddo a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno bod system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu yn ddynion, yn bobl wedi ymddeol neu nad oeddent yn gweithio'n barhaol neu’n unigolion nad oeddent yn talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno bod system y dreth gyngor yn cefnogi pobl na allant fforddio talu yn 16 i 34 oed ac yn 35-54 oed neu’n byw mewn llety rhent preifat.

Roedd yr ymatebion wedi'u rhannu'n weddol gyfartal o ran y gosodiad nad oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros gyfraddau'r dreth gyngor, gyda 42% yn anghytuno â'r gosodiad hwn a 26% yn ateb, 'ddim yn gwybod'. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl rhanbarth, rhyw, oedran, statws gweithio a deiliadaeth eiddo. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno nad oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros gyfraddau'r dreth gyngor o'r Cymoedd. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno nad oes gan gynghorau lleol ddigon o reolaeth dros gyfraddau'r dreth gyngor yn ddynion, yn 55 oed neu drosodd, wedi ymddeol neu’n berchenogion eiddo.

Nododd y mwyafrif o'r ymatebwyr fod swm y dreth gyngor y mae disgwyl iddynt ei dalu yn rhy uchel.

Nododd tua thri o bob pum ymatebydd (61%) fod eu bil treth gyngor yn rhy uchel. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, statws gweithio, band incwm a band y dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o nodi bod y dreth gyngor yn 'rhy uchel' ym mand D y dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn llai tebygol o nodi bod y dreth gyngor yn 'rhy uchel' yn 16 i 34 oed, yn ddi-waith neu’n ennill llai na £9,999 y flwyddyn.

Nododd tua chwarter yr ymatebwyr (27%) fod swm y dreth gyngor y mae disgwyl iddynt ei dalu yn 'agos at ei le'. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl oedran, band incwm a band y dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o nodi bod y dreth gyngor yn 'agos at ei lle' yn 16 i 34 oed. Roedd ymatebwyr a oedd yn llai tebygol o nodi bod y dreth gyngor yn 'agos at ei lle' yn tueddi ennill rhwng £20,000 a £29,999 y flwyddyn neu ym mand D y dreth gyngor.

Pan ddarparwyd gwybodaeth am y gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, nododd cyfran lai fod y dreth gyngor y gofynnir iddynt ei thalu yn rhy uchel (49% o'i gymharu â 61% cyn darparu'r wybodaeth). Nododd cyfran fwy o'r ymatebwyr fod y swm y disgwylir iddynt ei dalu tua'r dde (33%, o'i gymharu â 27% cyn darparu'r wybodaeth).

Agweddau tuag at newid

Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn cytuno y dylid disodli'r dreth gyngor â system drethiant leol wahanol er mwyn ei gwneud yn decach. Pan gawsant eu holi am opsiynau eraill, ystyriwyd mai system drethiant leol yn seiliedig ar eich incwm oedd y system decaf.

Roedd tua dau o bob pum cyfranogwr (39%) yn cytuno y dylid disodli'r dreth gyngor â system arall, roedd 16% yn anghytuno a rhoddodd 45% yr ateb ‘ddim yn gwybod’ i'r cwestiwn. Roedd gwahaniaethau arwyddocaol yn ôl rhyw, oedran, statws gweithio, band incwm, deiliadaeth a statws talu'r dreth gyngor. Roedd ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o gytuno y dylid disodli'r dreth gyngor â system arall yn ddynion, yn gyflogeion amser llawn neu’n berchenogion eiddo. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn fwy tebygol o anghytuno y dylid disodli'r dreth gyngor â system arall yn 16 i 34 oed neu’n talu bil treth gyngor llawn.

Nododd tua hanner yr ymatebwyr (45%) mai ‘eich incwm’ oedd y mesur tecaf o system drethiant leol newydd. Nododd un o bob 10 ymatebydd (7%) mai ‘gwerth y tir lle y lleolir eich eiddo’ oedd y mesur tecaf. Nododd tua hanner yr ymatebwyr (54%) mai system lle mae pawb yn talu'r un swm oedd y mesur lleiaf teg.

Nododd yr ymatebwyr mai sicrhau bod trethi lleol yn glir ac yn hawdd i'w deall ddylai fydd y nod pwysicaf ar gyfer system drethiant leol newydd.

Pan ofynnwyd iddynt sgorio cyfres o osodiadau yn ôl eu pwysigrwydd ar raddfa o 1 i 10 (lle roedd 1 yn dynodi 'ddim yn bwysig o gwbl' a 10 yn dynodi 'cwbl hanfodol') roedd y canlyniadau yn dangos mai nod pwysicaf trethiant lleol, yn ôl yr ymatebwyr, oedd sicrhau bod trethi lleol yn glir ac yn hawdd i'w deall. Rhoddodd yr ymatebwyr sgôr gyfartalog gymedrig o 8.60 ar gyfer pwysigrwydd i'r gosodiad hwn. Cafodd y nod o sicrhau bod biliau treth gyngor yn ‘adlewyrchu'r gallu i dalu’ y sgôr gyfartalog gymedrig isaf ar gyfer pwysigrwydd, sef 7.92.

Nododd tua nododd tua dau o bob pum ymatebydd (44%) fod y gosodiad 'dylai systemau talu fod yn glir ac yn hawdd i'w deall' yn gwbl hanfodol, tra nododd un o bob tri ymatebydd (34%) fod y gosodiad 'dylai biliau treth lleol adlewyrchu'r gallu i dalu' yn gwbl hanfodol.

Cael gwybodaeth am y dreth gyngor

Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn gallu cael gwybodaeth am eu treth gyngor yn hawdd ac roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi cael y wybodaeth hon drwy ddefnyddio gwefan awdurdod lleol.

Nododd bron i hanner (43%) yr ymatebwyr eu bod wedi cael gwybodaeth am eu treth gyngor ar wefan awdurdod lleol. Nododd 43% nad oeddent wedi defnyddio'r un o'r uchod. Nodod y mwyafrif o’r ymatebwyr hyn eu bod yn hawdd cael gwybodaeth ar wefan yr awdurdod lleol. Roedd yr ymatebwyr hynny a oedd yn fwy tebygol o gael gwybodaeth gan ddefnyddio gwefan cyngor lleol o Ganolbarth/Gorllewin Cymru, yn 35 i 54 oed, yn rhentwyr preifat, yn bobl anabl neu'n bobl â salwch cyfyngol neu broblem iechyd neu’n cael disgowntiau neu ostyngiadau yn eu treth gyngor.

Nododd tua un o bum ymatebydd (21%) eu bod yn defnyddio gwefan Llywodraeth Cymru. Nododd y mwyafrif o’r ymatebwyr ei bod yn hawdd cael gwybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru (76%). Roedd y rhai a oedd yn fwy tebygol o gael gwybodaeth gan ddefnyddio gwefan Llywodraeth Cymru yn ddynion, yn 16 i 34 oed, yn ennill £75,000 neu’n rhentwyr cymdeithasol.

Atebodd bron i hanner yr ymatebwyr (43%) nad oeddent yn defnyddio unrhyw un o'r categorïau a restrir i gael gafael ar wybodaeth am eu treth gyngor.

Manylion cyswllt

Awduron: Emily Tyler a Nerys Owens

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm ymchwil a gwasanaethau cyhoeddus
Ebost: ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 82/2023
ISBN digidol: 978-1-83504-558-9

Image
GSR logo