Yr Ail Gyllideb Atodol a osodwyd gerbron y Senedd gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid ar 13 Hydref 2026.
Dogfennau
Cynnig y Gyllideb Atodol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 392 KB
Nodyn esboniadol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Dyraniadau prif grwpiau gwariant , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 80 KB
Cronfeydd wrth gefn , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 19 KB
Ailddatganiad o Gyllideb Derfynol 2026-2027: portffolios gweinidogol newydd , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 36 KB
Ailddatganiad o Gyllideb Derfynol 2026-2027: Ailddyrannu RRDEL i AME , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 29 KB
Manylion
Mae'r gyllideb atodol hon yn ailddatgan y dyraniadau a gynhwyswyd yn flaenorol yn y Gyllideb Atodol Gyntaf a gyhoeddwyd ar 23 Mehefin, na chawsant eu cymeradwyo gan y Senedd. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys dyraniad ychwanegol hefyd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llafur Cymru.
Fel y'i cyflwynwyd yn y Gyllideb Atodol Gyntaf, mae'r gyllideb hon yn unioni nifer o drosglwyddiadau gyda Llywodraeth y DU ac yn cynnwys addasiadau i gyllideb Cymru i adlewyrchu effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU.
Mae hefyd yn cynnwys ailddatganiad o Gyllideb Derfynol eleni i adlewyrchu'r portffolios Gweinidogol newydd, ac mae'n ailddosbarthu cyllidebau blaenorol – sef cyllidebau adnoddau anghyllidol wedi'u clustnodi – yn Wariant a Reolir yn Flynyddol. Mae hyn yn dilyn newid technegol i'r ffordd mae Trysorlys Ei Fawrhydi yn categoreiddio cyllidebau.
