Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch am y gyfraith ar ailgylchu yn y gweithle.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pwy ddylai ddarllen y canllaw hwn

Cafodd y gyfraith ailgylchu a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2024 ei diweddaru ym mis Ebrill 2026 ac mae’n berthnasol i holl weithleoedd Cymru.

Dyma grynodeb o’r gofynion.

Ers 6 Ebrill 2024, mae angen i bob gweithle, fel busnesau, y sector cyhoeddus, ac elusennau, wahanu eu deunyddiau ailgylchadwy yn yr un modd ag y gwnaiff y rhan fwyaf o aelwydydd eisoes.

Mae’n berthnasol i holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu sy’n rheoli gwastraff sy’n debyg i wastraff domestig o weithleoedd.

Pam y cyflwynwyd y gyfraith a'r manteision

Cymru yw ail genedl orau’r byd am ailgylchu gwastraff o aelwydydd ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae ein hawdurdodau lleol yn ailgylchu ychydig dros 68% o’r deunydd a gesglir. Mae hyn yn helpu i arbed oddeutu 400,000 o dunelli o allyriadau carbon bob blwyddyn. 

Y nod yw datblygu ar lwyddiant ailgylchu o gartrefi a sicrhau cyfraddau ailgylchu uchel mewn gweithleoedd hefyd. Dyma fanteision cynyddu’r gyfradd ailgylchu:

  • cynyddu faint o ddeunydd eilgylch y gall cynhyrchwyr yng Nghymru ei ddefnyddio, ac yn gwella’i ansawdd
  • cefnogi gweithleoedd i leihau eu gwastraff
  • lleihau allyriadau carbon
  • helpu’r economi greu Cymru werddach

Beth yw’r gyfraith

Mae angen i weithleoedd wahanu’r deunyddiau a restrir isod ar gyfer eu hailgylchu. Mae angen i weithleoedd hefyd drefnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall.

  • papur a cherdyn
  • gwydr
  • metel, plastig, a chartonau a deunyddiau eraill tebyg (er enghraifft, cwpanau coffi)
  • bwyd – dim ond ar gyfer mannau sy’n creu mwy na 5kg yr wythnos o wastraff bwyd
  • cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (sWEEE) bach, a
  • tecstilau heb eu gwerthu

Ni chaniateir rhoi eich holl wastraff mewn un bin os oes unrhyw rai o’r deunyddiau hyn ynddo.
Rhaid cadw pob grŵp deunyddiau ar wahân i’w gilydd. Er enghraifft, rhaid casglu gwydr ar ei ben ei hun, ond caiff gweithleoedd gasglu metel, plastig a chartonau gyda’i gilydd mewn un cynhwysydd. Cyn rhoi eitemau yn y biniau ailgylchu, ystyriwch a allech eu hailddefnyddio at ddiben gwahanol.

Gwaharddiadau sydd wedi’u cynnwys yn y gyfraith

Mae’r gyfraith hefyd yn cynnwys gwaharddiadau ar:

  • anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd;
  • unrhyw wastraff sydd wedi’i wahanu i’w ailgylchu rhag mynd i dirlenwi neu i gyfleusterau llosgi (heblaw’r rhan fwyaf o decstilau, sy’n cael mynd i gyfleusterau llosgi – ond nid oes hawl llosgi tecstilau sydd heb eu gwerthu, na’u hanfon i dirlenwi); ac
  • anfon unrhyw wastraff bwyd i dirlenwi.

Ar gyfer gweithleoedd sy’n creu ac yn trin gwastraff bwyd

Mae’r gyfraith i wahanu ac ailgylchu gwastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw eiddo sy’n creu mwy na 5kg o wastraff bwyd fesul wythnos, fel:

  • gwestai
  • bwytai
  • caffis
  • tecawês
  • busnesau arlwyo (yn cynnwys y rhai mewn digwyddiadau fel stondinau bwyd)
  • neuaddau bwyta mewn canolfannau siopa
  • ffreuturau
  • tafarndai
  • swyddfeydd gyda ffreuturau, caffis, neu gyfleusterau cegin i’w staff
  • ysgolion, colegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai
  • unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd

Os ydych chi’n creu unrhyw wastraff bwyd, ni chewch ei roi i lawr y sinc, na’i arllwys i ddraen neu garthffos gyhoeddus.

Mae hyn yn cynnwys defnyddio mwydwyr (neu dechnolegau cyffelyb fel treulwyr ensymau neu ddulliau tynnu dŵr) i gael gwared ar wastraff bwyd lawr y sinc i ddraen neu garthffos. Nid oes angen tynnu mwydwyr, ond gallech ddewis eu tynnu i atal staff rhag eu defnyddio.

Help i reoli eich gwastraff bwyd

Dyma wybodaeth am sut i reoli eich gwastraff bwyd, a allai fod o gymorth i’ch gweithle.

Rhowch gynnig ar chwilio’r we am:

Sut caiff y gyfraith ei gorfodi

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod deunyddiau yn cael eu gwahanu a’u casglu’n gywir, a bod y gwaharddiad ar anfon ailgylchu i dirlenwi neu i’w losgi yn cael ei ddilyn.

Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y gwaharddiad ar wastraff bwyd yn mynd i garthffosydd yn cael ei ddilyn.

Os nad ydych yn cydymffurfio â’r gyfraith, gallai olygu dirwy i’ch gweithle.

Pwy sy’n gyfrifol am ddilyn y gyfraith

Mae yn ofynnol i bob gweithle yng Nghymru ddilyn y gyfraith newydd. Mae’n bosibl mai’r busnes fydd perchennog yr eiddo, neu efallai eu bod yn ei brydlesu neu ei rentu, neu yn ei feddiannu dros dro.

Y rhai sy’n meddiannu’r gweithle sy’n gorfod sicrhau bod ailgylchu yn cael ei wahanu ar gyfer ei gasglu. Os bydd nifer o weithleoedd yn rhannu lleoliad, mae pob busnes unigol yn gyfrifol ond efallai y bydd angen iddynt gytuno gyda landlord neu reolwr cyfleusterau os oes angen system ailgylchu ganolog.

Sut i sicrhau eich bod yn cydymffurfio

Dylech ystyried sut rydych chi'n rheoli eich gwastraff. Mae hyn yn golygu rhoi systemau ar waith yn eich gweithle, a bod eich casglwr gwastraff yn gallu diwallu eich anghenion.

Mae’n bwysig darllen y Cod Ymarfer ar Gasglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân i’w Hailgylchu sy’n manylu ymhellach ar sut i gydymffurfio â’r gyfraith i wahanu gwastraff a’i gadw ar wahân i’w ailgylchu.

Dyma rai camau y dylech eu cymryd:

  1. Cynnal sgwrs gyda’ch casglwr ailgylchu a gwastraff i wneud yn siŵr eu bod yn gallu casglu eich ailgylchu wedi’i wahanu. Efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â chasglwyr gwastraff eraill i ddewis y gwasanaethau mwyaf addas i chi am y pris gorau.
  2. Edrychwch ar ble, sut a pham mae gwastraff yn cael ei greu ar eich eiddo. A allwch chi ailddefnyddio unrhyw eitemau cyn eu rhoi yn y bin ailgylchu? Efallai y gallech newid sut rydych yn prynu nwyddau er mwyn helpu i leihau faint o wastraff rydych yn ei greu yn y lle cyntaf. Ystyriwch a allwch chi leihau’r deunyddiau a ddefnyddiwch a allai fod yn anodd eu hailgylchu.
  3. Ystyriwch pa finiau mewnol ac allanol y gallai fod eu hangen arnoch. Edrychwch ar y cynwysyddion y bydd eu hangen arnoch ar gyfer pob un o’r gwahanol ddeunyddiau ailgylchu y tu mewn a’r tu allan i’ch eiddo. Dylai eich casglwr gwastraff allu rhoi cyngor ichi ar y cyfuniad gorau o gynwysyddion allanol a pha mor aml y byddant yn cael eu casglu. Mae’n well, ac yn aml yn haws, gwahanu deunyddiau i’w hailgylchu cyn gynted ag y maent wedi cael eu defnyddio, yn hytrach na cheisio eu gwahanu’n hwyrach ymlaen. Rhaid gwahanu’r mathau gwahanol o ddeunyddiau ailgylchu er mwyn i’ch casglwr gwastraff allu eu cludo ymaith. Ceisiwch wneud ailgylchu yn haws i staff ac ymwelwyr na rhoi pethau yn y bin gwastraff cyffredinol.
  4. Siaradwch gyda’ch staff er mwyn iddyn nhw gael gwybod am y gyfraith newydd. Efallai y bydd ganddyn nhw syniadau am sut i wneud i bethau weithio. Bydd deunyddiau fel posteri, arwyddion ar gyfer biniau allanol a deunyddiau hyfforddiant staff ar gael i’ch helpu. 
  5. Gwnewch yn siŵr bod eich biniau ailgylchu’n hygyrch. Mae’n bwysig bod eich biniau’n hygyrch i’ch holl gwsmeriaid, er enghraifft, eu rhoi mewn lleoedd sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwynion.
  6. Meddyliwch am iechyd a diogelwch staff. Ceisiwch wneud yn siŵr bod eich dull o storio gwastraff a sut rydych yn ei symud yn lleihau’r perygl o ddamweiniau. Mae’n bwysig bod biniau, a mannau storio gwastraff, o’r maint iawn, yn hawdd eu cyrraedd, yn hawdd eu symud, ac nad ydyn nhw’n rhwystro allanfeydd argyfwng.

Dyletswydd gofal

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n creu gwastraff neu’n ei drin ei gadw’n ddiogel, gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ymdrin ag ef mewn modd cyfrifol a dim ond yn cael ei roi i fusnesau sydd wedi’u hawdurdodi i’w gymryd. Gelwir hyn yn ‘Ddyletswydd Gofal’.

Mae’n bwysig eich bod yn deall y Ddyletswydd Gofal a’r gyfraith newydd i sicrhau eich bod yn bodloni eich ymrwymiadau yn ôl y gyfraith.

Cyfeiriwch at Gyfoeth Naturiol Cymru ar Ddyletswydd Gofal Gwastraff i Sefydliadau.

Dylunio i ddiddymu gwastraff

Efallai y byddwch yn gallu dychwelyd deunydd pacio i’ch cyflenwyr i’w ailddefnyddio neu ei ailgylchu.

Wrth i fwy o wastraff gael ei ailgylchu, gallech leihau maint eich cynwysyddion gwastraff cyffredinol neu amlder eu casglu. Mae’n bosibl y gallai yn arbed arian i chi.

Cynwysyddion a storio ailgylchu

Nid yw pob darparwr gwasanaeth gwastraff yn codi ffi am hurio biniau. 

Mae rhai casglwyr gwastraff bwyd arbenigol yn cynnig gwasanaeth sy’n cyfnewid biniau llawn am finiau gwag.

Gwnewch yn siŵr bod eich biniau y tu allan wedi’u labelu’n addas a’u bod yn ddiogel.

Mwy o gymorth a chanllawiau

Mae WRAP (y Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau) wedi darparu'r wybodaeth ganlynol:

  • enghreifftiau o sut mae gweithleoedd yn ailgylchu fel hyn.
  • canllawiau ar gyfer mathau penodol o weithleoedd gyda mwy o fanylder am sut i baratoi, yn cynnwys:
    • lletygarwch a gwasanaethau bwyd
    • manwerthu
    • busnesau bach a chanolig (SME)
    • lleoliadau addysg a phrifysgolion
    • lleoliadau preswyl (yn cynnwys cartrefi gofal)
    • digwyddiadau awyr agored (yn cynnwys gwyliau)
    • cyfleusterau adloniant a hamdden (yn cynnwys meysydd gwersylla, chalets, cabanau gwyliau, gwestai, carafanau)
  • recordiadau o weminarau ar-lein.
  • adnoddau cyfathrebu i’w lawrlwytho, er enghraifft arwyddion biniau a phosteri i’w defnyddio yn eich gweithle

Darganfyddwch fwy am ailgylchu yn y gweithle gan gynnwys y Cod Ymarfer sy’n rhoi gwybodaeth fanylach am y newidiadau.